Sut mae eich Arian yn Cael ei Wario

Cynllunio a Datblygu

Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…

 

  • rhoi cymorth i faes adfywio canolau trefi a chynorthwyo chwe thîm tref sefydledig er mwyn iddynt nodi'r cyfleoedd i adfywio eu trefi.
  • llywio a rheoli datblygiad, yn cynnwys gwarchod treftadaeth adeiledig a naturiol y Sir.
  • gweithredu Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro, gan gynnwys sefydliad blaengar Canolfan Arloesedd y Bont.
  • darparu seilwaith busnes arall yn gynnwys uned fusnes, fferm sirol, ac eiddo siop/swyddfa.
  • gweithredu Maes Awyr Hwlffordd.  
  • rheoli adeiladau swyddfeydd corfforaethol y Cyngor.
  • gweithredu harbwr Dinbych-y-pysgod a harbwr Cwm Gwaun, a'r marchnadoedd yn Ninbych-y-pysgod, Doc Penfro ac Abergwaun. 
  • sicrhau cymorth grantiau Ewropeaidd ac eraill i gynorthwyo datblygu economaidd a chymdeithasol a chyflawni prosiectau sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r Cyngor.
  • sicrhau bod y Cyngor a'r Sir mor barod â phosibl ar gyfer y newidiadau a ddaw yn sgil Brexit.
  • cefnogi cymunedau trwy grantiau, benthyciadau a rheoli prosiectau.
  • marchnata Sir Benfro fel cyrchfan ymwelwyr gydol y flwyddyn trwy ymgyrchoedd marchnata integredig, www.visitpembrokeshire.com ac mewn partneriaeth â Chroeso Cymru a Visit Britain.
  • arwain Partneriaeth Cyrchfan Sir Benfro er mwyn llywio datblygiad y cynhyrchion a'r gwasanaethau twristiaeth ledled y Sir.
  • gweithredu cynllun Nod Cynnyrch Sir Benfro a rheoli Marchnad Ffermwyr Hwlffordd.
  • trefnu Wythnos Bysgod Sir Benfro a chynorthwyo gwyliau bwyd eraill.
ID: 746, adolygwyd 23/01/2023