Sut i gymryd rhan

Deisebau

Sylwer: os nad ydych chi wedi defnyddio’r system hon i ddechrau neu lofnodi deiseb eisoes, bydd angen i chi gofrestru fel defnyddiwr newydd i gael mynediad i wneud hynny. Nid yw’r system hon wedi ei chysylltu â’r system ‘Fy Nghyfrif’ felly bydd angen mewngofnodi o’r newydd.

 

Mae deiseb yn ffordd ffurfiol i chi rannu eich barn ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio o fewn ardal Cyngor Sir Penfro lofnodi neu drefnu deiseb. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed.

Os bydd 500 o lofnodion ar y ddeiseb, cewch gyfle i drafod eich deiseb mewn cyfarfod llawn o'r cyngor. Ystyrir deisebau â throthwy llai fel yr amlinellir yn y cynllun deisebau. Bydd deisebau gyda digon o lofnodion i sbarduno dadl yn cael eu hadrodd i gyfarfod cyfleus nesaf y corff perthnasol. 

 

Dechrau deiseb

Cyn i chi ddechrau deiseb, darllenwch ein: Cynllun Deisebau

Dechrau deiseb ar-lein

Llofnodi deiseb

Gweld deiseb ar-lein yma

Mae ein system e-gyfranogi yn eich caniatáu i weld a chefnogi deisebau cyfredol ar-lein. 

Ffyrdd eraill o ddechrau deiseb

Gallwch hefyd ddechrau deiseb ar bapur. Gall hyn fod ar wahân neu ynghyd â deiseb ar-lein.

Bydd ein yn ddefnyddiol ar gyfer casglu llofnodion ar gyfer deiseb bapur, ond gallwch ddefnyddio eich rhai eich hun.

Rhaid i bob deiseb bapur ddilyn ein Cynllun Deisebau a gellid cyflwyno'r ddeiseb orffenedig fel y nodir isod.

Drwy’r post

Gellir anfon deisebau papur at y cyfeiriad isod:

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Adran Gwasanaethau Democrataidd

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP 

neu cysylltwch â'r Adran Gwasanaethau Democrataidd ar 01437 775719 i wneud trefniadau i gyflwyno deiseb yn bersonol.

 

Cynllun Deisebau

Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Penfro’n croesawu deisebau ac yn cydnabod eu bod yn un ffordd y gall pobl ein hysbysu ynghylch eu pryderon. Gall unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal Cyngor Sir Penfro lofnodi neu drefnu deiseb. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un dan 18 oed.
Mae’r cynllun deisebau hwn yn egluro’r rheolau y bydd y Cyngor yn eu cymhwyso i unrhyw ddeiseb y mae’n ei chael. Bydd yr holl ddeisebau a anfonir at y Cyngor neu a gyflwynir iddo’n cael eu cydnabod gan y Cyngor o fewn 10 niwrnod gwaith i ddod i law. Bydd y gydnabyddiaeth hon hefyd yn dweud cymaint ag y gallwn ar y pryd am yr hyn yr ydym wedi’i wneud, neu’n bwriadu ei wneud, gyda’r ddeiseb. At ddibenion y cynllun hwn byddwn yn trin rhywbeth fel deiseb os nodir mai deiseb ydyw, neu os yw’n ymddangos i ni ei fod wedi’i fwriadu i fod yn ddeiseb, ac os yw wedi’i lofnodi gan ddeg unigolyn neu fwy sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn Sir Benfro, ac nad ydynt i gyd yn byw yn yr un cyfeiriad.

Ffurf Deisebau

Dim ond deisebau sy’n ateb y gofynion canlynol y bydd Cyngor Sir Penfro’n eu derbyn:

