Sut i gofrestru marwolaeth
Beth sy'n digwydd os cyfeirir y farwolaeth at y Crwner?
Mewn rhai amgylchiadau, fe fydd yn rhaid i'r meddyg neu'r cofrestrydd gyfeirio'r farwolaeth at y Crwner. Mae'n bosibl i'r crwner benderfynu:
- nad oes angen cymryd camau pellach a rhoi gwybod i'r cofrestrydd am hynny
- cynnal archwiliad post mortem; os felly, fe fydd y crwner yn cyflwyno ffurflen binc 100B i'w defnyddio yn lle'r dystysgrif feddygol
- cynnal cwest - fe fydd swyddfa'r crwner neu'r cofrestrydd yn eich cynghori beth i'w wneud yn yr amgylchiadau hyn. Cyhoeddir Tystysgrif Marwolaeth Interim. Dylech roi gwybod i Swyddfa'r Crwner ar unwaith os yw'r dystysgrif yn cynnwys unrhyw wybodaeth anghywir neu os oes gwybodaeth ar goll.
ID: 2554, adolygwyd 06/07/2023