Sut i Dalu - Ar-lein

Drwy’r post

Gallwch anfon siec daladwy i ‘Cyngor Sir Penfro’ i:

Cyngor Sir Penfro
Adran os gwyddoch
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

Sylwch y bydd angen i chi ysgrifennu’r cyfeir-rif talu cywir ar gefn y siec. Os na fyddwch yn rhoi’r cyfeir-rif cywir, fe all fod oedi cyn i’r taliad fynd i’ch cyfrif. Os gwyddoch enw’r adran sy’n disgwyl y taliad, cofiwch ei gynnwys yn y cyfeiriad.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn peidio ag anfon arian parod drwy’r post. Os hoffech dalu mewn arian parod, gwelwch yr adran ‘yn bersonol’ isod.

ID: 1930, adolygwyd 26/04/2024