Sut i gofrestru marwolaeth

Sut i gofrestru marwolaeth

Cael gwybod sut i gofrestru marwolaeth yn Sir Benfro.

Ar y dudalen hon:

Sut i gofrestru marwolaeth?

Pwy all gofrestru?

Pa ddogfennau/gwybodaeth y mae angen i fi ddod â nhw?

Beth sy'n digwydd os cyfeirir y farwolaeth at y Crwner?

Faint fydd y gost?

Pa ddogfennau y byddaf yn eu derbyn?

Alla i gofrestru marwolaeth rywle arall yng Nghymru a Lloegr?

Dweud Wrthym Unwaith

Pa wybodaeth y bydd arnaf ei hangen i ddefnyddio'r gwasanaeth?

Perthynas agosaf

Cysylltu â ni



 

Sut i gofrestru marwolaeth

  • Pan fydd rhywun yn marw, rhaid i'r farwolaeth gael ei chofrestru gan y Swyddfa Gofrestru ar gyfer yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth.
  • Ni all cofrestru ddigwydd nes bod yr Archwiliwr Meddygol (ME) wedi anfon y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth (MCCD) neu fod y Crwner wedi anfon tystysgrif y Crwner (CN2) i'r Swyddfa Gofrestru, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
  • Yna dylid cofrestru'r farwolaeth o fewn 5 diwrnod i'r Swyddfa Gofrestru dderbyn yr MCCD neu'r CN2.

 

Os digwyddodd y farwolaeth yn Sir Benfro

  • Gallwch ein hysbysu ar unrhyw adeg eich bod angen apwyntiad cofrestru marwolaeth gan ddefnyddio'r ffurflen: Hysbysu'r gwasanaeth cofrestru fy mod angen apwyntiad cofrestru marwolaeth (yn agor tab newydd)
  • Ar ôl i ni dderbyn y gwaith papur gan yr ME neu'r Crwner, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda dolen i'r ffurflen ar-lein i archebu apwyntiad.
  • Os nad ydych am ddefnyddio'r ffurflen ar-lein, gallwch ein ffonio ar 01437 775176 a byddwn yn cofnodi eich manylion ac yn eich ffonio pan fyddwn yn gallu cofrestru.

 

Os digwyddodd y farwolaeth y tu allan i Sir Benfro

 

Sylwer: os byddwch yn dewis datganiad, bydd oedi bach cyn derbyn tystysgrifau a gwaith papur, gan y bydd y rhain yn cael eu postio o'r Swyddfa Gofrestru sy'n eu derbyn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r dystysgrif neu'r broses Archwilydd Meddygol, ewch i wefan yr Archwilydd Meddygol Gwasanaeth Archwilio Meddygol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (yn agor mewn tab newydd), e-bost MidandWestWales.MedicalExaminersOffice@wales.nhs.uk neu ffôn 02921 500499.

Os nad ydych yn gallu mynychu’r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal ble digwyddodd y farwolaeth, gallwch fynd i unrhyw Swyddfa Gofrestru yn Lloegr a Chymru i wneud datganiad o’r manylion sy’n angenrheidiol. Fodd bynnag, os ydych yn dewis gwneud datganiad, fe fydd yn rhaid i chi aros ychydig yn hirach am y tystysgrifau a’r gwaith papur, oherwydd fe fyddant yn cael eu postio o’r Swyddfa Gofrestru honno.

Trefnu apwyntiad marwolaeth (yn agor mewn tab newydd)

Ffôn 01437 775176

E-bost registrar@pembrokeshire.gov.uk



Pwy all gofrestru?

Dylai perthynas neu bartner i'r person sydd wedi marw gofrestru'r farwolaeth.

Os nad oes perthynas neu bartner, yna mae'n bosibl i berson arall gofrestru.

Mae'n bosibl i'r canlynol wneud hynny: 

  • person a oedd yn bresennol pan ddigwyddodd y farwolaeth
  • swyddog o'r ysbyty
  • cynrychiolydd personol yr ymadawedig.  



Pa ddogfennau/gwybodaeth y mae angen i fi ddod â nhw?

I gofrestru'r farwolaeth, bydd angen ein bod wedi derbyn y dystysgrif gan yr Archwilydd Meddygol.

