Sut mae eich Arian yn Cael ei Wario

Addysg a Gwasanaethau Plant

Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…

 

  • gynnal 52 ysgol gynradd, chwech ysgol uwchradd, dwy ysgol ganol, un ysgol arbennig, a Chanolfan Ddysgu Sir Benfro.
  • addysgu dros 17,200 o ddisgyblion a chyflogi mwy na 2,025 o weithwyr addysg.
  • darparu tîm o weithwyr gwella ysgolion gan gynnwys cynghorwyr herio
  • darparu darpariaeth arbenigol ar gyfer hyd at 200 o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymhleth mewn naw ysgol, yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2 a 3.
  • darparu tîm sy'n gweithio â rhieni, disgyblion ac ysgolion - gan gynnwys seicolegwyr addysg, athrawon arbenigol, Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni a chynorthwywyr dysgu - er mwyn rhoi cymorth unigol i ysgolion a rhieni.
  • cyflogi 21 o weithwyr ieuenctid llawn-amser a 82 rhan-amser a gwirfoddolwyr, ac 14 staff tîm cyfiawnder ieuenctid gyda chymorth rhyw 10 wirfoddolwyr sydd, gyda’i gilydd, yn gweithio gyda thros 3,000 o bobl ifanc;
  • rhoi cymorth i gynnal gwaith ieuenctid a gweithgareddau mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys pedair canolfan, 13 clwb ieuenctid, pob ysgol uwchrad yn gynnwys clwb ar ôl ysgol,  y PLC (Canolfan Ddysgu Sir Benfro) a Choleg Sir Benfro.
  • darparu ystod o gyfleoedd ymgysylltu, gan gynnwys cyrsiau galwedigaethol a datblygu sgiliau, a gweithwyr allgymorth arbenigol i dros 650 o bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio
  • gweithredu'r Gwasanaeth Cerdd sy'n rhoi gwersi arbenigol bob wythnos i mwy na 2,500 o ddisgyblion mewn dros 80% o ysgolion Sir Benfro, ac yn galluogi oddeutu 500 o fyfyrwyr i gymryd rhan mewn gwahanol gyfleoedd perfformio.
  • darparu oddeutu 43,000 o brydau bob wythnos ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, trwy gyfrwng y Gwasanaeth Prydau Ysgol.
  • hwyluso Cynulliad Ieuenctid y Sir a fforymau ieuenctid lleol yn ogystal â chynnal gwefan wybodaeth ar gyfer pobl ifanc a cefnogi gwaith y Bwrdd Diogelu Iau.
  • cefnogi ymrwymiad Sir Benfro i hawliau plant trwy'r Swyddfa Plant a Phobl Ifanc a hefyd trwy fabwysiadu'n ffurfiol Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
  • rhoi cymorth i Gynllun Gwobrau Dug Caeredin ym mhob ysgol uwchradd ac mewn pedair canolfan gwobrau agored, gyda 199 yn ennill yr Wobr Efydd, 75 yr Wobr Arian a 36 yr Wobr Aur yn 2019.
  • gwella lles trigolion Sir Benfro drwy gynnig dros 600 o gyfleoedd ar draws Sir Benfro i gysylltu ag eraill, parhau i fod yn weithgar a dysgu sgiliau newydd.
  • cyflwyno rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned Sir Benfro yn Dysgu ledled y sir, gyda thros 4,400 o gofrestriadau ar dros 600 o ddosbarthiadau;
  • cydgysylltu cyflwyno Sbardun mewn ysgolion cynradd, gan ddarparu dros 230 o gyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion a theuluoedd;
  • cynorthwyo datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg gan roi cyfleoedd dysgu i dros 800 o bobl;
  • gwella sgiliau llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu a digidol oedolion trwy gynnig dros 140 o ddosbarthiadau Sgiliau Hanfodol;
  • galluogi 450 o oedolion gael cymwysterau a fydd yn helpu eu gobeithion cyflogaeth;
  • darparu mentrau Chwaraeon Sir Benfro, gan gynnig bron 49,000 o gyfleoedd chwaraeon allgyrsiol ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd, a hyfforddiant ar gyfer dros 1,600 staff ysgolion cynradd, gwirfoddolwyr ac arweinwyr ifanc.
  • gweithio gyda chlybiau chwaraeon cymunedol i gynyddu aelodaeth iau, sydd ar hyn o bryd yn sefyll ar 64% o’r boblogaeth leol.
  • darparu gwasanaeth AG peripatetig i draean o ysgolion cynradd Sir Benfro i sicrhau darpariaeth ansawdd uchel o addysg gorfforol.
  • cynnal Gofal Cymdeithasol i Blant; ar unrhyw adeg benodol byddwn yn gweithio â mwy na 1,000 o blant a phobl ifanc mewn angen.
  • diogelu a chynorthwyo ysgolion gyda cymorth, cyngor a hyfforddiant ar ddiogelu ar gyfer y plant a bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yn Sir Benfro gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, ymadawyr â gofal a'r rhai hynny sydd o fewn y gwasanaethau ataliol.
  • recriwtio a rhoi cymorth i ofalyddion maeth a rhieni sy'n mabwysiadu, a pharu gofalyddion addas â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
  • darparu gofal seibiant i bobl ifanc sydd ag anableddau canolig i ddifrifol mewn uned seibiau byr arbenigol.
  • cynnal gwaith atalal trosedd gyda mwy na 1,500 o bobl ifanc bob blwyddyn.
  • cynnal dioddefwyr trosedd; cynorthwywyd 115 o bobl ifanc yn ystod y flwyddyn.
  • cyflwyno sesiynau camddefnyddio sylweddau ac iechyd rhywiol ledled y Sir gan ddefnyddio patrwm lleihau niwed.
  • darparu Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni sydd wedi rhoi yn ystod 2019 gwybodaeth a chyngor i dros 400 o rieni, plant a phobl ifanc mewn teuluoedd lle mae plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, trwy linell gymorth, gwefan, cymorthfeydd galw heibio a chyfarfodydd rhwydweithio.
  • rhoi cyfleoedd cymdeithasol i bobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol trwy glybiau ieuenctid unswydd ar benwythnosau ac ar ôl ysgol.
  • cyflenwi darpariaeth arbenigol i hyd at 120 o ddisgyblion gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys darparu ar gyfer disgyblion gydag anawsterau gorbryderu ac iechyd meddwl;
  • darparu clwb ar ôl ysgol arbenigol i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol neu anabledd.
  • gwneud darpariaeth arbenigol ar gyfer hyd at 150 o ddisgyblion gydag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.
  • darparu rhyw 3600 o sesiynau cwnsela therapiwtig seiliedig ar ysgolion i dros 760 o blant a phobl ifanc.
  • darparu tîm o seicolegwyr addysgol, cynghorwyr, athrawon ymgynghorol, therapyddion a chynorthwywyr dysgu i weithio ar draws clystyrau o ysgolion gyda rhieni, disgyblion a staff.
  • fel rhan o strategaeth yr Awdurdod i feithrin gallu ysgolion, cyflenwi dewis eang o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. 
  • darparu cyfarfodydd clwstwr bob tymor fel bod Cydgysylltwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gallu datblygu eu gwybodaeth, rhwydweithio a rhannu arferion gorau.
ID: 733, adolygwyd 23/01/2023