  • Rhaid i ddeisebau gynnwys datganiad eglur a chryno sy’n cwmpasu pwnc y ddeiseb a rhaid iddynt nodi pa gamau cyfreithlon / penodol y mae’r deisebwyr yn dymuno i’r Cyngor eu cymryd, er enghraifft: ‘Rydym yn galw ar Gyngor Sir Penfro i…
  • Gellir cyflwyno deisebau ar bapur neu’n electronig gan ddefnyddio system ddeisebau ar-lein y Cyngor, neu gyfuniad o’r ddau.
  • Dim ond unwaith y gall pobl lofnodi deiseb. Os ydynt yn llofnodi’r ddeiseb arlein, gofynnir iddynt wirio eu cyfeiriad e-bost. Ni all pobl lofnodi deiseb ar-lein a deiseb bapur, a gellir tynnu eu henwau oddi arni os profir bod deisebwr wedi llofnodi ddwywaith.
  • Ni fydd deisebau’n cael eu derbyn o systemau deisebau ar-lein eraill.
  • Gall deisebau electronig gasglu llofnodion am gyfnod o chwe wythnos ar y mwyaf.
  • Ar gyfer deiseb bapur, dylai geiriad y ddeiseb fod wedi’i nodi’n llawn ar bob dalen (neu ochr o ddalen) lle gofynnir am lofnodion (gweler Atodiad A ar gyfer templed).

Rhaid i’r ddeiseb nodi’n glir:

  • Enw’r deisebwr, a all fod yn unigolyn neu’n sefydliad. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un dan 18 oed.
  • Cyfeiriad y deisebwr (gan gynnwys cod post), y mae’n rhaid iddo fod yn ardal

Cyngor Sir Penfro, y dylid anfon yr holl gyfathrebiadau ynghylch y ddeiseb iddo.

Pwy all gyflwyno deiseb

Gall y bobl ganlynol gyflwyno deiseb:

  • Etholwr Llywodraeth Leol ar gyfer ardal Cyngor Sir Penfro; a/neu
  • Rywun sydd wedi bod yn byw yn ardal Cyngor Sir Penfro am y cyfnod llawn o 12 mis cyn cyflwyno’r ddeiseb; a/neu
  • Breswylydd dan 16 oed, a fyddai’n cymhwyso fel arall yn etholwr llywodraeth leol ar gyfer Sir Benfro [Dylid darparu dyddiad geni/ cydsyniad rhiant]; a/neu
  • Rywun sydd wedi bod yn feddiannwr, yn berchennog neu’n denant tir neu safle yn ardal Cyngor Sir Penfro am y cyfnod llawn o 12 mis cyn cyflwyno’r ddeiseb; a/neu
  • Rywun y mae ei gyflogaeth/man gweithio wedi bod yn ardal Cyngor Sir Penfro am y cyfnod llawn o 12 mis cyn cyflwyno’r ddeiseb.

Sylwer y bydd angen i ni weld tystiolaeth pwy ydych, a all gynnwys pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustodau diweddar. 

Deisebau na fyddant yn dderbyniol

Nid yw’r Cyngor yn derbyn deisebau dan y Cynllun Deisebau hwn sy’n perthyn i’r categorïau canlynol:

  • Deisebau sy’n ymwneud ag unrhyw beth nad oes gan y Cyngor gyfrifoldeb amdano neu nad yw’n effeithio ar Sir Benfro.
  • Deisebau sydd yr un fath, neu’n sylweddol debyg, i ddeiseb a gaewyd lai na chwe mis yn ôl.
  • Deisebau sy’n ymwneud â mater y mae’r Cyngor, y Cabinet neu un o’i Bwyllgorau wedi ei ystyried yn ffurfiol yn y chwe mis diwethaf, e.e. Hysbysiadau o Gynigion neu lle mae penderfyniad wedi cael ei wneud.
  • Deisebau sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio neu drwyddedu, gorchmynion Priffyrdd a gwarediadau eiddo gan y byddir yn ymdrin â’r rhain dan eu priod brosesau. Deisebau statudol, neu ddeisebau sy’n ymwneud â Refferenda Awdurdod Lleol sy’n dod o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001
  • Deisebau sy’n gofyn i’r Cyngor ddyfarnu, cymrodeddu neu gyfryngu achos sy’n ymwneud â buddiannau personol neu fasnachol (rôl llys neu dribiwnlys yw hyn).
  • Deisebau ar faterion sy’n ddarostyngedig i achosion cyfreithiol yn y llysoedd.
  • Deisebau ar faterion y mae ombwdsmon (neu rywun â phwerau tebyg) eisoes wedi dyfarnu yn eu cylch.
  • Deisebau sy’n ymwneud â materion staffio cyfrinachol.
  • Deisebau sydd yn y bôn yn geisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn sylwadau, yn ganmoliaeth neu’n gwynion.
  • Deisebau sy’n codi materion o gamymddwyn posibl gan gynghorydd.
  • Deisebau sy’n ymwneud â mater lle ceir eisoes hawl bresennol i adolygiad neu apêl, megis bandiau’r Dreth Gyngor ac ardrethi annomestig.