Dylai’r hysbysydd ddod â math o ddogfen adnabod gyda nhw, fel pasbort neu drwydded yrru, a phrawf o’u cyfeiriad.

Bydd angen yr hysbysydd hefyd ddarparu'r manylion canlynol yn eich apwyntiad:  

  • eich perthynas â'r person sydd wedi marw
  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad arferol
  • dyddiad a man y farwolaeth
  • enw llawn yr ymadawedig (ac enw morwynol os yw'n briodol)  
  • dyddiad a man geni'r person sydd wedi marw  
  • galwedigaeth y person sydd wedi marw ac, os oedd yn briod, yn weddw neu'n bartner sifil neu'n bartner sifil a oedd yn dal yn fyw, enwau llawn a galwedigaeth y gŵr/y wraig neu'r partner sifil
  • dyddiad geni'r gŵr/y wraig neu'r partner sifil sy'n dal yn fyw 
  • cyfeiriad arferol y person sydd wedi marw
  • a oedd y person sydd wedi marw yn cael pensiwn o gronfa gyhoeddus h.y. gwasanaeth sifil, athro, lluoedd arfog
  • rhif GIG neu gerdyn meddygol y person sydd wedi marw, os yw ar gael.

Mae'n bwysig sicrhau bod y wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr yn gywir. Fe fydd yn anodd newid unrhyw gamgymeriad a wneir. Dylech wirio'r manylion yn y cofnod yn ofalus iawn cyn i chi lofnodi.



Beth sy'n digwydd os cyfeirir y farwolaeth at y Crwner?

Mewn rhai amgylchiadau, fe fydd yn rhaid i'r meddyg neu'r cofrestrydd gyfeirio'r farwolaeth at y Crwner. Mae'n bosibl i'r crwner benderfynu:

  • nad oes angen cymryd camau pellach a rhoi gwybod i'r Archwilydd Meddygol am hynny
  • cynnal archwiliad post mortem; os felly, fe fydd y crwner yn cyflwyno ffurflen CN2 i'w defnyddio yn lle'r dystysgrif feddygol 
  • cynnal cwest - fe fydd swyddfa'r crwner neu'r cofrestrydd yn eich cynghori beth i'w wneud yn yr amgylchiadau hyn. Cyhoeddir Tystysgrif Marwolaeth Interim. Dylech roi gwybod i Swyddfa'r Crwner ar unwaith os yw'r dystysgrif yn cynnwys unrhyw wybodaeth anghywir neu os oes gwybodaeth ar goll.



Faint fydd y gost?

Nid oes tâl am gofrestru marwolaeth. 



Pa ddogfennau y byddaf yn eu derbyn?  

Ar ddiwedd y cofrestru, fe fyddwch yn derbyn:

  • tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi, sef y ‘ffurflen werdd' y bydd y trefnwr angladdau ei hangen. Mewn rhai amgylchiadau, fe fydd y Crwner yn cyflwyno ffurflen; fe fydd y swyddog cofrestru yn eich cynghori yn ôl yr angen.
  • Mae’n bosibl y bydd arnoch angen prynu tystysgrifau marwolaeth. Mae tystysgrif farwolaeth yn gopi ardystiedig o’r cofnod yn y gofrestr farwolaeth. Mae’n bosibl y bydd ar fanciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant, neu gyfreithwyr angen y rhain, neu ar gyfer hawlio pensiwn.   Mae copïau yn costio £12.50 yr un. Gallwch dalu gyda cherdyn, arian parod neu siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Sir Benfro.  



Alla i gofrestru marwolaeth rywle arall yng Nghymru a Lloegr?

Os bydd marwolaeth wedi digwydd y tu allan i Sir Benfro a'ch bod yn methu teithio i'r ardal lle digwyddodd y farwolaeth, fe allwch fynd i swyddfa yn Sir Benfro a gwneud datganiad. Bydd y wybodaeth wedyn yn cael ei hanfon at swyddog cofrestru'r ardal honno a fydd yn cofrestru'r farwolaeth ac yn cyhoeddi'r dogfennau sy'n ofynnol.



