Swddfa'r Crwner
Siarter y Crwner
Dywed y Siarter hon wrthych pa safonau perfformiad sydd i’w disgwyl yng Ngwasanaeth y Crwner, a beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le.
Y Sefyllfa Gyfreithiol
Mae Gwasanaeth y Crwner yn gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol. Mae dyletswydd ar Grwneriaid i ymchwilio i farwolaethau yr adroddir wrthynt amdanynt ac sy’n ymddangos i fod yn ganlyniad i drais neu sy’n annaturiol, neu sy’n sydyn a’r achos yn anhysbys, neu sy’n digwydd mewn caethiwed cyfreithiol, a chyflawni rhai cyfrifoldebau cysylltiedig penodol.
Ymddygiad
- Bydd y Crwner a’i staff yn trin y rhai sydd mewn profedigaeth ac aelodau eraill o’r cyhoedd gyda chwrteisi a chydymdeimlad bob amser, a byddant yn talu sylw, o fewn cyfyngiadau’r dyletswyddau statudol, i ffydd grefyddol a thraddodiadau diwylliannol yr ymadawedig.
- Caiff y dyletswyddau eu cyflawni’n ddiduedd, gyda’r bwriad o ganfod y ffeithiau sy’n gysylltiedig â marwolaeth i ddibenion cyfrifoldebau statudol y Crwner.
- Diogelir cyfrinachedd hyd y gellir o fewn system sy’n seiliedig ar wrandawiadau llys cyhoeddus. Rhoddir esboniadau am y gweithdrefnau a fabwysiedir mewn achosion penodol, os gofynnir, pan fo’r Crwner yn fodlon bod gan y person fuddiant priodol.
Gohebiaeth
Fel arfer, bydd ymholiadau ysgrifenedig i’r Crwner yn derbyn ateb o fewn 10 diwrnod gwaith i’w derbyn. Oni ellir datrys y mater yn yr amser hwnnw, anfonir cydnabyddiaeth o fewn 5 diwrnod gwaith gydag amcangyfrif o’r amser yr anfonir ateb o sylwedd.
Ymholiadau nad oes angen cwest ar eu cyfer
Os adroddir am farwolaeth nad oes angen iddi fod yn destun cwest, anfonir tystysgrif, sy’n rhoi achos y farwolaeth, at y Cofrestrydd Marwolaethau o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i ymholiadau’r Crwner gael eu cwblhau.
Cyn y cwest
Cyfweliadau
Os oes angen i’r Crwner neu ei swyddog neu staff gyfweld rhywun ynglŷn â marwolaeth, y nod fydd gwneud hynny ddim mwy nag unwaith, ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i’r person dan sylw. Os bydd y person yn dymuno, gall perthynas, cyfaill neu berson arall fod yn bresennol gydag ef/hi yn ystod y cyfweliad. Gwneir pob ymdrech i osgoi achosi unrhyw drallod ychwanegol i gyfeillion agos neu berthnasau’r ymadawedig. Bydd copi o unrhyw ddatganiad sydd i’w ddefnyddio yn y cwest yn cael ei roi i’r person a’i gwnaeth, ar gais, o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad (oni bydd gan y Crwner reswm da dros beidio â’i ryddhau).
Post Mortem
Pan fydd y Crwner yn penderfynu bod angen post mortem rhoddir y canlynol, lle bynnag y bo modd, i’r perthynas agosaf y mae ei fanylion yn hysbys:
- Os gofynnir am hynny, esboniad pam mae angen post mortem a beth mae hynny’n ei olygu;
- Hysbysiad ymlaen llaw am y trefniadau, fel y gall gael ei gynrychioli (gan feddyg) os yw yn dymuno (ond mae’n rhaid cynnal archwiliadau post mortem fel arfer cyn gynted ag y bo modd, fel rheol o fewn 24 awr i’r farwolaeth gael ei darganfod). Ni fydd hysbysu yn ymarferol bob tro;
- Copi o adroddiad y post mortem, os gofynnir amdano.