Bydd y penderfyniad i wrthod deiseb yn cael ei wneud gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

Ni ddylai deisebau gynnwys

  • Iaith sy’n dramgwyddus, yn anghymedrol neu’n herfeiddiol. Mae hyn nid yn unig yn cynnwys iaith fras, rhageiriau a sarhadau amlwg, ond unrhyw iaith y byddai unigolyn rhesymol yn ei hystyried yn dramgwyddus;
  • Datganiadau a allai fod yn anwir neu allai fod yn ddifenwol;
  • Gwybodaeth y gwaherddir ei chyhoeddi gan orchymyn a wnaed gan lys neu gorff neu rywun â phŵer tebyg;
  • Deunydd a allai fod yn gyfrinachol, yn sensitif yn fasnachol, neu a allai achosi trallod personol neu golled bersonol;
  • Unrhyw gymeradwyaeth fasnachol, deunydd i hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gyhoeddiad neu ddatganiadau sy’n gyfystyr â hysbysebion;
  • Enwau swyddogion cyrff cyhoeddus, oni bai eu bod yn rhan o uwch dîm rheoli’r sefydliadau hynny;
  • Enwau aelodau o deuluoedd cynrychiolwyr etholedig neu swyddogion cyrff cyhoeddus;
  • Enwau unigolion, neu wybodaeth lle gellir eu hadnabod, mewn perthynas â chyhuddiadau troseddol;
  • Materion nad yw deiseb yn sianel briodol ar eu cyfer (er enghraifft, gohebiaeth am fater personol).

Bydd deisebau sy’n cynnwys yr uchod (ac eithrio’r pwynt bwled olaf) yn cael eu gwrthod ond gellir eu hailgyflwyno gyda’r wybodaeth dramgwyddus wedi’i thynnu allan. Yn y cyfnod yn union cyn etholiad neu refferendwm efallai y bydd angen i ni ymdrin â deisebau’n wahanol. Os mai felly y bydd hi, byddwn yn egluro’r rhesymau ac yn trafod y raddfa amser ddiwygiedig y gallai fod angen ei dilyn. 

Canllawiau ynghylchu cyflwyno deiseb

Beth sy’n digwydd pan gyflwynir deiseb i’r Cyngor?

Caiff yr amryw gamau sy’n rhan o’r broses o gyflwyno deiseb i’r Cyngor eu nodi isod, ynghyd â manylion canlyniadau posibl a beth sy’n digwydd os nad yw trefnydd y ddeiseb yn hapus gydag ymateb y Cyngor i’r ddeiseb.

Cam 1 – Cyflwyno deiseb

Deiseb Electronig

Gellir cael mynediad at system ddeisebau ar-lein y Cyngor yma: Deisebau Gofynnir i drefnydd y ddeiseb roi’r wybodaeth ganlynol i mewn:

  • Teitl a thestun y ddeiseb
  • Enw
  • Cyfeiriad – post a/neu e-bost
  • Manylion cyswllt eraill
  • Dyddiad i’r ddeiseb roi’r gorau i gasglu llofnodion. Gall deisebau gasglu llofnodion am uchafswm o ddau fis. Gallai fod yn werth cofio na fydd y Cyngor yn ystyried deiseb tan ar ôl iddi orffen casglu llofnodion.

Unwaith y bydd deiseb wedi cael ei chyflwyno, bydd trefnydd y ddeiseb yn cael ebost i gadarnhau ei bod wedi dod i law. Wedyn bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ei hystyried yn erbyn y rheolau ar gyfer deisebu’r Cyngor a bydd yn cysylltu cyn gynted â phosibl i gadarnhau pa un a yw’r ddeiseb yn dderbyniol ai peidio a beth fydd yn digwydd nesaf. Bydd Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd yn gweithredu fel gweinyddwyr yr eDdeiseb.

Lle mae’r pwnc dan sylw’n effeithio ar adrannau etholiadol penodol, bydd y cynghorwyr sy’n cynrychioli’r ardaloedd hynny’n cael eu hysbysu bod y ddeiseb wedi dod i law.

