Swddfa'r Crwner

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Pam mae’r Crwner yn ymholi i farwolaeth?

Gellir adrodd wrth y Crwner am farwolaeth oherwydd nifer o resymau. Yna bydd y Crwner yn cynnal ymholiadau i’r farwolaeth. Dim ond am leiafrif o farwolaethau yr adroddir wrth y Crwner. Yn y rhan fwyaf o achosion, gall meddyg yr ymadawedig ei hun neu feddyg ysbyty roi achos marwolaeth.

Rhai enghreifftiau o’r rhesymau dros gyfeirio at y Crwner yw:-

  • Efallai na fydd meddyg yn sicr o achos y farwolaeth neu pam mae’r claf wedi marw yn gynt na’r hyn a ragwelwyd. 
  • Efallai bod y farwolaeth wedi digwydd mewn modd nad yw’n naturiol, e.e. gorddos o gyffuriau. 
  • Gall fod trais yn gysylltiedig â’r farwolaeth, naill ai’n ddamweiniol, fel yn achos marwolaeth ar y  ffordd; neu’n fwriadol. 

Fydd yna awtopsi?

Dyletswydd y Crwner yw darganfod achos meddygol y farwolaeth. Ar ôl derbyn adroddiad, efallai y bydd y Crwner yn penderfynu bod y farwolaeth yn naturiol ac yn awdurdodi meddyg i arwyddo ffurflen yn datgan, hyd eithaf ei wybodaeth, beth oedd achos meddygol y farwolaeth. Weithiau, er ei bod yn amlwg bod y farwolaeth yn un naturiol, nid oes digon o wybodaeth am gyflwr meddygol y claf i ddweud beth oedd achos y farwolaeth. Yna, bydd y Crwner yn gofyn i batholegydd gynnal archwiliad cyn gynted ag y bo modd. Os bydd yr archwiliad, a adwaenir naill ai fel awtopsi neu fel archwiliad post mortem (post mortem yw’r Lladin am "ar ôl marwolaeth"), yn dangos achos meddygol y farwolaeth a bod yr achos hwnnw’n un naturiol, anaml iawn y bydd angen cwest, ac fe fydd y Crwner yn anfon ffurflen at y Cofrestrydd Marwolaethau fel y gellir cofrestru’r farwolaeth.

Fydd trefniadau’r angladd yn cael eu gohirio?

Cyn gynted ag y bydd unrhyw awtopsi wedi’i gwblhau ac achos meddygol y farwolaeth yn hysbys, bydd y Crwner yn hysbysu’r Cofrestrydd Marwolaethau a fydd, os yw’r farwolaeth yn un naturiol, yn cofrestru’r farwolaeth ac yn gallu rhoi tystysgrif yn awdurdodi claddu. Os oes angen amlosgi, gall y Crwner roi tystysgrif yn ei awdurdodi. Hyd yn oed os nad yw’r farwolaeth yn un naturiol fel bod yn rhaid cynnal cwest, gall y Crwner, ar ôl agor a gohirio’r cwest yn ffurfiol, roi tystysgrif naill ai claddu neu amlosgi. Anaml y bydd y prosesau hyn yn cymryd mwy na 48 awr, cyfnod sydd yn rhwydd o fewn y cyfnod arferol ar gyfer trefnu angladd.

Allaf i gofrestru’r farwolaeth os oes cwest i gael ei gynnal?

Hyd nes y bydd y cwest wedi ei gwblhau, ni all y Cofrestrydd Marwolaethau roi tystysgrif gan nad yw casgliad y cwest yn hysbys. Fodd bynnag, bydd y Crwner yn cyhoeddi tystysgrif interim yn cadarnhau’r farwolaeth, sy’n ei gwneud yn bosibl symud ymlaen i weinyddu materion yr ymadawedig

Pam mae angen cymaint o amser rhwng agor y cwest a’i gasgliad?

Oherwydd bod ymchwiliadau llawn yn cymryd amser, efallai y bydd oedi cyn cwblhau’r cwest. Er enghraifft, gall marwolaeth ar y ffordd olygu derbyn datganiadau gan nifer o dystion, ac mae’n bosibl na fydd rhai ohonynt yn byw yn lleol. Efallai y bydd yn rhaid i Ymchwilydd Damweiniau baratoi adroddiad.  Efallai na fydd awtopsi’n datgelu achos y farwolaeth bob tro ac efallai y bydd angen archwilio samplau o feinwe mewn labordy. Gall y profion a’r archwiliadau gymryd 10 i 12 wythnos neu fwy. Beth bynnag fo’r rheswm am yr oedi, gellir cael gwybodaeth am y cwest naill ai o’r safle hwn neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â Swyddfa’r Crwner.

Ble gallaf i gael rhagor o help a gwybodaeth?

Nid yw’r rhestr hon yn gwbl gynhwysfawr, felly peidiwch ag oedi rhag cysylltu â Swyddfa’r Crwner am ragor o wybodaeth a chymorth. Cofiwch, os gwelwch yn dda, mai dim ond o 9:00am hyd 4:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener y mae’r Swyddfa ar agor ac felly, os byddwch yn ffonio y tu allan i’r oriau hyn, efallai na fydd y wybodaeth y mae arnoch ei heisiau ar gael. Dolen gyswllt i dudalen

 

 

 

 

ID: 6763, adolygwyd 02/02/2023