Swddfa'r Crwner

Canllawiau ar farwolaethau adroddadwy

Adrodd marwolaeth wrth y crwner

Er mwyn i weithwyr meddygol proffesiynol adrodd marwolaeth wrth y crwner (yn agor mewn tab newydd)

Dylid hysbysu’r Crwner am farwolaeth pan fydd meddyg yn gwybod neu pan fydd ganddo achos rhesymol i amau bod y farwolaeth:

  • wedi digwydd o ganlyniad i wenwyno, defnyddio cyffur rheoledig, cynnyrch meddyginiaethol, neu gemegyn gwenwynig;
  • wedi digwydd o ganlyniad i drawma, trais, neu anaf corfforol, boed hynny wedi ei achosi’n fwriadol neu fel arall;
  • yn gysylltiedig ag unrhyw driniaeth neu weithdrefn o natur feddygol neu debyg;
  • wedi digwydd o ganlyniad i hunan-niwed (gan gynnwys methiant yr ymadawedig i ddiogelu ei fywyd ei hun), boed hynny’n fwriadol neu fel arall;
  • wedi digwydd o ganlyniad i anaf neu glefyd a gafwyd yn ystod gwaith yr ymadawedig, neu y gellir ei briodoli iddo;
  • wedi digwydd o ganlyniad i ddamwain, gwenwyno neu glefyd hysbysadwy;
  • wedi digwydd o ganlyniad i esgeulustod neu fethiant gofal gan berson arall;
  • yn annaturiol mewn ffordd arall.

Rhaid rhoi gwybod i’r Crwner hefyd:

  • os digwyddodd y farwolaeth yn y ddalfa neu pan oedd yn cael ei gadw fel arall gan y wladwriaeth - o ba achos bynnag;
  • os nad oedd unrhyw ymarferwr yn bresennol neu os nad oedd neb ar gael o fewn cyfnod rhesymol i baratoi MCCD;
  • os yw hunaniaeth yr ymadawedig yn anhysbys.
ID: 6755, adolygwyd 10/11/2023