Sut i Dalu - Ar-lein

Sut i dalu'r cyngor

Y ffordd hawsaf o'n talu ni yw ar-lein.
Gallwch hefyd dalu dros y ffôn, drwy’r post neu wyneb yn wyneb.

 

1. Talu ar-lein

2. Talu dros y ffôn (24 awr)

3. Talu trwy ddebyd uniongyrchol

4. Archeb sefydlog neu fancio ar-lein

5. Talu drwy’r Ganolfan Gyswllt

6. Talu yn bersonol

7. Talu drwy’r post



 

 

1. Talu ar-lein (cyflymaf a hawsaf)

Gallwch dalu ar-lein gan ddefnyddio Fy Nghyfrif.

Gallwch ddefnyddio:

  • cerdyn debyd neu gredyd
  • cerdyn wedi’i gadw yn eich Waled ar Fy Nghyfrif
  • PayPal

Ewch i Fy Nghyfrif

 

 

 

2. Talu dros y ffôn (24 awr)

Gallwch wneud taliadau unrhyw bryd gan ddefnyddio ein llinell dalu awtomataidd.

Ffoniwch 1437 775164.

 

Mae’r gwasanaeth hwn:

  • ar agor 24 awr
  • yn llwyr ddwyieithog
  • wedi'i arwain gam wrth gam

 

Cadwch eich rhif cyfeirnod taliad wrth law. Gallwch ddod o hyd i hwn ar eich anfoneb.

 

 

 

3. Talu trwy ddebyd uniongyrchol

Mae debyd uniongyrchol yn syml ac yn ddiogel. Cymerir taliadau’n awtomatig.

 

Y Dreth Gyngor

Gallwch chi drefnu debyd uniongyrchol ar-lein.

 

Biliau Cyngor eraill

Gallwch chi drefnu hyn dros y ffôn.
Ffoniwch 01437 764551.

Rhaid i'r sawl sy'n talu'r bil i ffonio a chael manylion ei gyfrif banc wrth law.

 

 

 

4. Archeb sefydlog neu fancio ar-lein

Os ydych chi eisiau talu drwy archeb sefydlog neu fancio ar-lein, defnyddiwch y manylion hyn:

  • Banc: Banc Barclays, 32 Stryd Fawr, Hwlffordd, SA61 2DA
  • Cod didoli: 20‑37‑90
  • Enw’r cyfrif: Cyngor Sir Penfro
  • Rhif y cyfrif: 53671917

Rhaid i chi gynnwys y cyfeirnod talu cywir.

 

 

 

5. Talu drwy’r Ganolfan Gyswllt

Os na allwch dalu ar-lein neu drwy'r llinell awtomataidd, gallwch ffonio ein Canolfan Gyswllt.

  • Ffoniwch 01437 764551
  • Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Ffordd ddiogel o dalu dros y ffôn

Er eich diogelwch, ni fyddwn yn gofyn i chi ddarllen manylion eich cerdyn yn uchel.
Yn lle hynny, byddwch chi'n teipio rhifau eich cerdyn ar fysellbad eich ffôn.

 

 

 

6. Talu yn bersonol

Os na allwch dalu ar-lein neu dros y ffôn, gallwch dalu yn bersonol yn:

  • Prif Dderbynfa, Neuadd y Sir, Hwlffordd
  • Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

 

Os mai dim ond ag arian parod y gallwch dalu, ffoniwch ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ni helpu:
01437 764551

 

 

 

7. Talu drwy’r post

Gallwch anfon siec yn daladwy i Gyngor Sir Penfro.

 

Anfonwch ef i:

Cyngor Sir Penfro
[Enw'r adran, os yw'n hysbys]
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

 

Ysgrifennwch rif cyfeirnod eich taliad ar gefn y siec.
Gall peidio â chynnwys y cyfeirnod beri oedi i’ch taliad.

 

Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.

 

Angen cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau gyda thaliad, anfonwch e-bost neu ffoniwch ein Canolfan Gyswllt:
enquiries@pembrokeshire.gov.uk

01437 764551

ID: 1927, revised 27/05/2026