Sut mae eich Arian yn Cael ei Wario
Gwasanaethau Diwylliannol a Chysylltiedig
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…
- weithredu 11 canolfan hamdden sy'n denu oddeutu 1.3 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, gan ddarparu cyfleoedd ymarfer corfforol ar gyfer bob oedran yn y gymuned. Mae pob un o’n chwe chanolfan mwyaf ar agor dros 95 awr yr wythnos.
- darparu bron 280 o ddosbarthiadau ymarfer a darparu lle ar gyfer 480 o sesiynau wythnosol clybiau chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
- trefnu sesiynau ‘Dewch i Ddysgu Sut i Nofio' yng nghanolfannau hamdden y Sir trwy roi gwersi i oddeutu 3,000 o blant bob wythnos.
- cynnal Addysg wrth ddarparu cyfleusterau a dysgu nofio i 5,400 o ddisgyblion ysgol gynradd bob blwyddyn.
- rheoli traethau arobryn niferus Sir Benfro. Yn 2019, llwyddodd Cyngor Sir Penfro i ennill 11 Baner Las, 13 Gwobr Arfordir Gwyrdd a 14 Gwobr Glan Môr.
- darparu achubwyr bywyd ar 11 o draethau'r Sir yn ystod misoedd yr haf mewn partneriaeth â'r RNLI a chefnogi pump clwb achubwyr bywyd ledled y Sir.
- gweithredu Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a fynychwyd gan 8,000 o bobl ers cyflwyno'r Cynllun yn 2008.
- darparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ar gyfer y sir gyfan drwy rwydwaith o 12 o lyfrgelloedd ac un cerbyd symudol/danfon i’ch cartref, ynghyd â gwasanaeth ar-lein.
- rhedeg Llyfrgell, Oriel a Siop Goffi Glan-yr-afon yn Hwlffordd, sydd hefyd yn arddangos trysorau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
- cynnal Archifdy ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro.
- darparu gwybodaeth am dwristiaeth, ymdrin ag ymholiadau gan ymwelwyr.
- cynnal Maenordy Scolton a'r Parc Gwledig, a chefnogi amgueddfeydd annibynnol ledled y Sir.
- cynnal Theatr y Torch a llawer o gyfleusterau celfyddyd a cherddoriaeth ledled y Sir.
ID: 749, adolygwyd 23/01/2023