Symud o Gwmpas

Mae'r Cynllun Bathodyn Glas

Mae'r Cynllun Bathodyn Glas wedi'i gynllunio i gynorthwyo pobl sydd ag anhawster cerdded parhaol a sylweddol, nam gwybyddol neu broblem symudedd arall, i barcio yn agos at y lle mae angen iddynt fynd.

Diben Bathodyn Glas yw helpu pobl i fyw bywyd annibynnol; gan ganiatáu iddynt deithio fel gyrrwr neu deithiwr i weithio, siopa neu i gael mynediad at wasanaethau eraill y bydd eu hangen arnynt.

Penderfynir ar gymhwysedd ar gyfer y cynllun gan Lywodraeth Cymru. Ond mae pob Awdurdod Lleol yn gyfrifol am ei weinyddu ac am asesiadau.

*Nodwch, os gwelwch yn dda, na fydd danfon llythyron atgoffa cyn i’r Bathodyn Glas ddod i ben, o 5 Chwefror 2019. Cyfrifoldeb deilydd y bathodyn yw ailymgeisio mewn digon o amser er mwyn sicrhau bod ganddynt fathodyn dilys, gan gofio y gall gymryd hyd at 28 diwrnod i brosesu cais.*

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Bathodyn Glas (Parcio Anabledd) - Cyngor Sir Benfro (sir-benfro.gov.uk)

ID: 10832, adolygwyd 24/10/2023