Deiseb bapur

Rydym hefyd yn derbyn deisebau ar bapur. Dylai geiriad y ddeiseb fod wedi’i nodi’n llawn ar bob dalen (neu ochr o ddalen) lle gofynnir am lofnodion. Dylai deisebau papur gynnwys enwau a chyfeiriadau unrhyw un sy’n cefnogi’r ddeiseb hefyd. Mae
ffurflen wedi’i hatodi yn Atodiad A

Gellir anfon deisebau papur i’r cyfeiriad canlynol:

Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
Yr Is-adran Gwasanaethau Democrataidd
Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP

neu gallwch gysylltu â’r Is-adran Gwasanaethau Democrataidd ar 01437 775719 i wneud trefniadau i gyflwyno deiseb.

Cam 2 – Pan fo deiseb yn dod i law

Bydd deiseb electronig yn cael ei hystyried cyn iddi fynd yn fyw i sicrhau ei bod yn bodloni’r meini prawf a nodir uchod. Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth at drefnydd y ddeiseb o fewn 10 niwrnod gwaith i gael y ddeiseb electronig, felly caniatewch ddigon o amser cyn bod y ddeiseb yn cau. Os na ellir derbyn y ddeiseb neu os nad yw’n bodloni’r meini prawf i gael ei derbyn, byddwn yn rhoi gwybod i’r trefnydd ac yn egluro’r rheswm pam na all fynd ymlaen. Bydd teitl a thestun y ddeiseb yn cael eu cyhoeddi ar-lein fel rhan o’r rhestr o
ddeisebau a dderbyniwyd, ynghyd ag eglurhad o’r rheswm pam nad oedd yn dderbyniol.

Os yw’r ddeiseb yn dderbyniol fel y’i geiriwyd, byddwn yn trefnu iddi gael ei chyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg fel y bo’n briodol. Wedyn bydd yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan a gall ddechrau casglu llofnodion. Byddwn yn anfon dolen ar gyfer y
wefan at drefnydd y ddeiseb ac yn trefnu bod gwybodaeth sylfaenol amdani ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol.

Efallai y bydd y mater a godir gan y ddeiseb yn dderbyniol mewn egwyddor, ond bod rhai agweddau ar y geiriad nad ydynt yn cyd-fynd â’r rheolau. Yn y sefyllfaoedd hyn bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â threfnydd y ddeiseb i awgrymu ffyrdd y gellir newid y geiriad fel ei fod yn cydymffurfio’n llawn â’r rheolau. Unwaith y bydd trefnydd y ddeiseb yn hapus gyda’r geiriad terfynol, bydd y ddeiseb yn cael ei chyhoeddi a gall ddechrau casglu llofnodion.

Ar gyfer deisebau papur, cynghorir trefnydd y ddeiseb i gysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn sicrhau bod y ddeiseb yn bodloni’r meini prawf a nodir uchod, cyn dechrau casglu llofnodion, gan mai dim ond deisebau derbyniol all gael eu hystyried gan y Cyngor.

Cam 3 – Pwy fydd yn ystyried y ddeiseb?
  • (a) Y dylid gosod uchafswm o ddau fis fel hyd yr amser ar gyfer casglu llofnodion;
  • (b) Bod trothwy o 500 o lofnodion yn cael ei osod cyn y gellir trafod deiseb yn y Cyngor llawn;
  • (c) Bod trothwy o 100 o lofnodion yn cael ei osod cyn y gellir trafod deiseb yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol;
  • (d) Bod trothwy o 99 llofnod neu lai yn cael ei osod i'r Aelod Cabinet a/neu Gyfarwyddwr perthnasol ymateb
  • (e) Bydd materion ward sengl yn cael eu cyfeirio at yr Aelod Cabinet perthnasol.


Bydd deisebau â digon o lofnodion i sbarduno trafodaeth yn cael eu cyflwyno i gyfarfod cyfleus nesaf y corff perthnasol. Bydd y gydnabyddiaeth yn cadarnhau hyn ac yn hysbysu trefnydd y ddeiseb pryd a ble y bydd y cyfarfod perthnasol yn cael ei gynnal. Bydd y Cyngor yn ceisio ystyried y ddeiseb yn ei gyfarfod nesaf, er efallai na fydd hyn yn bosibl ar rai achlysuron ac os felly bydd yn cael ei hystyried wedyn yn y cyfarfod canlynol. Ni fydd deisebau’n cael eu hystyried yng Nghyfarfod Blynyddol nac yng Nghyfarfodydd Eithriadol y Cyngor, nad ydynt wedi’u cynnull i ystyried pwnc y ddeiseb.

