Swddfa'r Crwner
Swyddfa'r Crwner
Mae Crwner Ei Mawrhydi yn swyddog barnwrol annibynnol sy’n dal swydd o dan y Goron. Mae pob crwner yn lleol i awdurdodaeth, yn cael ei ariannu gan y cyngor lleol, ond yn annibynnol ar y Cyngor, yr heddlu, ysbytai a Llywodraeth Cymru.
Mae’r crwner yn cynnal ymchwiliadau ac yn penderfynu ar amgylchiadau ac achosion marwolaeth er budd:
- y rhai sydd wedi cael profedigaeth, sy’n dymuno cael gwybod sut y bu i aelod o’u teulu farw (yr amgylchiadau) a sut y daeth yr amgylchiadau hynny (yr achosion) i fod
- gwyddor feddygol, fel bod modd dysgu oddi wrth yr amgylchiadau a’r achosion er mwyn gwella gofal meddygol ac osgoi camgymeriadau yn y dyfodol
- y cyhoedd, sy’n dymuno cael ei sicrhau yr ymchwilir yn briodol i farwolaeth anesboniadwy neu dreisgar un o’i aelodau mewn ffordd sy’n parchu anghenion y rhai sydd mewn profedigaeth ac sy’n parchu gwyddor feddygol.
Gwrandawiadau o bell yn llys y crwner: Canllaw i'r wasg a'r cyhoedd
Y Crwner
Yr Uwch Grwner yw Gareth Lewis. Mae ei awdurdodaeth yn cwmpasu cwmpas llawn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a'r dyfroedd arfordirol o'u cwmpas.
Pan nad yw Mr Lewis ar gael, mae ei waith yn cael ei wneud gan y Crwner Cynorthwyol, Paul Bennett.
Bydd Mark Layton hefyd yn darparu cefnogaeth o fewn yr awdurdodaeth o bryd i'w gilydd fel Crwner Cynorthwyol.
Staff y swyddfa
Cyflawnir gweinyddiaeth swyddfa'r crwner gan Glercod y Crwner. Fel arfer, y Clercod yw'r person a welir neu a siaradir ag ef gyntaf wrth alw yn y swyddfa neu ffonio. Mae ganddynt rai pwerau cyfyngedig a ddirprwyir iddynt gan y Crwner a byddant yn gallu rhoi gwybodaeth am gynnydd ymchwiliad.
Y Clercod i'r Crwner yw: Ellie Jones, Belinda Smethurst, Amanda Edwards ac Alison Howlin.
Swyddogion y Crwner
Mae Swyddogion y Crwner yn gweithio o dan gyfarwyddyd y Crwner i ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth a gyfeiriwyd at y Crwner a byddant yn delio'n uniongyrchol â theulu'r ymadawedig. Maent wedi'u hyfforddi'n benodol i weithio gyda theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid a chynnal ymholiadau ar ran y Crwner. Mae Swyddogion y Crwner yn cael eu cyflogi gan Heddlu Dyfed Powys ond maent yn gweithio'n gyfan gwbl i'r Crwner.
Swyddogion Crwner Sir Benfro yw:
Jerome Carlson - Ffôn 01267 617 351 / E-bost jerome.carlson@dyfed-powys.police.uk a Roger Smith - Ffôn 01267 615 795 / E-bost roger.smith@dyfed-powys.police.uk
Gellir cysylltu â nhw hefyd ar coronerspembs@dyfed-powys.police.uk
Swyddogion Crwner Sir Gaerfyrddin yw:
Malcolm Thompson (Ffôn 01267 615 108 E-bost malcolm.thompson@dyfed-powys.police.uk), Hayley Rogers (Ffôn 01267 615 107 E-bost hayley.rogers@dyfed-powys.police.uk), Sarah Davies (Ffôn 01267 615 172 E-bost sarah.davies2@dyfed-powys.police.uk), a Rhiannon Griffiths (Ffôn 01267 619 584 E-bost rhiannon.griffiths@dyfed-powys.police.uk)
Gellir cysylltu â nhw hefyd ar coronerscarms@dyfed-powys.police.uk
Pwyntiau cyswllt ac ymholi
Mae Swyddfa’r Crwner ar gyfer Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedi’i lleoli yn Adain y Gogledd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP. Mae’r swyddfa ar agor o 9:00am i 4:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ffôn: 01437 775001, 01437 775134 a 01437 775147
E-bost: pembscarmscoroner@pembrokeshire.gov.uk
Y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â gorsafoedd yr heddlu ar Ffôn 101.
