Sut i gymryd rhan

Democratiaeth Leol - Sut i Gymryd Rhan

Mae gan Gyngor Sir Penfro 60 o aelodau etholedig, sy'n cynrychioli ardal gymunedol benodol (ward) o fewn y sir (mae un aelod yn cynrychioli bob un o'r 59 ward ac mae gan un ward ddau aelod).

Yn ogystal, mae 77 o gynghorau tref a chymuned ar hyn o bryd, ac mae un ohonynt wedi’i ddynodi’n gyngor dinas. Mae'r rhain yn annibynnol o'r Cyngor Sir.

Etholiadau Lleol

Caiff etholiadau lleol eu cynnal oddeutu bob pum mlynedd, fel bod pleidleiswyr cymwys yn cael dweud eu dweud ynghylch pwy sy'n eu cynrychioli nhw a'u hardal gymunedol (ward) ar gynghorau lleol.

Gallwch ddarganfod mwy am bwy sy'n gymwys i bleidleisio a sut i gofrestru i bleidleisio yn yr adran Etholiadau a Phleidleisio ar ein gwefan. 

Pwy yw fy nghynghorydd?

Gallwch ddod o hyd i restr lawn o bwy sy'n eich cynrychioli chi a'ch ardal gymunedol (ward) ar Gyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn yr adran Cynghorwyr Sir a Phwyllgorau ar ein gwefan. 

Gallwch ddarganfod mwy am waith eich cyngor tref neu gymuned leol ar wefan y Cynghorau Tref a Chymuned 

Am beth y mae'r Cynghorau'n Gyfrifol?

Yn yr un modd ag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, mae gan Gyngor Sir Penfro gyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau fel Addysg, Iechyd yr Amgylchedd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chynllunio. Ymhlith gwasanaethau eraill y mae’r Cyngor yn eu darparu, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, mae: Gwasanaethau Ieuenctid a Throseddwyr Ifanc, Dysgu Oedolion a'r Gymuned, Cyflogaeth dan Gymorth, Tai, Seilwaith Cyhoeddus Lleol a Thrafnidiaeth, Llyfrgelloedd, Gwasanaethau Cofrestru a Hamdden Sir Benfro.

Mae gan Gynghorau tref a chymuned y pŵer cyfreithiol i weithredu, ond mae ganddynt lai o ddyletswyddau a mwy o ryddid i ddewis pa gamau i'w cymryd. Gallant weithredu i wella ansawdd bywyd pobl leol a’u hamgylchedd lleol ac, mewn rhai achosion, gallant ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion lleol.

Sut mae'r Cynghorau yn Gwneud Penderfyniadau?

Caiff penderfyniadau Cyngor Sir Penfro eu gwneud yn unol â Chyfansoddiad yr Awdurdod sy'n adlewyrchu gofynion deddfwriaethol cyfredol. O dan y trefniadau cyfansoddiadol presennol, mae penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn cyfarfodydd ffurfiol o aelodau etholedig, ac, yn dibynnu p'un a yw'r pwnc dan sylw yn gyfrifoldeb "gweithredol" ai peidio, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn y Cabinet, (y Pwyllgor Gwaith) neu'r Cyngor llawn neu un o bwyllgorau'r Cyngor, megis y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Trwyddedu neu’r Pwyllgor Safonau,.

Mae'r Cabinet, fel y Pwyllgor Gwaith, yn cael ei ddwyn i gyfrif gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r Cyngor. Caiff rhai penderfyniadau, sy'n gyfrifoldebau'r Cyngor, eu dirprwyo i swyddogion eu cymryd ar ran y Cyngor, ond gall y Cabinet hefyd ddirprwyo cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau i aelodau cabinet unigol yn ogystal â swyddogion.

Caiff y cyfarfodydd ffurfiol eu hysbysebu ac maent yn agored. Mae cyfarfodydd y Cyngor llawn, y Cabinet a Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gael mewn gweddarllediad. Gallwch gael rhagor o fanylion am gyfarfodydd ffurfiol yn yr adran Cyngor a Democratiaeth ar ein gwefan.

Fel arfer, bydd Cynghorau tref a chymuned yn gwneud eu penderfyniadau mewn cyfarfodydd y cyngor, pwyllgorau a'r is-bwyllgorau. Rhaid hysbysebu cyfarfodydd y cyngor a phwyllgorau (ac yn dilyn arferion da, cyfarfodydd is-bwyllgorau) a rhaid iddynt fod yn agored.

Pa ran allaf ei chwarae ym mhroses y Cyngor o Wneud Penderfyniadau?

Ymholiadau arferol am Wasanaethau'r Cyngor

Defnyddiwch ein gwefan, gan gynnwys Fy Nghyfrif, neu ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551

Canmoliaeth, sylwadau a chwynion

Gallwch eu cyflwyno trwy ein gwefan yn Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion neu drwy gysylltu â'r Canolfan Gyswllt fel uchod.

