Symud o Gwmpas
Hyfforddiant a Chyflogaeth
Mae parhau gyda hyfforddiant a chyflogaeth yn gallu bod yn fanteisiol i les a hyder y sawl sy’n dewis gwneud hynny. Mae nifer o sefydliadau yn gallu eich helpu i ganfod cyfleoedd i ymestyn eich sgiliau neu i ddod o hyd i waith cyflogedig.
Gyrfa Cymru
Yn cynnig cyngor am yrfaoedd a chyfleoedd hyfforddi yn rhad ac am ddim waeth beth yw eich oedran neu sefyllfa.
25 Heol y Bont,
Age Cymru UK
Yn cynnig gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn ar addysg a hyfforddiant, dod o hyd i waith a gwahaniaethu
Mae gan Sir Benfro Ymgynghorydd Cyflogaeth i’r Anabl sy’n gallu eich helpu i ddod o hyd i waith neu gyflogwyr mwy ystyriol o anabledd yn eich ardal – cysylltwch â’ch Canolfan Waith leol am fanylion. Bydd yr Ymgynghorydd Cyflogaeth i’r Anabl yn gallu rhoi gwybodaeth i chi ar gymorth ariannol sydd ar gael fel Mynediad at Waith i helpu gyda hyfforddiant neu addasiadau i’r anabl yn y gweithle. Mae cyfleoedd yn newid yn aml felly mae’n werth cadw mewn cysylltiad gyda’r Ymgynghorydd.
Yn ogystal â darparu cyfleoedd dydd, mae Diwydiannau Norman yn gallu cynnig gwaith cyflogedig i bobl ag anabledd neu broblemau iechyd tymor hir fel rhan o’r rhaglen Dewis Gwaith. Mae treialon gwaith hefyd ar gael i asesu eich gallu i ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn rhoi’r gorau i hawlio budd-daliadau. I gael mynediad i’r cyfleoedd hyn, mae’n rhaid i’r Ymgynghorydd Cyflogaeth i’r Anabl eich atgyfeirio.
Ffôn: 01437 763650
E-bost: karen.davies@pembrokeshire.gov.uk
Lwfans Menter Newydd
Efallai y bydd hunangyflogaeth yn gweddu i anghenion pobl hŷn a gofalwyr sy’n dymuno parhau i weithio ond sydd hefyd angen hyblygrwydd i wneud hynny oherwydd anghenion penodol neu ymrwymiadau eraill. Mae’r Lwfans Menter Newydd yn gynllun sy’n cefnogi pobl sy’n dymuno rhoi’r gorau i hawlio budd-daliadau a dechrau hunangyflogaeth trwy roi arweiniad ar fentora busnes a chefnogaeth ariannol.
Prosiectau Cymorth Cyflogaeth
Mae Sir Benfro ar hyn o bryd yn derbyn cyllid grant Llywodraeth Cymru a chyllid grant Ewropeaidd i gefnogi pobl ag anabledd neu broblemau iechyd tymor hir i ddychwelyd i fyd gwaith. Am fanylion o’r prosiect mwyaf addas i’ch anghenion chi, cysylltwch â:
karen.davies@pembrokeshire.gov.uk or the European Team on 01437 776174.