Os ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth dywedwch wrthym unwaith, cysylltwch â'r cofrestrydd ar gyfer eich rhif cyfeirnod unigryw.
Gwrandawiadau o bell yn llys y crwner: Canllaw i'r wasg a'r cyhoedd
Ar 28 Mehefin 2022, daeth rheoliadau newydd i rym gan weithredu Adran 85A o Ddeddf Llysoedd 2003. Yn gryno, mae'r darpariaethau hyn yn caniatáu arsylwi achosion o bell mewn unrhyw lys, tribiwnlys neu gorff sy'n arfer swyddogaeth farnwrol gan gynnwys, at ddibenion y canllaw hwn, Lys y Crwner.
O ganlyniad i'r cyfyngiadau sy'n deillio o Bandemig Covid-19, caniatawyd trefniadau dros dro lle gallai'r wasg a'r cyhoedd gael mynediad i wrandawiadau byw gan ddefnyddio llwyfannau ar y we fel Microsoft Teams a Zoom. Yn unol ag egwyddorion cyfiawnder agored, roedd hyn yn galluogi adrodd ac arsylwi gwrandawiadau, yn amodol ar fesurau diogelu clir ar beidio â chymryd rhan yn y gwrandawiadau eu hunain na'u recordio.
Mae'r trefniant hwnnw bellach wedi'i reoleiddio gan ddeddfwriaeth ac felly gall y sefyllfa i ganiatáu mynediad o bell i wrandawiadau gan y wasg a'r cyhoedd barhau.
Fodd bynnag, mae'r Prif Grwner wedi cyhoeddi Canllawiau penodol sy'n nodi ar ba sail ar gyfer cynnal gwrandawiadau o bell ac mae hyn yn cynnwys y broses y dylai aelodau o'r wasg a'r cyhoedd ofyn am ganiatâd i fod yn bresennol o bell yn hytrach nag yn y cnawd.
Er y bydd yr hawl i fynd i gwest yn y cnawd yn parhau, bydd yr hawl i fod yn bresennol o bell yn parhau i fod yn un y mae'n rhaid iddo fod yn destun caniatâd. Mae'r Canllaw hwn yn nodi'r sefyllfa ddiwygiedig.
Er mwyn darparu ar gyfer cais am bresenoldeb o bell ac er mwyn hwyluso'r trefniadau gweinyddol a thechnegol, bydd yn ofynnol yn awr i unrhyw un sy'n dymuno bod yn bresennol o bell wneud cais (yn ysgrifenedig neu drwy e-bost) O leiaf 24 awr cyn y gwrandawiad. Ni fydd y swyddfa'n delio â cheisiadau am gyswllt o bell ar fore'r gwrandawiad mwyach. Ni fydd hyn yn atal unrhyw un sy'n dymuno bod yn bresennol yn y cnawd.
Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am bresenoldeb o bell at:-
Clerc y Crwner
Swyddfa'r Crwner
Adain y Gogledd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Neu drwy e-bost at: pembscarmscoroner@pembrokeshire.gov.uk
Dolennau cyswllt
Canllawiau Gwasanaethau Crwner (yn agor mewn tab newydd)
Adrodd marwolaeth wrth y crwner (yn agor mewn tab newydd)
Siarter y Crwner
Dywed y Siarter hon wrthych pa safonau perfformiad sydd i’w disgwyl yng Ngwasanaeth y Crwner, a beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le.
Y Sefyllfa Gyfreithiol
Mae Gwasanaeth y Crwner yn gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol. Mae dyletswydd ar Grwneriaid i ymchwilio i farwolaethau yr adroddir wrthynt amdanynt ac sy’n ymddangos i fod yn ganlyniad i drais neu sy’n annaturiol, neu sy’n sydyn a’r achos yn anhysbys, neu sy’n digwydd mewn caethiwed cyfreithiol, a chyflawni rhai cyfrifoldebau cysylltiedig penodol.
