Sut mae eich Arian yn Cael ei Wario

Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion

Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…

 

  • galluogi dros 2,500 o bobl i aros yn eu cartrefi eu hunain trwy amrywiaeth o gymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd gan Gyngor Sir Penfro yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y canlynol:

gwasanaeth ailalluogi sy’n adsefydlu dros 700 o bobl yn drylwyr yn eu cartrefi eu hunain ar ôl salwch a/neu anaf.

gofal cartref – mae rhyw 1,120 o bobl yn cael cymorth i ddilyn trefnau a dull o fyw cyfarwydd yn eu cartrefi eu hunain gan ganiatáu iddynt gadw’u hannibyniaeth ac ansawdd eu bywydau.

taliadau uniongyrchol – mae mwy na 330 o bobl yn cael y modd i ddewis a phrynu eu gwasanaethau drostynt eu hunain.

gwasanaethau / cyfleoedd dydd yn y gymuned – mae mwy na 690 o bobl yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dydd yn ystod y flwyddyn gan fwynhau cwmnïaeth a chyfleoedd i ddysgu neu ailddysgu sgiliau a hobïau, yn ogystal â chael cymorth gyda gwaith arferol.

darparu offer anabledd mewn partneriaeth â’r GIG.

  • rhoi cymorth i bobl sy'n agored i niwed er mwyn iddynt ddal i fod yn ddiogel yn eu cymunedau eu hunain, a cheisio sicrhau nad yw pobl yn dibynnu ar ofal hirdymor.
  • galluogi bron 900 o bobl i fyw mewn cartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio yn ystod y flwyddyn.
  • rhoi cymorth, ar y cyd â'r GIG, i oedolion sydd ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl.

cyd-gyflwyno gwasanaethau ataliol yn y gymuned.

ID: 735, adolygwyd 23/01/2023