Cysylltu â’ch Cynghorydd Sir (aelod etholedig)

Canfyddwch pwy yw eich aelod lleol a sut i gysylltu â hi/ef - Cynghorwyr Sir a Phwyllgorau

Ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghoriadau cyhoeddus

Mae'r Cyngor yn cefnogi ystod eang o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghoriadau cyhoeddus. Gallwch gael rhagor o fanylion am sut i gymryd rhan yn y rhain ar ein gwefan yn Dweud Eich Dweud Caiff safbwyntiau sy’n cael eu casglu fel rhan o'r ymarferion hyn eu cyflwyno a’u hystyried pan gaiff penderfyniadau ffurfiol eu gwneud.

Hawliau Plant a Phobl Ifanc

Mae ein tîm Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn hyrwyddo amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n cefnogi'r rhan y gall plant a phobl ifanc chwarae mewn democratiaeth leol. Gallwch gael rhagor o fanylion am hyn drwy gysylltu â’n Swyddog Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Nadine Farmer, ar 07795 612917 neu nadine.farmer@sir-benfro.gov.uk

Mae gwybodaeth ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn:

Facebook - Pembs CYPRO

Twitter - Pembs CYPRO         

Sefydliadau Cymunedol

Mae gan Sir Benfro drydydd sector a sector cymunedol ffyniannus. Mae llawer o sefydliadau ar draws y sir yn gweithio gyda'r Cyngor fel rhan o baneli ffurfiol neu grwpiau diddordeb, ond mewn mannau eraill mae gwaith yn fwy anffurfiol.

Gallwch gael rhagor o fanylion am grwpiau'r trydydd sector a'r sector cymunedol yn Hwb Cymunedol Sir Benfro 

Trosolwg a Chraffu

Fel rhywun sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Benfro, gallwch gyflwyno eich barn ar unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol i'w sylw.

Gallwch gael rhagor o fanylion am sut i wneud hyn ar ein gwefan Trosolwg a Chraffu Ymgyslltu ar Cyhoedd 

Cwestiynau i'r Cyngor 

Caniateir i aelodau o'r cyhoedd sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Benfro ofyn cwestiynau yng nghyfarfodydd Cyffredin y Cyngor. Ni chaiff un unigolyn gyflwyno mwy na dau gwestiwn mewn unrhyw un cyfarfod.

Gallwch gael rhagor o fanylion am sut i wneud hyn ar ein gwefan Cwestiynau i'r Cyngor 

Deisebau

Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio o fewn ardal Cyngor Sir Penfro lofnodi neu drefnu deiseb. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. 

Os bydd 500 o lofnodion ar y ddeiseb, cewch gyfle i drafod eich deiseb mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor. Caiff deisebau â throthwy llai eu hystyried fel yr amlinellir yn y cynllun deisebau. Bydd deisebau a chanddynt ddigon o lofnodion i sbarduno dadl yn cael eu hadrodd i gyfarfod cyfleus nesaf y corff perthnasol. 

Gallwch gael rhagor o fanylion am hyn ar ein gwefan Deisebau 

Cynrychiolaeth yn y Pwyllgor Cynllunio

Os ydych yn ymwneud â chais cynllunio, mae'n bosibl y cewch eich gwahodd i gyflwyno sylwadau yn y Pwyllgor Cynllunio.

Gallwch gael rhagor o fanylion am y Pwyllgor Cynllunio ar ein gwefan.

Cynrychiolaeth yn y Pwyllgor Trwyddedu

Os ydych yn ymwneud â chais trwyddedu, mae'n bosibl y cewch eich gwahodd i gyflwyno sylwadau yn y Pwyllgor Trwyddedu.

Gallwch gael rhagor o fanylion am y Pwyllgor Trwyddedu ar ein gwefan. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyfarfodydd Cynghorau tref a chymuned ar wefan y Cynghorau Tref a Chymuned  

Cyrff Llywodraethu Ysgolion - ffordd arall y gallwch chi fod yn rhan o helpu i lywio penderfyniadau ar gyflwyno gwasanaeth lleol pwysig yw trwy ddod yn llywodraethwr ysgol. Gallwch gael rhagor o fanylion am hyn ar ein gwefan yn Llywodraethwyr Ysgol

Efallai y Byddwch Eisiau Meddwl am Ddod yn Gynghorydd Lleol Eich Hun Hyd Yn Oed

Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn bod yn gynghorydd lleol, gan gynnwys pobl iau, menywod, pobl anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig.

Gallwch gael rhagor o fanylion am hyn ar y dudalen Diddordeb mewn bod yn Gynghorydd ar ein gwefan. 

 

 

ID: 9757, adolygwyd 03/07/2026