Ymddygiad
- Bydd y Crwner a’i staff yn trin y rhai sydd mewn profedigaeth ac aelodau eraill o’r cyhoedd gyda chwrteisi a chydymdeimlad bob amser, a byddant yn talu sylw, o fewn cyfyngiadau’r dyletswyddau statudol, i ffydd grefyddol a thraddodiadau diwylliannol yr ymadawedig.
- Caiff y dyletswyddau eu cyflawni’n ddiduedd, gyda’r bwriad o ganfod y ffeithiau sy’n gysylltiedig â marwolaeth i ddibenion cyfrifoldebau statudol y Crwner.
- Diogelir cyfrinachedd hyd y gellir o fewn system sy’n seiliedig ar wrandawiadau llys cyhoeddus. Rhoddir esboniadau am y gweithdrefnau a fabwysiedir mewn achosion penodol, os gofynnir, pan fo’r Crwner yn fodlon bod gan y person fuddiant priodol.
Gohebiaeth
Fel arfer, bydd ymholiadau ysgrifenedig i’r Crwner yn derbyn ateb o fewn 10 diwrnod gwaith i’w derbyn. Oni ellir datrys y mater yn yr amser hwnnw, anfonir cydnabyddiaeth o fewn 5 diwrnod gwaith gydag amcangyfrif o’r amser yr anfonir ateb o sylwedd.
Ymholiadau nad oes angen cwest ar eu cyfer
Os adroddir am farwolaeth nad oes angen iddi fod yn destun cwest, anfonir tystysgrif, sy’n rhoi achos y farwolaeth, at y Cofrestrydd Marwolaethau o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i ymholiadau’r Crwner gael eu cwblhau.
Cyn y cwest
Cyfweliadau
Os oes angen i’r Crwner neu ei swyddog neu staff gyfweld rhywun ynglŷn â marwolaeth, y nod fydd gwneud hynny ddim mwy nag unwaith, ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i’r person dan sylw. Os bydd y person yn dymuno, gall perthynas, cyfaill neu berson arall fod yn bresennol gydag ef/hi yn ystod y cyfweliad. Gwneir pob ymdrech i osgoi achosi unrhyw drallod ychwanegol i gyfeillion agos neu berthnasau’r ymadawedig. Bydd copi o unrhyw ddatganiad sydd i’w ddefnyddio yn y cwest yn cael ei roi i’r person a’i gwnaeth, ar gais, o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad (oni bydd gan y Crwner reswm da dros beidio â’i ryddhau).
Post Mortem
Pan fydd y Crwner yn penderfynu bod angen post mortem rhoddir y canlynol, lle bynnag y bo modd, i’r perthynas agosaf y mae ei fanylion yn hysbys:
- Os gofynnir am hynny, esboniad pam mae angen post mortem a beth mae hynny’n ei olygu;
- Hysbysiad ymlaen llaw am y trefniadau, fel y gall gael ei gynrychioli (gan feddyg) os yw yn dymuno (ond mae’n rhaid cynnal archwiliadau post mortem fel arfer cyn gynted ag y bo modd, fel rheol o fewn 24 awr i’r farwolaeth gael ei darganfod). Ni fydd hysbysu yn ymarferol bob tro;
- Copi o adroddiad y post mortem, os gofynnir amdano.
Trefniadau Gweinyddol
Bydd y Crwner yn hysbysu’r rhai y gofynnir iddynt fod yn bresennol mewn cwest am y canlynol:
- Dyddiad ac amser pob gwrandawiad (os oes mwy nag un) o leiaf 8 diwrnod gwaith ymlaen llaw (ond sylwer y bydd agoriad ffurfiol y cwest - ar gyfer cymryd tystiolaeth o hunaniaeth ac achos meddygol y farwolaeth - yn digwydd yn gyffredinol o fewn 2 ddiwrnod i’r adroddiad am y farwolaeth, ac ar yr adeg yma caiff y corff ei ryddhau fel rheol);
- manylion lleoliad y llys lle y cynhelir y cwest;
- manylion y rhif ffôn ar gyfer ymholiadau; a bydd yn
- darparu taflen yn esbonio pwrpas a gweithdrefnau cwestau;
- dweud ymlaen llaw wrth y rhai sy’n mynegi dymuniad i wneud hynny y cânt fod yn bresennol fel arsyllwyr mewn cwest;
- esbonio i’r rhai a elwir yn dystion neu’n rheithwyr sut i hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth ynghyd â lwfansau colled ariannol;
- gweld a oes gan rywun ddull dewisol o dyngu llw (e.e. yn unol â chred grefyddol benodol, neu gadarnhad).