Bydd trefnydd y ddeiseb, neu unrhyw un arall a awdurdodwyd ganddo/ganddi, yn cael gwahoddiad i annerch y cyfarfod am hyd at bum munud ar bwnc y ddeiseb. Gall aelodau ofyn cwestiynau i drefnydd y ddeiseb neu gynrychiolydd awdurdodedig. Bydd trefnydd y ddeiseb neu gynrychiolydd awdurdodedig yn cael hawl i ymateb am gyfnod pellach nad yw’n hwy na thri munud ar ddiwedd y drafodaeth a chyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud neu bleidlais derfynol yn cael ei chynnal. Bydd trefnydd y ddeiseb yn cael ei hysbysu ynghylch canlyniad y drafodaeth ac ynghylch unrhyw gamau dilynol y cytunir arnynt gan y cyfarfod. Os yw’r Cyngor yn gallu gwneud yr hyn y mae’r ddeiseb yn gofyn amdano, gall y gydnabyddiaeth i drefnydd y ddeiseb gadarnhau bod y Cyngor wedi cymryd y camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt a bydd y ddeiseb yn cael ei chau.

Lle caiff y ddeiseb ei hatgyfeirio at yr Aelod Gweithredol perthnasol ar gyfer ymateb, bydd trefnydd y ddeiseb yn cael gwahoddiad i wneud datganiad ysgrifenedig sy’n cefnogi’r ddeiseb (os nad oes un eisoes wedi cael ei gynnwys yn y ddeiseb).

Canlyniadau posibl

Caiff y canlyniadau amrywiol a allai gael eu cyflawni trwy gyflwyno deiseb i’r Cyngor eu nodi isod:

  • Codi cyhoeddusrwydd ar gyfer mater neu ymwybyddiaeth ohono
  • cymryd y cam gweithredu y gofynnwyd amdano yn y ddeiseb (naill ai dan bwerau a ddirprwywyd i swyddog neu fel arall fel y bo’n briodol dan yr holl amgylchiadau)
  • ystyried y ddeiseb yn un o gyfarfodydd llawn y Cyngor yn unol â Rheolau

Gweithdrefn y Cyngor

  • trin y ddeiseb fel cwyn dan weithdrefn gwynion y Cyngor
  • cynnal ymchwiliad i’r mater
  • gwneud ymchwil i’r mater
  • cynnal cyfarfod cyhoeddus
  • cynnal ymgynghoriad
  • cynnal cyfarfod gyda’r deisebwyr
  • atgyfeirio’r mater at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Cyngor
  • galw refferendwm
  • ymateb i drefnydd y ddeiseb gan nodi barn y Cyngor ynglŷn â’r cais a nodir yn y ddeiseb
  • rhyw ymateb priodol arall

Yr hyn y dylech ei wneud os ydych yn ystyried nad ymdriniwyd yn briodol â’r ddeiseb Os yw trefnydd y ddeiseb yn teimlo nad ydym wedi ymdrin yn briodol â’r ddeiseb, mae ganddo/ganddi hawl i ofyn i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, adolygu’r camau a gymerwyd mewn ymateb i’r ddeiseb. Mae o gymorth i bawb os anfonir eglurhad byr gyda chais o’r fath sy’n nodi’r rhesymau pam nad ystyrir bod ymateb y Cyngor yn ddigonol. Dylai unrhyw gais o’r fath gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig i Bennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd, o fewn 28 diwrnod i gael yr hysbysiad terfynol hwnnw. Os bydd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad gyda Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn penderfynu nad ymdriniwyd yn ddigonol â’r ddeiseb, gall wneud argymhellion ar gyfer ymateb gwahanol. Unwaith y mae’r apêl wedi cael ei hystyried bydd trefnydd y ddeiseb yn cael ei hysbysu ynghylch y canlyniad o fewn 10 niwrnod gwaith. Bydd canlyniadau’r adolygiad yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan hefyd.

Diogelu Data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am chwe mis. Ar ôl hynny bydd yn cael ei difa mewn modd diogel a sicr.

ID: 8696, adolygwyd 18/02/2025