Tai Preifat

Cynllun Benthyciad Gwella Cartref

Erbyn hyn mae Benthyciadau Gwella Cartrefi di-log ar gael yn ôl doethineb y Cyngor i gyfrannu at sicrhau bod cartrefi'n gynnes a diogel.

  • Mae benthyciadau ar gael i berchen-feddianwyr, landlordiaid, datblygwyr ac elusennau / trydydd sector.
  • Rhaid i'r ceisydd allu fforddio ad-daliadau'r benthyciad a chael prawf er mwyn sicrhau y bydd yn gallu ad-dalu'r benthyciad.
  • Rhaid i waith a wneir gyda benthyciad gyfrannu at wneud yr eiddo'n gynnes neu ddiogel.
  • Mae benthyciadau ar gael o £1000 i £25,000 fesul "uned drigiannol" (tŷ / fflat) hyd at uchafswm o £150,000 y ceisydd (6 uned neu fwy).
  • Ni all unrhyw fenthyciad sy'n cael ei gynnig, gan ystyried morgais / benthyciad presennol fod yn fwy nag 80% o werth cyfredol yr eiddo.
  • Y cyfnod ad-dalu hwyaf fydd deng mlynedd i berchen-feddiannwr a phum mlynedd i landlord sector preifat.
  • Bydd ad-daliadau'n cael eu gwneud yn fisol trwy Ddebyd Uniongyrchol; yr ad-daliadau lleiaf yw: 
    • Perchen-feddianwyr - £50 y mis
    • Landlordiaid - £100 y mis

Bydd un ffi weinyddol yn berthnasol y mae modd ei thalu dros gyfnod y benthyciad neu o flaen llaw; y ceisydd fydd yn penderfynu hyn.

  • Am fenthyciadau dros hyd at 3 blynedd, y tâl fydd 10%
  • Am fenthyciadau dros 4 i 10 mlynedd, y tâl fydd 15%

Mae nifer o amodau ar holl fenthyciadau cymeradwy er mwyn sicrhau bod arian y gronfa fenthyca'n cael ei 'ailgylchu' i gynorthwyo gyda darparu rhagor o Fenthyciadau Gwella Cartrefi.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, llenwch a dychwelwch ffurflen mynegi diddordeb.

Benthyciad Gwella Cartref Canllawiau

Cyflwyniad

Oherwydd gostyngiad yng nghyllid Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer grantiau tai gryn dipyn yn llai ac wedi dod i ben dan y rhan fwyaf o amgylchiadau. Felly er mwyn gwneud y gorau o’r cyllid sydd ar gael a helpu dal i wella tai yn Sir Benfro, mae angen defnydd mwy cynaliadwy ac effeithiol o adnoddau prin.

Bydd Benthyciadau Gwella Cartrefi’n galluogi ailgylchu cyllid a chynorthwyo gwella safonau tai ar hyd a lled y Sir. 

Beth yw Benthyciadau Gwella Cartrefi?

Benthyciadau Gwella Cartrefi yw benthyciadau sydd ar gael trwy Awdurdodau Lleol yng Nghymru i alluogi adnewyddu a gwella eiddo unigol neu luosog er mwyn gwella neu gynnal y safonau o fewn yr eiddo sy’n sicrhau parhad ei ddefnydd fel llety preswyl.

Rhaid i waith a wneir gyda chyllid benthyciad gyfrannu at wneud yr eiddo’n gynnes a diogel. Nid oes unrhyw ofyniad bod yr eiddo’n gorfod cyrraedd pob un o’r meini prawf hyn oherwydd y byddai modd targedu’r benthyciad ar un elfen allweddol.

Pwy all wneud cais am fenthyciad? 

Fe all perchenogion tai islaw’r safon yn y Sir wneud cais am y benthyciad. Nid yw anheddau gwag yn gymwys, oni bai fod y perchenogion yn bwriadu byw yn yr eiddo fel eu prif gartref. Mae hyn yn cynnwys:

  • Perchen-feddianwyr
  • Landlordiaid
  • Datblygwyr
  • Elusennau / Trydydd Sector

Caiff perchenogion a landlordiaid flaenoriaeth. Rhaid rhoi blaenoriaeth i landlordiaid sy’n cynnig tai fforddiadwy / tai cymdeithasol / hawliau enwebu dros landlordiaid sy’n cynnig eiddo ar rent y farchnad.

Os yw eiddo dan gydberchenogaeth bydd y ddwy ochr yn gorfod cytuno i osod pridiant cyfreithiol ar yr eiddo, gan gynnwys llofnodi dogfennau cytundeb y pridiant cyfreithiol a chyfleuster benthyciad; fodd bynnag dim ond un ohonynt fydd yn gorfod llenwi’r ffurflen gais.

