Tai Preifat

Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol

Grantiau Cartrefi Gwag

Mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i adnewyddu eiddo gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.

Mae’r grant ar gael mewn rhandaliadau wrth i’r gwaith gael ei wneud. Mae angen o leiaf 15% o gyfraniad gan yr ymgeisydd.

Mae awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a grwpiau tai cymunedol hefyd yn gallu gwneud cais am gyllid.

 

Cymhwysedd

Gall unrhyw un wneud cais am grant, ond er mwyn bod yn gymwys:

  • rhaid i’r eiddo fod wedi’i gofrestru gyda’r awdurdod lleol yn wag am o leiaf 12 mis;
  • rhaid i’r eiddo fod yn eiddo i’r ymgeisydd, neu yn y broses o gael ei brynu ganddo ar adeg y cais; ac
  • os yw’n llwyddiannus, rhaid i’r ymgeisydd fyw yn yr eiddo am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith fel ei brif breswylfa a’i unig breswylfa.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais am grant cartrefi gwag (yn agor mewn tab newydd)

 

Neu cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy’n darparu’r cynllun ar ran Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru:

Ffôn: 01443 494712

E-bost: GrantiauCartrefi Gwag@rctcbc.gov.uk

ID: 10175, adolygwyd 29/07/2025