Tai Preifat

Benthyciadau Cartrefi Gwag

Cynllun Troi Tai'n Gartrefi  - Rhoi defnydd i dai gwag unwaith eto  

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod tua 750 o dai gwag yn Sir Benfro, rhai a all ddarparu llety i bobl sydd ei angen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £10 miliwn ar draws Cymru i fenter Troi Tai'n Gartrefi i alluogi Awdurdodau Lleol i ddarparu benthyciadau heb log er mwyn rhoi defnydd i dai gwag unwaith eto.   

Trosolwg

Mae benthyciadau heb log ar gael yn awr i unigolion a chwmnïoedd - nid perchen-feddianwyr - trwy fenter Troi Tai'n Gartrefi. 

  • Mae'r benthyciadau ar gael ar gyfer tai sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy.
  • Gall y benthyciadau dalu am adnewyddu tŷ sy'n bodoli eisoes, gorffen adeiladu tŷ newydd a thrawsnewid adeilad yn dŷ.
  • Bydd ceisiadau am fenthyciadau yn cael eu hystyried os ydych am drawsnewid eiddo masnachol yn llety preswyl.
  • Yr uchafswm o fenthyciad y gallwch wneud cais amdano yw £25,000 fesul dŷ neu uned, hyd at uchafswm o £150,000 fesul ymgeisydd (6 uned neu fwy).
  • Ni all unrhyw fenthyciad a gynigir, yn cynnwys unrhyw forgeisi/benthyciadau sy'n bodoli eisoes, fynd yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo.
  • Bydd tâl gweinyddol yn cael ei ychwanegu at y benthyciadau. Mae hyn yn dechrau ar £345 ac yn cynyddu yn dibynnu ar faint y benthyciad.

Gall y benthyciad heb log gael ei ddefnyddio i ddychwelyd eiddo gwag i'w ddefnyddio naill ai: 

  • Gwerthu - mae gan hyn uchafswm o 2 flynedd o gyfnod talu yn ôl.
  • Rhentu - mae gan hyn uchafswm o 3 blynedd o gyfnod talu yn ôl.

Mae pob benthyciad a gymeradwywyd yn dibynnu ar nifer o amodau i sicrhau bod arian y gronfa fenthyciadau'n cael ei 'ailgylchu' er mwyn cynorthwyo mwy o gynlluniau tai gwag. Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais cysylltwch â naill ai   

Philip Jackson 
Ffôn: 01437 775635 
e-bost: Philip.Jackson@pembrokeshire.gov.uk

Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd)

ID: 1862, adolygwyd 10/05/2024