A yw’r eiddo’n gorfod bod yn gartref presennol i fod â hawl i fenthyciad?

Nac ydi.

Byddwn yn ystyried ceisiadau am fenthyciadau i droi eiddo masnachol gwag yn llety preswyl. Fodd bynnag, dim ond perchenogion sy’n bwriadu byw yn yr eiddo’n llawn-amser fydd â hawl i wneud cais am Fenthyciad Gwella Cartref dan yr amgylchiadau hyn.

Bydd angen i landlordiaid sy’n bwriadu gosod yr eiddo ar rent gyfeirio at ein Benthyciad Eiddo Gwag Troi Tai’n Gartrefi. 

Mae’n debygol iawn y bydd arnoch angen caniatâd cynllunio ar gyfer yr addasu ac, felly, cewch eich annog yn gryf i gysylltu â’r adran gynllunio leol i drafod eich cynigion. Ni fyddwn yn ystyried cais am fenthyciad os na roddwyd y caniatâd cynllunio perthnasol.

Beth yw’r benthyciad mwyaf i gallaf wneud cais amdano?

Mae modd gwneud ceisiadau am fenthyciad rhwng £1000 a £25,000 fesul uned drigiannol, hyd at uchafswm o £150,000 ar unrhyw adeg arbennig. Os ydych yn gwneud cais am fenthyciad ar gyfer adeilad gyda dwy uned (fflatiau), y benthyciad mwyaf y gallwch wneud cais amdano yw £50,000. Os ydych yn gwneud cais am fenthyciad ar gyfer eiddo gyda chwe uned neu fwy (fflatiau), y benthyciad mwyaf fyddai £150,000.

Bydd union faint y benthyciad a gaiff ei gymeradwyo’n dibynnu ar wir gost y gwaith, e.e. os mai amcangyfrif cost y gwaith yw £10,000, dyma’r benthyciad mwyaf fydd yn cael ei gymeradwyo.

Sylwch na all unrhyw fenthyciad sy’n cael ei gynnig, gan ystyried unrhyw forgais presennol, fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo. Felly, os oes gennych forgais presennol o £76,000 ar eiddo gyda gwerth cyfredol ar y farchnad o £120,000, yna’r benthyciad mwyaf y mae modd ei gymeradwyo yw £20,000:

Gwerth Presennol   £120,000

Morgais a Benthyciad £76,000 + £20,000 = £96,000 (Uchafswm 80% Benthyciad i werth)

Os oes morgais presennol bydd gwerth cyfredol yr eiddo’n cael ei benderfynu a’i gefnogi trwy adroddiad prisio. Rhaid i syrfëwr cymwysedig neu aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) wneud y prisio a dylai gadarnhau’r gwerth cyfredol ar y farchnad, gwerth dichonol (wrth gwblhau’r prosiect) ac incwm rhent (os yw’n fenthyciad i osod).

Mae cost y prisio’n daladwy gan y ceisydd.

A fydd fy sefyllfa ariannol yn cael ei hystyried?

Bydd.

Bydd prawf fforddiadwyedd ar y ceisydd er mwyn sicrhau bod modd ad-dalu’r benthyciad. Bydd y prawf fforddiadwyedd yn ffurfio rhan o’r broses ymgeisio ac yn cael ei gynnal gan drydydd parti (Undeb Credyd Gorllewin Cymru Cyf). Caiff ad-daliadau lleiaf eu pennu ar £50 y mis ar gyfer berchennog / deiliaid a £100 y mis ar gyfer landlordiaid.

Mae hyd (cyfnod ad-dalu) y benthyciad yn destun cytundeb rhwng pawb ac, felly, byddwn yn ceisio gweithio gyda chi ar bennu amserlen ad-dalu addas cyn cytuno i’r benthyciad. Y cyfnod ad-dalu hwyaf i berchen-feddianwyr yw 10 mlynedd, a’r cyfnod ad-dalu hwyaf i landlordiaid yw 5 mlynedd.

Rhaid i geiswyr beidio â bod â’r canlynol:

  • Hanes credyd gwrthwynebus sy’n gallu cynnwys:
    • Dyfarniadau Llys Sirol (CCJ)
    • Trefniadau Gwirfoddol Unigol (IVA)
    • Gorchymyn Rhyddhau Dyled (DRO)
    • Methdaliad (yn ystod y 6 blynedd diwethaf)
    • Ansolfedd / Diddymiad Cwmni
  •  Unrhyw ddyled heb ei thalu i Gyngor Sir Penfro ar adeg gwneud y cais

Beth sydd raid i mi wneud gyda’r eiddo neu unedau ar ôl cwblhau’r gwaith?

