Tai Preifat
Addasiadau
Oes arnoch chi angen help gyda’ch gweithgareddau cyffredin yn eich cartref ac o’i gwmpas?
fel:
- Gofal personol - ymolchi neu ddefnyddio’r toiled
- Ymdopi â grisiau / stepiau
- Mynd a dod o’r bath neu gawod
- Coginio
- Rheiliau i roi cymorth ychwanegol i chi yn eich cartref
Mae amrywiaeth o daclau ac offer sy’n gallu helpu llawer o bobl wneud y gweithgareddau hyn yn annibynnol. Mae’r rhain yn cynnwys taclau sylfaenol fel agorwyr potiau i offer mwy fel lifftiau grisiau. Gallwch chi brynu’r rhain ar-lein neu o siopau arbenigol lleol - chwiliwch ar-lein am ‘cymhorthion symud Sir Benfro’ i gael hyd i un lleol.
Os bydd arnoch angen cyngor ar gymhorthion ac addasiadau er mwyn gallu dal i fyw’n ddiogel a sicr yn eich cartref, efallai y gall yr asiantaethau a gwasanaethau canlynol helpu:
Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Os ydych yn 60 oed neu hŷn ac yn berchennog cartref neu’n rhentu’n breifat, fe all yr Asiantaeth roi cyngor a chymorth am ddim i helpu i chi wneud gwaith trwsio ac addasiadau angenrheidiol i’ch cartref. Byddant yn ymweld â chi yn eich cartref eich hun i drafod beth sydd arnoch ei angen, yr atebion posibl, y costau tebygol a helpu nodi ffynonellau arian. Byddant hefyd yn cadarnhau diogelwch eich cartref er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel ynddo e.e. trwy osod larymau mwg.
Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru hefyd yn cyflawni Rhaglen Addasiadau Ymateb Chwim (sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru) gan ddarparu atgyweiriadau ac addasiadau bach i bobl sydd ar hyn o bryd yn yr ysbyty ond sydd angen addasiadau cyn iddynt gael eu hanfon adref, neu a ryddhawyd yn ddiweddar o’r ysbyty, neu sydd mewn perygl o orfod mynd i ysbyty neu gartref gofal.
Ffôn: 01437 766717
Cyngor Sir Penfro
Os ydych yn credu y gall fod arnoch angen addasiadau mwy oherwydd eich salwch neu anabledd gallwch ofyn am asesiad Therapi Galwedigaethol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd y Therapydd Galwedigaethol (OT) yn ymweld â chi gartref i gynnal asesiad fydd yn cynnwys:
- Casglu gwybodaeth am eich cyflwr meddygol / anabledd
- Trafodaeth ar sut ydych yn ymdopi â gorchwylion bywyd bob dydd o gwmpas eich cartref
- Bydd angen i’r OT eich gwylio’n gwneud rhai gorchwylion er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’ch anawsterau ac, felly, bydd angen i chi fod gartref ar gyfer yr asesiad.
Yna bydd yr OT yn argymell ateb i ddiwallu eich anghenion. Wedyn bydd Arolygydd Grantiau’n ymweld â chi i weld y ffordd fwyaf priodol o addasu eich cartref.
Os ydych chi’n berchennog cartref neu’n denant preifat efallai y bydd gennych hawl i grant cyfleusterau i’r anabl tuag at dalu am y gwaith. Fodd bynnag, mae prawf modd ar y grantiau hyn ac efallai y bydd angen gwneud asesiad ariannol (oni bai fod yr addasiad ar gyfer plentyn neu rywun ifanc dan 19, a eithriwyd). Gallwn roi cymorth i chi drwy’r broses. Yn 2015/16 yr amser a gymrwyd ar gyfartaledd rhwng cysylltiad cyntaf â’r Cyngor a gorffen yr addasiad oedd 314 diwrnod.
Os ydych chi’n denant y Cyngor neu Gymdeithas Dai byddwch yn dal i fod angen asesiad OT ond, yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd angen i chi dalu am y gwaith neu wneud cais am grant.
Pan fo’r gwaith yn helaeth ac nad yw’n gost-effeithiol addasu’ch cartref presennol, bydd angen i ni ystyried dewis eich cynorthwyo i symud i eiddo mwy addas. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi’n berchennog cartref, yn rhentu’n breifat neu’n denant y Cyngor neu Gymdeithas Dai.
I wneud cyfeireb am asesiad OT, cysylltwch â ni:
Ffôn: 01437 764551
Ffôn Type Talk: 18001 yna 01437 764551
Ffacs: 01437 776699
E-bost:enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn argyfwng allan o oriau: 08708 509508