Sut i dalu’r Dreth Gyngor
Taliadau Ar-lein
Gallwch dalu eich Treth Gyngor a gweld faint sydd yn eich cyfrif ar-lein gyda FyNghyfrif - Eich Cyfrif Cyngor Ar-lein.
Ydych chi’n mynd dramor? Dyma sut i reoli eich taliadau
Yn anffodus, ni allwch ddefnyddio Fy Nghyfrif o’r tu allan i’r DU.
Cyn i chi deithio, rydym yn argymell trefnu debyd uniongyrchol. Dyma’r ffordd hawsaf o sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud ar amser.
Os nad yw hynny’n bosibl, peidiwch â phoeni — mae yna ffyrdd eraill o dalu tra byddwch chi dramor:
- System ffôn awtomataidd 24/7 - +44 1437775164
- Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid - +44 1437764551 (dydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm)
ID: 127, adolygwyd 26/06/2025