Ar ôl cwblhau’r gwaith rhaid dal i ddefnyddio’r eiddo fel cartref, boed hynny drwy berchen-feddiannu neu ar rent i denantiaid. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y math o denantiaeth (e.e. rhent fforddiadwy); fodd bynnag bydd blaenoriaeth benthyciadau’n cael ei roi i landlordiaid sy’n gallu cynnig yr eiddo fel cartrefi fforddiadwy, cartrefi cymdeithasol neu roi hawliau enwebu i’r Cyngor.

A yw’r gwaith / addasu’n gorfod cael ei wneud i unrhyw fath o safonau? 

Ydi.

Rhaid gwneud yr holl waith yn unol ag unrhyw ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoli adeiladu a roddwyd ar yr eiddo. Yn ogystal, rhaid i’r eiddo / unedau beidio â chynnwys unrhyw beryglon Categori 1 (risg uchel) ar ôl gorffen y gwaith. Bydd yr Awdurdod Lleol yn gweithio gyda chi i sicrhau cwmpasu’r holl eitemau perthnasol.

A yw’r benthyciadau’n fenthyciadau gwarantedig?

Ydynt. 

Rhaid gwarantu benthyciadau trwy bridiant ariannol cyntaf neu ail gyda’r Gofrestrfa Tir. Os oes morgais presennol ar yr eiddo bydd arnom angen caniatâd y rhoddwyr benthyg i warantu ein pridiant. 

Mae gwarantu’r benthyciadau’n rhoi’r pwerau angenrheidiol i ni dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 i adennill unrhyw ddyledion trwy werthu’r eiddo. 

Beth yw’r gyfradd log a’r ffi drefnu ar gyfer y benthyciad?

Mae’r benthyciadau’n ddi-log, ond iddynt gael eu had-dalu. Os digwydd diffygdaliad bydd gweddill y benthyciad yn dod yn ddyledus ar unwaith a bydd llog yn cael ei godi ar gyfradd o 5.5% uwchlaw Cyfradd Sylfaenol Banc Lloegr, yn ôl dogfen eich cytundeb benthyciad. 

Mae un ffi drefnu gysylltiedig â darparu’r benthyciad, fel a ganlyn: 

Am fenthyciadau dros 1 i 3 blynedd, y ffi weinyddol fydd 10%

Am fenthyciadau dros 4 i 10 mlynedd, y ffi weinyddol fydd 15%

Ydw i’n gallu cael unrhyw gymorth gyda threfnu’r gwaith?

Ni allwn roi cymorth uniongyrchol; fodd bynnag i helpu i chi leoli contractwyr i roi dyfynbrisiau i chi am y gwaith arfaethedig mae Cyngor Sir Penfro wedi cynnwys rhestr o gontractwyr a gwblhaodd waith yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac sydd wedi mynegi diddordeb mewn rhoi cynigion cystadleuol.

Sylwch nad rhestr gymeradwy yw hon ond dim mwy na chyfeiriad i gynorthwyo ceiswyr gyflwyno cais, a bod ceiswyr yn dal yn rhydd i ddewis cael dyfynbrisiau’n annibynnol heb fod yn gyfyngedig i’r rhai a restrwyd.

Pryd fyddaf i’n gorfod ad-dalu’r benthyciad?

Bydd gofyn i chi ddechrau ad-dalu’r benthyciad yn y mis llawn cyntaf ar ôl penderfynu bod y gwaith yn gyflawn ac y gwnaed taliad terfynol y benthyciad. Bydd angen i chi lenwi ffurflen Debyd Uniongyrchol fel rhan o’r cais i sicrhau bod ad-dalu’n symud ymlaen yn esmwyth. 

Bydd cyfnod y benthyciad yn cael ei drafod gyda chi ar ddechrau’r cytundeb a bydd angen iddo ystyried taliad lleiaf bob mis. Bydd perchen-feddianwyr yn gallu ad-dalu’r swm dros gyfnod o hyd at 10 mlynedd a bydd angen iddynt allu gwneud ad-daliad misol lleiaf o £50 y mis. Bydd landlordiaid yn gallu ad-dalu’r swm dros gyfnod o hyd at 5 mlynedd a bydd angen iddynt allu gwneud ad-daliad misol lleiaf o £100 y mis.

Mae modd ad-dalu’r benthyciad yn llawn ar unrhyw adeg. 

Os byddwch yn methu taliad misol (diffygdaliad benthyciad) bydd y swm llawn yn dod yn ddyledus a bydd llog yn cael ei godi ar y gweddill, ar gyfradd o 5.5% uwchlaw Cyfradd Sylfaenol Banc Lloegr, yn unol â chytundeb eich benthyciad.