Amseriad
Bydd y Crwner yn ymdrechu i gynnal unrhyw gwest angenrheidiol ar y dyddiad cynharaf posibl. Bydd y rhan fwyaf o gwestau’n digwydd o fewn 6 mis i’r farwolaeth. Fodd bynnag, gall fod ffactorau y tu allan i reolaeth y Crwner a all achosi oedi. Lle bo’r cwest yn debygol o gael ei oedi, bydd y Crwner yn hysbysu personau sydd â diddordeb yn rheolaidd am y sefyllfa, gan gynnwys y rhesymau dros unrhyw oedi parhaus, oni bai bod y cwest wedi cael ei ohirio’n ffurfiol hyd ddyddiad penodol.
Rhyddhau’r corff
Bydd y Crwner yn rhyddhau corff yr ymadawedig ar gyfer yr angladd ar y cyfle cyntaf, a hynny o fewn 3 diwrnod fel arfer. Pan fo ansicrwydd ynghylch achos y farwolaeth, neu os bydd y farwolaeth yn un amheus, efallai y bydd angen cadw’r corff yn hirach ar gyfer ymchwiliad pellach. Bydd y Crwner yn sicrhau bod perthnasau yn cael gwybod am oedi posibl a’r rhesymau am hynny.
Datgelu Gwybodaeth
Bydd y Crwner, ar gais ac yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, yn darparu copïau o adroddiad y post mortem ar gyfer pobl sydd â diddordeb, heb fod yn llai nag 8 diwrnod gwaith cyn y cwest, ac efallai y bydd angen talu amdanynt.
Y Rheithwyr
I reithwyr, bydd y Crwner:
- yn anfon taflen yn egluro dyletswyddau’r rheithiwr mewn cwest, ac yn darparu gwybodaeth berthnasol arall, 10 diwrnod ymlaen llaw;
- yn rhoi awgrym ymlaen llaw o ba mor hir y bydd gwasanaeth y rheithgor yn para.
Ar ôl y cwest
- Ar ddiwedd y cwest, rhoddir esboniad ysgrifenedig i’r perthynas agosaf ynglŷn â sut, ble a phryd y gellir cael copi o’r dystysgrif marwolaeth.
- Os bydd y Crwner, er mwyn atal marwolaethau pellach, yn penderfynu hysbysu person neu awdurdod perthnasol am y mater, bydd yn gwneud hynny o fewn 15 diwrnod gwaith i ganlyniad y cwest. Bydd hefyd yn anfon copïau o’i lythyr at yr holl bobl sydd â diddordeb. Bydd copi o unrhyw ateb dilynol yn cael ei anfon o fewn 5 diwrnod i’w dderbyn.
- Bydd y Crwner yn rhoi i berson sydd â diddordeb, ar gais, gopi o ddyfarniad y cwest (er bod hwn yn cael ei atgynhyrchu ar y dystysgrif marwolaeth), neu unrhyw un o’r dogfennau a gyflwynwyd yn dystiolaeth, o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn y ffi ragnodedig (a fydd yn amrywio yn ôl nifer a maint y dogfennau sydd i’w copïo). Rhoddir amcangyfrif o’r ffi ymlaen llaw, os gofynnir.
- Bydd y Crwner hefyd yn rhoi, am y ffi a ragnodwyd, gopi o’i nodiadau tystiolaeth, ond gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos i’w ddarparu. Ym mhob achos, rhoddir amcangyfrif o’r ffi ar gais.
- Bydd y Crwner/awdurdod lleol yn talu hawliadau am dreuliau tystion a theithwyr yn brydlon ac o fewn 15 diwrnod gwaith i dderbyn ceisiadau a gwblhawyd yn gywir.
- Ceisiadau am ganiatâd i symud corff dramor
- Bydd y Crwner yn gwneud pob ymdrech i gwblhau ei ymholiadau a phenderfynu ar geisiadau o’r fath o fewn 5 diwrnod i dderbyn rhybudd.
Cwestau trysor
Mae Crwneriaid yn gyfrifol am ymholiadau i ganfyddiadau trysor. Mae taflenni gwybodaeth am drysor ar gael o Swyddfa’r Crwner.
