Swddfa'r Crwner
Swyddfa'r Crwner
Mae Crwner Ei Mawrhydi yn swyddog barnwrol annibynnol sy’n dal swydd o dan y Goron. Mae pob crwner yn lleol i awdurdodaeth, yn cael ei ariannu gan y cyngor lleol, ond yn annibynnol ar y Cyngor, yr heddlu, ysbytai a Llywodraeth Cymru.
Mae’r crwner yn cynnal ymchwiliadau ac yn penderfynu ar amgylchiadau ac achosion marwolaeth er budd:
- y rhai sydd wedi cael profedigaeth, sy’n dymuno cael gwybod sut y bu i aelod o’u teulu farw (yr amgylchiadau) a sut y daeth yr amgylchiadau hynny (yr achosion) i fod
- gwyddor feddygol, fel bod modd dysgu oddi wrth yr amgylchiadau a’r achosion er mwyn gwella gofal meddygol ac osgoi camgymeriadau yn y dyfodol
- y cyhoedd, sy’n dymuno cael ei sicrhau yr ymchwilir yn briodol i farwolaeth anesboniadwy neu dreisgar un o’i aelodau mewn ffordd sy’n parchu anghenion y rhai sydd mewn profedigaeth ac sy’n parchu gwyddor feddygol.
Gwrandawiadau o bell yn llys y crwner: Canllaw i'r wasg a'r cyhoedd
Y Crwner
Yr Uwch Grwner Dros Dro yw Paul Bennett. Mae ei awdurdodaeth yn cwmpasu Sir Benfro i gyd, Sir Gaerfyrddin a’r dyfroedd arfordirol gwneir ei waith gan Gareth Lewis, y Crwner Cynorthwyol.
Staff y Swyddfa
Mae gweinyddiaeth swyddfa’r crwner yn cael ei gyflawni gan Glercod y Crwner. Y Clercod, fel arfer, ydy’r pobl gyntaf sydd i’w gweld neu eu clywed wrth gyrrraedd neu ffonio’r swyddfa. Mae pwerau cyfyngedig penodol wedi’u dirprwyo iddyn nhw gan y Crwner a’r gallu ganddyn nhw i rannu gwybodaeth am ddatblygiadau ymchwiliad.
Swyddog Crwner Sir Benfro, sy’n cael ei chyflogi gan yr heddlu, ydy PC James Lang - Ffôn 01267 615310. E-bost: james.lang@Dyfed-Powys.police.uk a PC 578 Carrie Sheridan - Ffôn 07815 160083 / E-bost: carrie.sheridan@dyfed-powys.police.uk
Swyddogion Crwner Sir Gaerfyrddin a gyflogir gan yr heddlu yw Malcolm Thompson (Ffôn 01267 615108 E-bost malcolm.thompson@Dyfed-Powys.police.uk) a Hayley Rogers (Ffôn 01267 615 107 E-bost hayley.rogers@dyfed-powys.police.uk)
Gellir cysylltu â nhw hefyd ar coronerscarms@dyfed-powys.police.uk
Pwyntiau cyswllt ac ymholi
Mae Swyddfa’r Crwner ar gyfer Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedi’i lleoli yn Adain y Gogledd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP. Mae’r swyddfa ar agor o 9:00am i 4:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffôn: 01437 775001, 01437 775134 a 01437 775147
E-bost: pembscarmscoroner@pembrokeshire.gov.uk
Y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â gorsafoedd yr heddlu ar Ffôn 101.
Os ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth dywedwch wrthym unwaith, cysylltwch â'r cofrestrydd ar gyfer eich rhif cyfeirnod unigryw.
Gwrandawiadau o bell yn llys y crwner: Canllaw i'r wasg a'r cyhoedd
Ar 28 Mehefin 2022, daeth rheoliadau newydd i rym gan weithredu Adran 85A o Ddeddf Llysoedd 2003. Yn gryno, mae'r darpariaethau hyn yn caniatáu arsylwi achosion o bell mewn unrhyw lys, tribiwnlys neu gorff sy'n arfer swyddogaeth farnwrol gan gynnwys, at ddibenion y canllaw hwn, Lys y Crwner.
O ganlyniad i'r cyfyngiadau sy'n deillio o Bandemig Covid-19, caniatawyd trefniadau dros dro lle gallai'r wasg a'r cyhoedd gael mynediad i wrandawiadau byw gan ddefnyddio llwyfannau ar y we fel Microsoft Teams a Zoom. Yn unol ag egwyddorion cyfiawnder agored, roedd hyn yn galluogi adrodd ac arsylwi gwrandawiadau, yn amodol ar fesurau diogelu clir ar beidio â chymryd rhan yn y gwrandawiadau eu hunain na'u recordio.
Mae'r trefniant hwnnw bellach wedi'i reoleiddio gan ddeddfwriaeth ac felly gall y sefyllfa i ganiatáu mynediad o bell i wrandawiadau gan y wasg a'r cyhoedd barhau.
Fodd bynnag, mae'r Prif Grwner wedi cyhoeddi Canllawiau penodol[1] sy'n nodi ar ba sail ar gyfer cynnal gwrandawiadau o bell ac mae hyn yn cynnwys y broses y dylai aelodau o'r wasg a'r cyhoedd ofyn am ganiatâd i fod yn bresennol o bell yn hytrach nag yn y cnawd.
Er y bydd yr hawl i fynd i gwest yn y cnawd yn parhau, bydd yr hawl i fod yn bresennol o bell yn parhau i fod yn un y mae'n rhaid iddo fod yn destun caniatâd. Mae'r Canllaw hwn yn nodi'r sefyllfa ddiwygiedig.
Er mwyn darparu ar gyfer cais am bresenoldeb o bell ac er mwyn hwyluso'r trefniadau gweinyddol a thechnegol, bydd yn ofynnol yn awr i unrhyw un sy'n dymuno bod yn bresennol o bell wneud cais (yn ysgrifenedig neu drwy e-bost) O leiaf 24 awr cyn y gwrandawiad. Ni fydd y swyddfa'n delio â cheisiadau am gyswllt o bell ar fore'r gwrandawiad mwyach. Ni fydd hyn yn atal unrhyw un sy'n dymuno bod yn bresennol yn y cnawd.
Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am bresenoldeb o bell at:-
Clerc y Crwner
Swyddfa'r Crwner
Adain y Gogledd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Neu drwy e-bost at: pembscarmscoroner@pembrokeshire.gov.uk
Dolennau cyswllt
Canllawiau Gwasanaethau Crwner (yn agor mewn tab newydd)
Adrodd marwolaeth wrth y crwner (yn agor mewn tab newydd)