Oes yna unrhyw amodau ynghlwm wrth gymeradwyo’r benthyciad?

Oes:

  • Dylid cwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis ar ôl ei gymeradwyo, oni bai yr awdurdodwyd fel arall.
  • Bydd taliadau’n cael eu gwneud yn ôl-weithredol, wedi derbyn Anfoneb, ac ar ôl archwilio’r gwaith. Mae modd gwneud taliadau interim, dan y Polisi Taliadau Interim cyfredol sy’n cael ei weithredu gan Dîm Tai’r Sector Preifat.
  • Bydd gofyn ad-daliad llawn o gyllid a roddwyd drwy’r cynllun hwn os bydd teitl yr eiddo’n cael ei drosglwyddo neu’r eiddo’n cael ei werthu.
  • Yr Awdurdod Lleol fydd yn pennu maint benthyciadau ac amserlenni ad-dalu ac mae ad-daliadau lleiaf yn berthnasol (£50 y mis i berchen-feddianwyr a £100 y mis i landlordiaid).
  • Rhaid i’r ceisydd gytuno i wneud yr ad-daliadau misol trwy Ddebyd Uniongyrchol.
  • Ar gyfer holl fenthyciadau bydd Pridiant Cyfreithiol Cofrestrfa Tir yn cael ei gyflwyno a fydd yn rhwymo’r ceisydd ac unrhyw olynwyr mewn teitl.
  • Bydd ad-daliadau’n dechrau o’r mis llawn cyntaf ar ôl gwneud y taliad terfynol i; y dyddiad i’w benderfynu gan yr Awdurdod Lleol.
  • Os na fydd ad-daliad benthyciad yn cael ei wneud, bydd gweddill y benthyciad yn llawn yn dod yn ddyledus, a bydd llog arno yn ôl dogfen cytundeb y benthyciad.

Beth sydd angen i mi ei ddarparu fel cais cyflawn?

Dylid gwneud cais am gymorth benthyciad ar y ffurflenni a ddarparwyd drwy’r Cynllun Benthyciad Gwella Cartref. Bydd ffurflen gais yn cael ei darparu ar ôl llenwi’r ffurflen mynegi diddordeb, gyda rhagor o gopïau ar gael ar gais. Dylai cais cyflawn gynnwys y canlynol:

  •  Ffurflen gais wedi’i llenwi.
  • Cadarnhad o berchenogaeth yr eiddo. Dylai hyn fel arfer fod yn “gopi swyddogol” a Chynllun Teitl i’w darparu gan Swyddfa Leol y Gofrestrfa Tir, www.cofrestrfatir.gov.uk
  • Dau amcangyfrif eitemedig a chost unrhyw ffïoedd cysylltiedig, e.e. ffïoedd peiriannydd adeileddol, neu ffïoedd rheoli prosiectau. Dan amgylchiadau eithriadol, fe all y Cyngor dderbyn un amcangyfrif, pan fo’n briodol gwneud hynny.
  • Dogfennau ategol at ddibenion adnabod
  • Adroddiad Prisio (gan syrfëwr cymwysedig neu aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig - RICS). Mewn achosion lle bo’r eiddo heb forgais arno a thystiolaeth amlwg i gefnogi’r farn bod yr eiddo’n rhoi gwarant ddigonol ac addas ar gyfer y benthyciad, ni fyddgofyn adroddiad prisio.
  • Adroddiadau arbenigol, Rheoliadau Adeiladu, Caniatâd Cynllunio a chynlluniau lle bo gofyn.
  • Unrhyw fanylion eraill sy’n cael eu hysbysu i’r ceisydd cyn penderfynu a fydd yn cael cynnig benthyciad.
  • Caniatâd y rhoddwr benthyg cyntaf, lle bo gofyn.

Sylwch y gall ffurflen gais cymhwyster ariannol Undeb Credyd Gorllewin Cymru ofyn am wybodaeth ychwanegol a dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau yn ei chylch atynt hwy.

Mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud cais am fenthyciad, beth wnaf i nesaf?

Cysylltwch â Philip Jackson am drafodaeth fer ac i drefnu ymweliad â’ch eiddo lle bydd modd penderfynu ar y gwaith cymwys. 

Ffôn: 01437 775635

e-bost: Philip.jackson@pembrokeshire.gov.uk

Post: Tîm Tai’r Sector Preifat, Cyngor Sir Penfro, 1i Adain y Gogledd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP

 

 

 

 

 

 

 

ID: 1861, adolygwyd 07/02/2023