Adborth a chwynion
Ni fydd Crwneriaid fel arfer yn gohebu ynglŷn â’r achosion y maent wedi’u cwblhau, ond bydd croeso bob amser i sylwadau ac awgrymiadau sut i wella gwasanaeth y Crwner. Cysylltwch â Swyddfa’r Crwner yn y cyfeiriad a roddir uchod. Nod gwasanaeth y Crwner yw darparu gwasanaeth rhagorol fel na ddylech gael unrhyw achos i gwyno ond, os bydd gennych achos i gwyno, ymdrinnir â’r gŵyn yn gyflym ac yn gwrtais.
- Dim ond drwy’r Uchel Lys y gellir ymdrin â chwynion am benderfyniad Crwner neu ganlyniad cwest. Gall Swyddfa’r Crwner egluro’r weithdrefn, os gofynnir, ond ni all roi cyngor cyfreithiol.
- Dylid codi pob cwyn ynglŷn â gweinyddiaeth gwasanaeth y Crwner, neu ymddygiad Crwneriaid unigol neu eu staff, yn y lle cyntaf gyda’r Crwner, drwy ysgrifennu ato neu ei ffonio yn y pwynt cyswllt a roddir ym mharagraff 7. Bydd y Crwner yn ymateb i gwynion o’r fath yn unol â’r amserlenni a nodir uchod.
- Os bydd y Crwner yn methu â delio â’r gŵyn yn foddhaol, gall yr achwynydd ei chyfeirio at y Swyddfa Gartref (adran Crwneriaid), ystafell 972, 50 Queen Anne’s Gate, Llundain SW1H 9AT. Ffôn: 0207 273 2888/3574). Nid oes gan y Swyddfa Gartref bwerau disgyblu na phŵer i ddyfarnu iawndal ond gall, mewn achosion priodol, gyfeirio’r gŵyn at yr Arglwydd Ganghellor sy’n gyfrifol am ddisgyblu Crwneriaid.
Perfformiad
Bydd perfformiad y Crwner a’r Cyngor yn cael ei fonitro’n rheolaidd yn erbyn y safonau a nodir yn y ddogfen hon.
Rhagor o wybodaeth
Gellir cael rhagor o gopïau o’r Siarter hon o Swyddfa’r Crwner. Ceir gwybodaeth gyffredinol yn nhaflen y Swyddfa Gartref, ‘Gwaith y Crwner’, sydd hefyd ar gael o Swyddfa’r Crwner.
Mae copïau o’r Siarter hon yn Gymraeg ar gael o Swyddfa’r Crwner.
Cyhoeddwyd y Siarter hon am y tro cyntaf ar 01-08-02 a chaiff ei hadolygu’n flynyddol.
Cwestau
Cwestau Sir Benfro
Fel arfer, cynhelir cwestau Sir Benfro yn Siambrau’r Cyngor, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP, ond gellir eu cynnal mewn lleoliadau priodol eraill, pan fo angen.
Yn Siambrau’r Cyngor ceir mynediad a thoiledau ar gyfer pobl anabl ond ni cheir lluniaeth, ystafelloedd aros ar wahân na ffonau. Nid oes lle parcio ychwaith yn Neuadd y Sir. Fodd bynnag, mae lle parcio ar gael gerllaw, gan gynnwys yn y maes parcio aml-lawr drws nesaf i Neuadd y Sir.
Gofynnir i unrhyw un sy’n dymuno bod yn bresennol mewn cwest, sydd ag unrhyw anghenion arbennig (gan gynnwys, er enghraifft, cyfleusterau ar gyfer pobl drwm eu clyw, gwasanaethau cyfieithu neu ddehongli), gysylltu â Swyddfa’r Crwner ymlaen llaw. Dylai’r rhai sy’n dymuno bod yn bresennol fynd i’r brif dderbynfa yn Neuadd y Sir.
Cwestau Sir Gaerfyrddin
Fel arfer, cynhelir cwestau Sir Gaerfyrddin yn Neuadd y Dref, Llanelli ond gellir eu cynnal mewn lleoliadau priodol eraill, pan fo angen. Yn Neuadd y Dref ceir mynediad a thoiledau ar gyfer pobl anabl ond ni cheir lluniaeth, ystafelloedd aros ar wahân na ffonau. Mae lleoedd parcio ar gael wrth Neuadd y Dref.
