Sut i dalu’r Dreth Gyngor
Sefydlu neu newid eich debyd uniongyrchol i dalu’r dreth gyngor
Talu drwy ddebyd uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf a mwyaf diogel o dalu eich treth gyngor.
Gallwch wneud y canlynol:
- dewis dyddiad i dalu: 8fed, 15fed, 22ain neu 28ain o bob mis
- rhannu eich taliadau dros 10 neu 12 mis
Sut i sefydlu neu newid debyd uniongyrchol
Gallwch chi wneud hyn:
- dros y ffôn: ffoniwch 01437 764551 a dewiswch opsiwn y dreth gyngor
- Mae’r llinellau ar agor ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener, o 9am tan 5pm
- ac ar gau bob dydd Mercher
- drwy ffurflen: lawrlwythwch y Treth Gyngor Debyd Uniongyrchol, cwblhewch hi a’i hanfon:
- drwy e-bost at revenue.services@pembrokeshire.gov.uk
- neu drwy’r post i:
Gwasanaethau Refeniw
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Cofiwch gynnwys rhif cyfeirnod eich cyfrif treth gyngor a/neu eich cyfeiriad wrth anfon y ffurflen.
Beth syd ei angen arnoch chi
- rhif eich cyfrif banc a’ch cod didoli
- rhaid i chi fod yn ddeiliad y cyfrif ac wedi’ch awdurdodi i sefydlu debyd uniongyrchol
Newid eich dyddiad talu
Os byddwch yn newid eich dyddiad talu yn ddiweddarach, efallai y bydd eich rhandaliadau’n cynyddu oherwydd bydd llai o daliadau ar ôl yn y flwyddyn ariannol. Byddwn yn anfon bil newydd atoch yn nodi rhandaliadau’r dreth gyngor wedi’u diweddaru. Mae angen i ni roi rhybudd o 14 diwrnod i chi cyn i unrhyw newidiadau ddod i rym.
Trefnu debyd uniongyrchol cyn i chi deithio
Efallai na fyddwch yn gallu defnyddio Fy Nghyfrif na chael mynediad i’n gwefan o’r tu allan i’r DU.
Er mwyn osgoi colli taliad, rydym yn argymell sefydlu debyd uniongyrchol cyn i chi fynd.
Mynd yn ddi-bapur ar gyfer eich bil treth gyngor
Gallwch ddewis cael eich biliau treth gyngor ar-lein yn lle drwy’r post.
Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer bilio di-bapur, byddwch chi’n gallu gweld eich bil cyn gynted ag y bydd ar gael.