Swyddi Gwag Cyfredol

Swyddi gwag presennol

Mae nifer o fathau gwahanol o swyddi ar gael ym maes gofal cymdeithasol, e.e. gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth, cynorthwywyr gofal, a chynorthwywyr personol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i Adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro fel gweithiwr cymdeithasol, neu mewn rôl gofal cymdeithasol arall, edrychwch ar y swyddi gwag ym maes gwaith cymdeithasol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i ddefnyddiwr y gwasanaeth sydd wedi dewis derbyn taliad uniongyrchol gan Gyngor Sir Penfro, rhestr o swyddi gwag ar gyfer cynorthwywyr personol sydd gennym ar hyn o bryd. 

Canllaw Arlein i Gynorthwywyr Personol (yn agor mewn tab newydd)Nod yr adnoddau arlein yma yw rhoi i unrhyw un sydd naill ai eisoes yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol (CP) mewn gofal cymdeithasol neu sy’n ystyried ymuno â’r proffesiwn, gyda’r ffordd ddiweddaraf a hygyrch o ddysgu am rôl CP.

Mae’r Canllaw yn dwyn ynghyd rai o’r adnoddau arlein gorau sydd ar gael am ddim, ynghyd â fideos a deunydd ysgrifenedig newydd eu creu mewn un lle.

 

ID: 7729, adolygwyd 25/02/2026