Bydd Crwneriaid a’u staff yn dweud eu henwau wrth ymwneud ag aelodau o’r cyhoedd. Bydd y Dirprwy Grwner a’r Dirprwy Grwner Cynorthwyol yn gweithredu pan na fydd y Crwner ar gael. Wrth wneud hynny, byddant yn arfer pwerau llawn y Crwner.
Gofynnir i unrhyw un sy’n dymuno bod yn bresennol mewn cwest yn Neuadd y Dref, sydd ag unrhyw anghenion arbennig (gan gynnwys, er enghraifft, cyfleusterau ar gyfer pobl drwm eu clyw, gwasanaethau cyfieithu neu ddehongli), gysylltu â Swyddfa’r Crwner ymlaen llaw.
2026
Cwestau Sir Benfor a Sir Gar Mai Rhan 3 2026 - Cwestau ysgrifenedig
Cwestau Sir Benfor a Sir Gar Mai Rhan 2 2026 - Cwestau ysgrifenedig
Cwestau Sir Benfro a Sir Gar Mai 2026
Cwestau Sir Benfor a Sir Gar Mai 2026 - Cwestau ysgrifenedig
Cwestau Sir Benfro a Sir Gar Ebrill 2026
Cwestau Sir Benfor a Sir Gar Ebrill 2026 - Cwestau ysgrifenedig
Sylwch: fod y dyddiadau ar gyfer gwrandawiadau cwest yn cael eu pennu ar adeg agor y cwest. Bydd y dyddiadau hyn yn dal yn agored i newid. Yn aml, symudir dyddiadau cwest ymlaen, yn enwedig pan ddaw’r dystiolaeth i law yn gynt nag y disgwylid ar yr adeg y pennwyd dyddiad y gwrandawiad yn wreiddiol. Os oes gan unrhyw berson ddiddordeb mewn cwest penodol, fe’i cynghorir i edrych ar y wefan a chysylltu â’r swyddfa yn ystod oriau agor arferol, 9:00am - 4:00pm, gan y caiff cwestau eu hailrestru yn aml ar fyr rybudd. Er y gwneir pob ymdrech i ddiweddaru’r safle hwn, pan gaiff cwestau eu rhestru ar fyr rybudd, nid yw hyn bob amser yn bosibl.
Gorchmynion Diogelu rhag Colli Rhyddid ('DOLS')
O ddydd Llun, 3 Ebrill 2017, diwygiwyd Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 fel na fydd pobl sy’n destun awdurdodiadau o dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (a elwir yn DoLS) bellach yn cael eu hystyried ‘yn cael eu cadw fel arall gan y wladwriaeth’ i ddibenion Adran 1 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009.
Effaith hyn, yn achos unrhyw farwolaeth sy’n digwydd ar neu ar ôl 3 Ebrill a lle roedd yr ymadawedig yn destun awdurdodiad DoLS, yw na fydd dyletswydd ar y Crwner mwyach i gynnal cwest ym mhob achos. Bydd y newid hwn hefyd yn berthnasol mewn achosion eraill pan fydd yr ymadawedig wedi colli ei ryddid drwy awdurdodiad dan ddarpariaethau yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005.
Ni fydd y newid yn y gyfraith yn berthnasol i unrhyw farwolaeth a ddigwyddodd cyn dydd Llun, 3 Ebrill 2017, a bydd cwestau’n dal i fod yn ofynnol o hyd yn yr achosion hynny. Dylid rhoi gwybod i’r Crwner am farwolaethau o’r fath ym mhob achos, hyd yn oed pan wneir yr adroddiad ar ôl y 3ydd o Ebrill.
Yn achos unrhyw berson sydd ag awdurdodiad DoLS, neu awdurdodiad arall ar gyfer colli rhyddid o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, sy’n marw ar y 3ydd o Ebrill, neu unrhyw bryd wedyn, nid oes angen rhoi gwybod i’r Crwner ond os yw achos y farwolaeth yn anhysbys neu os oes pryderon bod achos y farwolaeth yn annaturiol neu’n dreisgar, gan gynnwys pan fo unrhyw bryder bod y gofal a roddwyd wedi cyfrannu at farwolaeth yr unigolyn.