Trefniadau Gweinyddol
Bydd y Crwner yn hysbysu’r rhai y gofynnir iddynt fod yn bresennol mewn cwest am y canlynol:
- Dyddiad ac amser pob gwrandawiad (os oes mwy nag un) o leiaf 8 diwrnod gwaith ymlaen llaw (ond sylwer y bydd agoriad ffurfiol y cwest - ar gyfer cymryd tystiolaeth o hunaniaeth ac achos meddygol y farwolaeth - yn digwydd yn gyffredinol o fewn 2 ddiwrnod i’r adroddiad am y farwolaeth, ac ar yr adeg yma caiff y corff ei ryddhau fel rheol);
- manylion lleoliad y llys lle y cynhelir y cwest;
- manylion y rhif ffôn ar gyfer ymholiadau; a bydd yn
- darparu taflen yn esbonio pwrpas a gweithdrefnau cwestau;
- dweud ymlaen llaw wrth y rhai sy’n mynegi dymuniad i wneud hynny y cânt fod yn bresennol fel arsyllwyr mewn cwest;
- esbonio i’r rhai a elwir yn dystion neu’n rheithwyr sut i hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth ynghyd â lwfansau colled ariannol;
- gweld a oes gan rywun ddull dewisol o dyngu llw (e.e. yn unol â chred grefyddol benodol, neu gadarnhad).
Amseriad
Bydd y Crwner yn ymdrechu i gynnal unrhyw gwest angenrheidiol ar y dyddiad cynharaf posibl. Bydd y rhan fwyaf o gwestau’n digwydd o fewn 6 mis i’r farwolaeth. Fodd bynnag, gall fod ffactorau y tu allan i reolaeth y Crwner a all achosi oedi. Lle bo’r cwest yn debygol o gael ei oedi, bydd y Crwner yn hysbysu personau sydd â diddordeb yn rheolaidd am y sefyllfa, gan gynnwys y rhesymau dros unrhyw oedi parhaus, oni bai bod y cwest wedi cael ei ohirio’n ffurfiol hyd ddyddiad penodol.
Rhyddhau’r corff
Bydd y Crwner yn rhyddhau corff yr ymadawedig ar gyfer yr angladd ar y cyfle cyntaf, a hynny o fewn 3 diwrnod fel arfer. Pan fo ansicrwydd ynghylch achos y farwolaeth, neu os bydd y farwolaeth yn un amheus, efallai y bydd angen cadw’r corff yn hirach ar gyfer ymchwiliad pellach. Bydd y Crwner yn sicrhau bod perthnasau yn cael gwybod am oedi posibl a’r rhesymau am hynny.
Datgelu Gwybodaeth
Bydd y Crwner, ar gais ac yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, yn darparu copïau o adroddiad y post mortem ar gyfer pobl sydd â diddordeb, heb fod yn llai nag 8 diwrnod gwaith cyn y cwest, ac efallai y bydd angen talu amdanynt.
Y Rheithwyr
I reithwyr, bydd y Crwner:
- yn anfon taflen yn egluro dyletswyddau’r rheithiwr mewn cwest, ac yn darparu gwybodaeth berthnasol arall, 10 diwrnod ymlaen llaw;
- yn rhoi awgrym ymlaen llaw o ba mor hir y bydd gwasanaeth y rheithgor yn para.
Ar ôl y cwest
- Ar ddiwedd y cwest, rhoddir esboniad ysgrifenedig i’r perthynas agosaf ynglŷn â sut, ble a phryd y gellir cael copi o’r dystysgrif marwolaeth.
- Os bydd y Crwner, er mwyn atal marwolaethau pellach, yn penderfynu hysbysu person neu awdurdod perthnasol am y mater, bydd yn gwneud hynny o fewn 15 diwrnod gwaith i ganlyniad y cwest. Bydd hefyd yn anfon copïau o’i lythyr at yr holl bobl sydd â diddordeb. Bydd copi o unrhyw ateb dilynol yn cael ei anfon o fewn 5 diwrnod i’w dderbyn.
