Sut mae eich Arian yn Cael ei Wario

Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at y canlynol…

 

  • cynnal a chadw bron 2,500 cilomedr o ffyrdd, a chadw'r strydoedd yn ddiogel a glân. 
  • cynnal a chadw oddeutu 575 cilomedr o droedffyrdd, 670 o bontydd a chwlferi, a 230 o adeileddau sy'n dala priffyrdd yn eu lle.   
  • graeanu 560km o brif lwybrau a 130km o lwybrau eilaidd ledled y sir pryd bynnag y bydd rhagolwg o rew neu eira.
  • ymateb i dywydd garw gan gynnwys symud eira ac ymateb i lifogydd, coed wedi cwympo a gwrthdrawiadau traffig ffordd
  • darparu 15,350 o oleuadau strydoedd a TCC mewn pum canol tref.
  • dechrau lledaenu mannau gwefru cerbydau trydan yn gyflym ym meysydd parcio’r Cyngor
  • darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ac oddi yno ar gyfer bron 6,000 o ddisgyblion a myfyrwyr bob dydd.
  • darparu bron 30 o hebryngwyr croesfannau ysgolion
  • trefnu a chymryd rhan yn y Criw Craff amlasiantaethol, achlysur pythefnos bob blwyddyn sy’n rhoi hysbysrwydd diogelwch hanfodol i ryw 1,400 o ddisgyblion blwyddyn chwech.
  • noddi bron dri chwarter gwasanaethau bysiau’r Sir, gan ddarparu dros filiwn o deithiau teithwyr y flwyddyn.
  • darparu mwy na 2,000 o siwrneiau yr wythnos er mwyn i bobl oedrannus ac anabl fynd i Ganolfannau Dydd a Chanolfannau Gweithgareddau ac oddi yno.
  • rhoi cymorth i gynlluniau cludiant cymunedol er mwyn darparu atebion dyfeisgar i ddiwallu anghenion lleol. Mae’r cynlluniau hyn yn darparu oddeutu 40,000 o siwrneiau yr wythnos i bobl pan nad ydynt yn gallu defnyddio bysiau arferol
  • rheoli'r cynllun cerdyn teithio rhad ar gyfer mwy na 30,000 o bobl sy'n berchen ar gerdyn bws. 
  •  cynnal a chadw 12.3 cilomedr o amddiffynfeydd môr y mae'r Cyngor yn berchen arnynt.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

ID: 750, adolygwyd 23/01/2023