Canllawiau ar farwolaethau adroddadwy
Adrodd marwolaeth wrth y crwner
Er mwyn i weithwyr meddygol proffesiynol adrodd marwolaeth wrth y crwner (yn agor mewn tab newydd)
Dylid hysbysu’r Crwner am farwolaeth pan fydd meddyg yn gwybod neu pan fydd ganddo achos rhesymol i amau bod y farwolaeth:
- wedi digwydd o ganlyniad i wenwyno, defnyddio cyffur rheoledig, cynnyrch meddyginiaethol, neu gemegyn gwenwynig;
- wedi digwydd o ganlyniad i drawma, trais, neu anaf corfforol, boed hynny wedi ei achosi’n fwriadol neu fel arall;
- yn gysylltiedig ag unrhyw driniaeth neu weithdrefn o natur feddygol neu debyg;
- wedi digwydd o ganlyniad i hunan-niwed (gan gynnwys methiant yr ymadawedig i ddiogelu ei fywyd ei hun), boed hynny’n fwriadol neu fel arall;
- wedi digwydd o ganlyniad i anaf neu glefyd a gafwyd yn ystod gwaith yr ymadawedig, neu y gellir ei briodoli iddo;
- wedi digwydd o ganlyniad i ddamwain, gwenwyno neu glefyd hysbysadwy;
- wedi digwydd o ganlyniad i esgeulustod neu fethiant gofal gan berson arall;
- yn annaturiol mewn ffordd arall.
Rhaid rhoi gwybod i’r Crwner hefyd:
- os digwyddodd y farwolaeth yn y ddalfa neu pan oedd yn cael ei gadw fel arall gan y wladwriaeth - o ba achos bynnag;
- os nad oedd unrhyw ymarferwr yn bresennol neu os nad oedd neb ar gael o fewn cyfnod rhesymol i baratoi MCCD;
- os yw hunaniaeth yr ymadawedig yn anhysbys.
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Pam mae’r Crwner yn ymholi i farwolaeth?
Gellir adrodd wrth y Crwner am farwolaeth oherwydd nifer o resymau. Yna bydd y Crwner yn cynnal ymholiadau i’r farwolaeth. Dim ond am leiafrif o farwolaethau yr adroddir wrth y Crwner. Yn y rhan fwyaf o achosion, gall meddyg yr ymadawedig ei hun neu feddyg ysbyty roi achos marwolaeth.
Rhai enghreifftiau o’r rhesymau dros gyfeirio at y Crwner yw:-
- Efallai na fydd meddyg yn sicr o achos y farwolaeth neu pam mae’r claf wedi marw yn gynt na’r hyn a ragwelwyd.
- Efallai bod y farwolaeth wedi digwydd mewn modd nad yw’n naturiol, e.e. gorddos o gyffuriau.
- Gall fod trais yn gysylltiedig â’r farwolaeth, naill ai’n ddamweiniol, fel yn achos marwolaeth ar y ffordd; neu’n fwriadol.
Fydd yna awtopsi?
Dyletswydd y Crwner yw darganfod achos meddygol y farwolaeth. Ar ôl derbyn adroddiad, efallai y bydd y Crwner yn penderfynu bod y farwolaeth yn naturiol ac yn awdurdodi meddyg i arwyddo ffurflen yn datgan, hyd eithaf ei wybodaeth, beth oedd achos meddygol y farwolaeth. Weithiau, er ei bod yn amlwg bod y farwolaeth yn un naturiol, nid oes digon o wybodaeth am gyflwr meddygol y claf i ddweud beth oedd achos y farwolaeth. Yna, bydd y Crwner yn gofyn i batholegydd gynnal archwiliad cyn gynted ag y bo modd. Os bydd yr archwiliad, a adwaenir naill ai fel awtopsi neu fel archwiliad post mortem (post mortem yw’r Lladin am "ar ôl marwolaeth"), yn dangos achos meddygol y farwolaeth a bod yr achos hwnnw’n un naturiol, anaml iawn y bydd angen cwest, ac fe fydd y Crwner yn anfon ffurflen at y Cofrestrydd Marwolaethau fel y gellir cofrestru’r farwolaeth.
Fydd trefniadau’r angladd yn cael eu gohirio?