- Bydd y Crwner yn rhoi i berson sydd â diddordeb, ar gais, gopi o ddyfarniad y cwest (er bod hwn yn cael ei atgynhyrchu ar y dystysgrif marwolaeth), neu unrhyw un o’r dogfennau a gyflwynwyd yn dystiolaeth, o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn y ffi ragnodedig (a fydd yn amrywio yn ôl nifer a maint y dogfennau sydd i’w copïo). Rhoddir amcangyfrif o’r ffi ymlaen llaw, os gofynnir.
- Bydd y Crwner hefyd yn rhoi, am y ffi a ragnodwyd, gopi o’i nodiadau tystiolaeth, ond gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos i’w ddarparu. Ym mhob achos, rhoddir amcangyfrif o’r ffi ar gais.
- Bydd y Crwner/awdurdod lleol yn talu hawliadau am dreuliau tystion a theithwyr yn brydlon ac o fewn 15 diwrnod gwaith i dderbyn ceisiadau a gwblhawyd yn gywir.
- Ceisiadau am ganiatâd i symud corff dramor
- Bydd y Crwner yn gwneud pob ymdrech i gwblhau ei ymholiadau a phenderfynu ar geisiadau o’r fath o fewn 5 diwrnod i dderbyn rhybudd.
Cwestau trysor
Mae Crwneriaid yn gyfrifol am ymholiadau i ganfyddiadau trysor. Mae taflenni gwybodaeth am drysor ar gael o Swyddfa’r Crwner.
Adborth a chwynion
Ni fydd Crwneriaid fel arfer yn gohebu ynglŷn â’r achosion y maent wedi’u cwblhau, ond bydd croeso bob amser i sylwadau ac awgrymiadau sut i wella gwasanaeth y Crwner. Cysylltwch â Swyddfa’r Crwner yn y cyfeiriad a roddir uchod. Nod gwasanaeth y Crwner yw darparu gwasanaeth rhagorol fel na ddylech gael unrhyw achos i gwyno ond, os bydd gennych achos i gwyno, ymdrinnir â’r gŵyn yn gyflym ac yn gwrtais.
- Dim ond drwy’r Uchel Lys y gellir ymdrin â chwynion am benderfyniad Crwner neu ganlyniad cwest. Gall Swyddfa’r Crwner egluro’r weithdrefn, os gofynnir, ond ni all roi cyngor cyfreithiol.
- Dylid codi pob cwyn ynglŷn â gweinyddiaeth gwasanaeth y Crwner, neu ymddygiad Crwneriaid unigol neu eu staff, yn y lle cyntaf gyda’r Crwner, drwy ysgrifennu ato neu ei ffonio yn y pwynt cyswllt a roddir ym mharagraff 7. Bydd y Crwner yn ymateb i gwynion o’r fath yn unol â’r amserlenni a nodir uchod.
- Os bydd y Crwner yn methu â delio â’r gŵyn yn foddhaol, gall yr achwynydd ei chyfeirio at y Swyddfa Gartref (adran Crwneriaid), ystafell 972, 50 Queen Anne’s Gate, Llundain SW1H 9AT. Ffôn: 0207 273 2888/3574). Nid oes gan y Swyddfa Gartref bwerau disgyblu na phŵer i ddyfarnu iawndal ond gall, mewn achosion priodol, gyfeirio’r gŵyn at yr Arglwydd Ganghellor sy’n gyfrifol am ddisgyblu Crwneriaid.
Perfformiad
Bydd perfformiad y Crwner a’r Cyngor yn cael ei fonitro’n rheolaidd yn erbyn y safonau a nodir yn y ddogfen hon.
Rhagor o wybodaeth
Gellir cael rhagor o gopïau o’r Siarter hon o Swyddfa’r Crwner. Ceir gwybodaeth gyffredinol yn nhaflen y Swyddfa Gartref, ‘Gwaith y Crwner’, sydd hefyd ar gael o Swyddfa’r Crwner.
Mae copïau o’r Siarter hon yn Gymraeg ar gael o Swyddfa’r Crwner.
Cyhoeddwyd y Siarter hon am y tro cyntaf ar 01-08-02 a chaiff ei hadolygu’n flynyddol.