Sut mae eich Arian yn Cael ei Wario
Gwasanaethau'r Amgylchedd
Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…
- gynnal oddeutu saith miliwn o gasgliadau sbwriel a nwyddau i'w hailgylchu o fwy na 61,000 o gartrefi bob blwyddyn. Y llynedd, fe wnaethon ni gasglu mwy na 5,035 tunnell o wastraff bwyd; 2,957 tunnell o wydr, a 8,700 tunnell o ddefnyddiau mewn bagiau oren wrth ymyl y ffordd.
- darparu 89 o fannau ailgylchu a chwe Chanolfan Amwynder Dinesig ac Ailgylchu sydd â chyfleusterau er mwyn ailgylchu mwy na 25 o wahanol ddefnyddiau; o ganlyniad mae dros 10,200 tunnell o ddefnyddiau wedi cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu.
- compostio oddeutu 7,800 tunnell o wastraff gwyrdd y flwyddyn trwy gyfrwng y gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd a'r Canolfannau Amwynder Dinesig ac Ailgylchu.
- monitro ansawdd aer, tir a dŵr ac ymdrin â niwsans sŵn, plâu a chŵn.
- rheoleiddio prosesau diwydiannol bach i sicrhau cydymffurfio amgylcheddol
- ymateb i fwy na 1,000 digwyddiad o dipio anghyfreithlon bob blwyddyn.
- cynnal oddeutu 1,545 o arolygiadau diogelwch bwyd a 250 o arolygiadau iechyd a diogelwch bob blwyddyn.
- ddarparu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, gan sicrhau bod busnesau bwyd yn cael eu sgorio.
- ymdrin â mwy na 650 o gwynion ynghylch safonau masnachu a chynnal mwy na 405 o geisiadau yn ymwneud â lles anifeiliaid.
- trwyddedu 63 sefydliad anifeiliaid.
- cynorthwyo i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag sgiamiau ar y ffôn, ar y stepen drws, trwy'r post neu ar y rhyngrwyd.
- cynnal archwiliadau Safonau Masnachu ar werthwyr ceir i sicrhau masnachu teg a diogel.
- rhoi prawf ar 100% o bympiau petrol a bob tancer tanwydd swmp er mwyn sicrhau eu bod yn fanwl gywir.
- cynnal bron 11,520 o geisiadau am wasanaeth, a rhoi dros 1,170 o drwyddedau.
- cynnal Amlosgfa Parc Gwyn ar bwys Arberth, a chynnal a chadw 11 mynwent ledled y Sir.
- claddu’r ymadawedig gydag urddas pan nad oes unrhyw berthynas agosaf a datgladdu cyrff marw wrth reoli peryglon cysylltiedig.
- casglu cŵn crwydr er mwyn gwarchod y cŵn a phobl rhag peryg niwed a sicrhau ailgartrefu cŵn crwydr a dieisiau’n briodol.
- microsglodynnu miloedd o gŵn yn y Sir er mwyn sicrhau bod modd olrhain eu perchenogion a’u dychwelyd adref yn ddiogel os cânt eu colli.
- datrys problemau gydag eiddo aflan a ferminog ledled y sir fel ag i sicrhau nad oes dim perygl i iechyd y cyhoedd.
- sicrhau bod diffygion mewn carthffosydd a charthbyllau preifat yn cael eu hatgyweirio i atal carthion amrwd mewn mannau cyhoeddus rhag peri amgylchiadau sy’n peryglu iechyd y cyhoedd.
- delio â heigiadau llygod mawr trwy orfodi i atal rhag peryglu iechyd y cyhoedd.
- cyfryngu a gorfodi mewn anghydfodau gwrychoedd uchel.
- gorfodi gofynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol er mwyn sicrhau bod pobl yn mwynhau cymunedau diogel a thawel.
ID: 743, adolygwyd 23/01/2023