Cyn gynted ag y bydd unrhyw awtopsi wedi’i gwblhau ac achos meddygol y farwolaeth yn hysbys, bydd y Crwner yn hysbysu’r Cofrestrydd Marwolaethau a fydd, os yw’r farwolaeth yn un naturiol, yn cofrestru’r farwolaeth ac yn gallu rhoi tystysgrif yn awdurdodi claddu. Os oes angen amlosgi, gall y Crwner roi tystysgrif yn ei awdurdodi. Hyd yn oed os nad yw’r farwolaeth yn un naturiol fel bod yn rhaid cynnal cwest, gall y Crwner, ar ôl agor a gohirio’r cwest yn ffurfiol, roi tystysgrif naill ai claddu neu amlosgi. Anaml y bydd y prosesau hyn yn cymryd mwy na 48 awr, cyfnod sydd yn rhwydd o fewn y cyfnod arferol ar gyfer trefnu angladd.
Allaf i gofrestru’r farwolaeth os oes cwest i gael ei gynnal?
Hyd nes y bydd y cwest wedi ei gwblhau, ni all y Cofrestrydd Marwolaethau roi tystysgrif gan nad yw casgliad y cwest yn hysbys. Fodd bynnag, bydd y Crwner yn cyhoeddi tystysgrif interim yn cadarnhau’r farwolaeth, sy’n ei gwneud yn bosibl symud ymlaen i weinyddu materion yr ymadawedig
Pam mae angen cymaint o amser rhwng agor y cwest a’i gasgliad?
Oherwydd bod ymchwiliadau llawn yn cymryd amser, efallai y bydd oedi cyn cwblhau’r cwest. Er enghraifft, gall marwolaeth ar y ffordd olygu derbyn datganiadau gan nifer o dystion, ac mae’n bosibl na fydd rhai ohonynt yn byw yn lleol. Efallai y bydd yn rhaid i Ymchwilydd Damweiniau baratoi adroddiad. Efallai na fydd awtopsi’n datgelu achos y farwolaeth bob tro ac efallai y bydd angen archwilio samplau o feinwe mewn labordy. Gall y profion a’r archwiliadau gymryd 10 i 12 wythnos neu fwy. Beth bynnag fo’r rheswm am yr oedi, gellir cael gwybodaeth am y cwest naill ai o’r safle hwn neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â Swyddfa’r Crwner.
Ble gallaf i gael rhagor o help a gwybodaeth?
Nid yw’r rhestr hon yn gwbl gynhwysfawr, felly peidiwch ag oedi rhag cysylltu â Swyddfa’r Crwner am ragor o wybodaeth a chymorth. Cofiwch, os gwelwch yn dda, mai dim ond o 9:00am hyd 4:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener y mae’r Swyddfa ar agor ac felly, os byddwch yn ffonio y tu allan i’r oriau hyn, efallai na fydd y wybodaeth y mae arnoch ei heisiau ar gael. Dolen gyswllt i dudalen
Pobl yr ydym yn rhannu data a hwy
Oni bai bod cyfyngiad wedi cael ei osod, mae cwestau’n agored i’r cyhoedd ac felly caiff data ei rannu ag unrhyw un sy’n bresennol yn y trafodion, gan gynnwys y wasg.
Yn ystod y gwaith o gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol, caiff Crwner EM, yn ôl ei ddisgresiwn neu fel y bo angen yn gyfreithiol, rannu gwybodaeth â'r prif sefydliadau/unigolion canlynol:
- Cynghorau Dinas a Sir Penfro a Sir Gaerfyrddin
- Y Prif Grwner
- Heddlu Dyfed Powys
- Patholegwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill sy’n gweithio i Grwner EM
- Trefnwyr Angladdau yn yr ardal
- Crwneriaid lleol - yn benodol pan fydd achosion yn cael eu trosglwyddo neu eu derbyn
- Ymddiriedolaethau Ysbytai’r GIG a chyrff clinigol/allgymorth eraill yn ardal De Cymru
- Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys
- Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Y Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer ardal De Cymru
- Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
- Gwasanaethau Ambiwlans De Cymru
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Arolygiaeth Gofal Cymru
- Teuluoedd yr effeithiwyd arnynt
- Staff y Swyddfa Gofrestru yn ardal De Cymru
- Mynwentydd ac Amlosgfeydd yn ardal De Cymru