Dweud Wrthym Unwaith

Rydym yn cynnig Dweudwch Wrthym Unwaith (yn agor mewn tab newydd) yn Sir Benfro. Felly, pan fydd rhywun yn marw, fe allwn ddweud wrth y bobl y mae angen iddyn nhw wybod.

Mae'r gwasanaeth hwn, sy'n rhad ac am ddim, yn rhoi'r cyfle i chi roi gwybod i rai Adrannau'r Llywodraeth am y farwolaeth.  Os byddwch yn cyflwyno pasbort/rhif pasbort, trwydded yrru/rhif trwydded yrru neu Fathodyn Glas yr ymadawedig yn ystod eich apwyntiad, gall y cofrestrydd eu diddymu. 



Pa wybodaeth y bydd arnaf ei hangen i ddefnyddio'r gwasanaeth?  

I sicrhau ein bod yn rhoi'r wybodaeth gywir i'r cyrff y byddwn yn cysylltu â nhw ar eich rhan, dylech ddod â'r wybodaeth ganlynol (os yw'n berthnasol) am yr ymadawedig:   

Rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni'r ymadawedig:

  • Manylion o unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau llywodraeth ganolog neu leol roedd yn eu cael  
  • ei drwydded yrru
  • ei Basbort
  • ei Fathodyn Glas (bathodyn parcio person anabl)
  • ei Gerdyn Llyfrgell
  • ei cerdyn teithio rhatach

 

Fe fyddwn hefyd yn gofyn i chi am fanylion cyswllt

  • ei berthynas agosaf
  • unrhyw ŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n dal yn fyw
  • y person sy'n delio â'i ystâd (materion)

 

Mae'n rhaid i chi gael caniatâd y personau a restrir uchod os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni amdanyn nhw.   

Os na allwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth, peidiwch â phoeni - gallwch barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth ar gyfer y budd-daliadau/gwasanaethau y mae gennych wybodaeth amdanyn nhw.  Peidiwch ag oedi cyn trefnu'r apwyntiad i gofrestru'r farwolaeth.



Perthynas agosaf

Os oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil gyda’r ymadawedig, gall  y budd-daliadau y gallwch eu hawlio newid, felly gofalwch fod eich rhif Yswiriant Gwladol gennych wrth ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith. Sylwch nad yw cyn-wraig/cyn-ŵr yn cyfrif fel perthynas i'r person sydd wedi marw.  

Os nad chi yw'r perthynas agosaf, neu'r person sy'n delio ag ystâd y person sydd wedi marw, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os cewch eu caniatâd i weithredu ar eu rhan.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y wybodaeth gywir a chyfredol gan yr holl sefydliadau sy'n talu budd-daliadau o unrhyw fath i'r person sydd wedi marw.   

Byddwn yn gallu rhoi gwybod i'r sefydliadau canlynol os bydd rhaid:

Adran Gwaith a Phensiynau

  • Y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr
  • Canolfan Byd Gwaith
  • Tîm Iechyd Tramor

 

Gweinyddiaeth Amddiffyn, Personél Gwasanaethau ac Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-Filwyr

  • Cynllun Pensiynau Rhyfel

 

Cyllid a Thollau EM

  • Budd-dal Plant
  • Credydau Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith
  • Treth Bersonol

 

Gwasanaeth Pasbort a Hunaniaeth

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

Cynghorau Lleol

  • Swyddfa Budd-dal Tai
  • Swyddfa Budd-dal Treth Cyngor

 

Gallwn hefyd ddweud wrth y sefydliadau hyn os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny:

  • Llyfrgelloedd
  • Bathodynnau Glas
  • Gwasanaethau Oedolion
  • Gwasanaethau Plant
  • Casglu taliadau am wasanaethau'r cyngor
  • Gwasanaethau Etholiadol

 

Am ragor o wybodaeth cofiwch ffonio 01437 775176.



Cysylltu â ni

Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro

Swyddfa Gofrestru Sir Benfro

Archfidy Sir Benfro

Prendergast

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 2PE


Ffôn 01437 775176

E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk

Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm

Mae taflenni'n ymwneud â budd-daliadau, profiant a chymorth gyda chostau angladd ar gael gan y Cofrestrydd a hefyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

 

 

ID: 82, adolygwyd 18/09/2025