Symud o Gwmpas
Dysgu Gydol Oes
Gall cymryd rhan mewn addysg bellach a gweithgareddau dysgu wneud cyfraniad cadarnhaol i ansawdd bywyd ac annibyniaeth barhaus. Mae astudiaethau ymchwil wedi dangos y gall dal i ddysgu ar ôl ymddeol amddiffyn yr ymennydd sy'n heneiddio rhag dirywio a rhag dementia. Gall hefyd ddarparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol sy'n lleihau'r teimlad o fod wedi eich ynysu a chynnwys pobl hŷn yn eu gweithgareddau cymunedol lleol.
Canolfannau Dysgu Cymunedol
Yn cynnig gweithgareddau a chyrsiau amrywiol fel cadw’n heini, cyfrifiaduro a chrefftau. Maent hefyd yn gartref i ystod eang o glybiau a chymdeithasau.
Ffoniwch: 01834 861712
Age Cymru Sir Benfro
Ddarparu hyfforddiant unigol ynglŷn â sut i ddefnyddio cyfrifiadur a chael mynediad i'r rhyngrwyd.
Ffôn:01437 769972
Coleg Sir Benfro
Yn cynnal nifer o ddosbarthiadau cymunedol i oedolion mewn canolfannau cymunedol a neuaddau pentref trwy Sir Benfro. Maent yn cynnwys:
- Yn y Dydd a Gyda’r nos
- Cyrsiau Byr
- Gweithdai Undydd
- Achrededig
- Rhedeg trwy’r flwyddyn (gan gynnwys tu allan i amser tymor)
Ffôn: 01437 753 139
Prifysgol y Drydedd Oes
Yn sefydliad dysgu gwirfoddol, sy'n seiliedig ar hunangymorth, ar gyfer pobl hŷn nad ydynt mewn gwaith amser llawn. Mae cyfleoedd addysgol, creadigol a hamdden ar gael mewn amgylchedd cyfeillgar. Mae aelodau’n rhannu eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i ddysgu o’i gilydd.