Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd
Beth yw ystyr hyn yn ymarferol?
Fel y mae wedi ei nodi uchod, mae'n rhaid i bob busnes bwyd reoli diogelwch bwyd yn effeithiol ond mae'r graddau y dogfennir y system honno yn amrywio'n fawr. Er enghraifft, efallai na fydd angen unrhyw ddogfennaeth o gwbl ar fusnesau risg isel fel siopau losin neu siopau llysiau a ffrwythau. Gallai'r rhain gydymffurfio â'r gofyn trwy ddibynnu'n unig ar y canllaw(iau) perthnasol i arferion hylendid a gweithredu eu gofynion.
Fodd bynnag, bydd rhaid i'r rhan fwyaf o fusnesau bwyd fod â rhywfaint o system reoli ddogfenedig er mwyn sicrhau y cyflenwir bwyd diogel ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datblygu nifer o becynnau safonol sy'n helpu busnesau bwyd i ddatblygu system reoli diogelwch bwyd sy'n berthnasol i'w busnes.
Wrth i'r peryglon sy'n gysylltiedig â busnes arbennig gynyddu, felly hefyd y bydd yr angen am ddogfennu eu system reoli diogelwch bwyd a'r angen am gadw cofnodion yn cynyddu.
Mae'r cyntaf o becynnau'r Asiantaeth Diogelwch Bwyd ar gyfer y pen mwyaf syml o'r gadwyn gyflenwi bwyd, sef y rhai y mae'n debygol y bydd arnynt angen systemau llai ffurfiol, gyda llai o ofynion o ran dogfennau a chadw cofnodion, a'i enw yw:
Bwyd Diogelach Busnes Gwell
Mae'r pecyn Bwyd Diogelach Busnes Gwell wedi ei lunio'n arbennig ar gyfer nifer o wahanol sectorau, fel cwmnïau arlwyo bychain, adwerthwyr a mangreoedd sy'n paratoi bwyd Tsieineaidd a bwyd Indiaidd (ac o fathau Asiaidd eraill).
Fe gewch ddolenni isod i'r pecynnau Bwyd Diogelach Busnes Gwell:
Bwyd Diogelach Busnes Gwell (Mewn ffenest newydd)
Gellir archebu copïau caled o'r pecyn Bwyd Diogelach Busnes Gwell gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd am ddim trwy ffonio 0845 606 0667 neu drwy e-bostio foodstandards@ecgroup.uk.co.uk.
Ar gyfer mangreoedd mwy cymhleth neu gyda rhagor o beryglon, fel cwmnïau arlwyo mwy, cartrefi preswyl, ysgolion, cigyddion sy'n trin bwydydd amrwd a pharod i'w bwyta, mae pecyn mwy trylwyr ar gael o'r enw:
Arlwyo Diogel
Mae'r pecyn hwn yn cynorthwyo busnesau i ddatblygu system ddogfennu fanylach ac mae'n cynnwys rhestr gynhwysfawr o daflenni cofnodi y gall busnesau eu defnyddio i gofnodi unrhyw fonitro y maent yn ei wneud:
Mae modd gweld y pecyn Arlwyo Diogel a'i argraffu o'r ddolen ganlynol:
Arlwyo Diogel (yn agor ffenestr newydd)
Mae pecyn hefyd ar gyfer y busnesau gyda'r peryglon mwyaf, neu'r rhai sydd mor gymhleth mai'r modd mwyaf effeithiol o reoli diogelwch yw datblygu system seiliedig ar egwyddorion HACCP yn unig. Byddai system o'r lefel hon yn fwyaf effeithiol ar gyfer ysbytai, cartrefi nyrsio neu breswyl enfawr, neu weithgynhyrchwyr bwyd cymhleth. Enw'r pecyn hwn yw:
Coginio'n Ddiogel
Mae modd lawrlwytho copïau o'r pecyn Coginio'n Ddiogel o'r ddolen ganlynol i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Coginion Ddiogel (yn agor ffenestr newydd)
Gwe-offeryn ar-lein, rhad ac am ddim, yw MyHACCP (yn agor ffenestr newydd) sy'n rhoi arweiniad i fusnesau pan maent yn mynd ati i restru'r peryglon a'r rheolaethau ynghylch diogelwch bwyd, a phan maent yn llunio system rheoli diogelwch bwyd, ar ffurf dogfennau, a seilir ar egwyddorion HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol). Offeryn ar gyfer busnesau bach sy'n cynhyrchu bwyd yw hwn ond bydd e hefyd yn fuddiol iawn i fusnesau mewn sectorau eraill.