Tai Preifat
Cynllun Lesio Cymru - Gwybodaeth i Landlordiaid
Trosolwg
Cynllun lesio a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan awdurdodau lleol yw Cynllun Lesio Cymru. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i landlordiaid yn y sector rhentu preifat lesio eu heiddo i’r awdurdod lleol am warant o incwm rhent misol a gwasanaeth rheoli eiddo llawn am gyfnod
a all fod rhwng 5 ac 20 mlynedd.
Bydd y cynllun yn gwneud y canlynol:
- Gwella’r cyfle i bobl gael cartrefi yn y sector rhentu preifat
Bydd y cynllun yn gwella’r cyfle i’r bobl hynny sydd ar incwm isel ac sydd mewn perygl
o fod yn ddigartref gael cartref fforddiadwy o ansawdd da yn y sector rhentu preifat.
- Rhoi sicrwydd i denantiaid gael llety tymor hwy
Bydd tenantiaid yn gallu cael llety tymor hwy sefydlog am gyfnod o hyd at 20 mlynedd.
- Cynnig llety fforddiadwy
Bydd rhenti’n cael eu cyfyngu i lefelau lwfans tai lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn fforddiadwy i denantiaid ar incwm isel a/neu i denantiaid sy’n cael budd-daliadau.
- Cynnig cymorth
Caiff cymorth rheolaidd ei gynnig i helpu tenantiaid i lwyddo i gynnal eu tenantiaeth.
- Gwella safonau
Bydd angen i’r cartrefi sydd ar gael drwy'r cynllun fodloni safon benodol. Darperir cymorth ariannol i alluogi awdurdodau lleol i sicrhau bod yr eiddo o dan y cynllun yn cyrraedd
y safon ofynnol.
- Cyfrannu at leihau digartrefedd
Bydd yr eiddo o dan y cynllun yn cael ei ddefnyddio i helpu i leihau digartrefedd.
Y manteision i berchnogion eiddo sy’n lesio eu heiddo i’r awdurdod lleol
- Lesoedd am gyfnodau o 5-20 mlynedd.
- Gwarant o daliadau rhent bob mis am oes y les ar gyfradd berthnasol y Lwfans Tai Lleol,
- llai ffi reoli y cytunwyd arni.
- Cynnig o hyd at £5,000 yn ôl yr angen fel grant, i sicrhau bod yr eiddo’n bodloni’r safon y cytunwyd arni, a/neu gynyddu sgôr yr EPC i lefel C. Mae cyllid grant ychwanegol o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag hirdymor.
- Archwiliadau eiddo a gwaith atgyweirio a chynnal a chadw drwy gydol oes y les.
- Yr eiddo’n cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr ag yr oedd ar ddechrau’r les, ac eithrio’r hyn fyddai’n cael ei ystyried fel traul rhesymol, a rhwymedigaeth y landlord am ddiffygion strwythurol.
- Rheoli’r eiddo’n llawn drwy gydol oes y les.
- Rhoi cymorth i’r tenant drwy gydol y denantiaeth. Ni fydd angen i’r landlord gael unrhyw gysylltiad â’r tenant drwy gydol oes y les.
Safon yr eiddo
Mae'n rhaid i’r eiddo fodloni'r safonau gofynnol canlynol. Mae grantiau ar gael i sicrhau bod yr eiddo’n bodloni’r safonau, a bydd awdurdodau lleol yn rhoi canllawiau ychwanegol i landlordiaid.
Gofyniad
- Rhaid i strwythur yr eiddo fod yn sefydlog ac mewn cyflwr da
- Rhaid sicrhau nad oes unrhyw leithder yn yr eiddo
- Rhaid i’r grisiau a’r balwstrâd fod yn ddiogel
- Rhaid bod digon o larymau tân yn yr eiddo.
- Rhaid gosod synwyryddion mwg sy'n cael eu pweru gan y prif gyflenwad ar bob llawr.
- Rhaid i dystysgrifau ar gyfer gwasanaethu a diogelwch systemau nwy, tanwydd solet neu olew fod yn gyfredol (ni fydd tystysgrifau sy'n agos at y dyddiad dod i ben yn cael eu derbyn). Bydd angen y tystysgrifau hyn ar gyfer y cam trosglwyddo.
- Rhaid i oleuadau trydanol a gosodiadau pŵer fod wedi'u gwirio a'u hardystio'n ddiogel gan berson sydd â chymwysterau priodol.
- Rhaid i ddrysau a ffenestri allanol roi lefel resymol o ddiogelwch ffisegol.
- Os oes gardd, rhaid iddi fod yn hawdd ei chynnal, yn weddol breifat, yn ddiogel ac yn addas i blant ifanc chwarae ynddi.
- Rhaid i'r system wresogi fod yn EPC E neu'n uwch (bydd Awdurdodau Lleol yn rhoi cyngor ar y grantiau sydd ar gael i godi'r eiddo i'r safon y cytunwyd arni a/neu i gynyddu'r sgôr EPC i C).
- Rhaid sicrhau bod y drysau a'r ffenestri allanol yn atal drafftiau'n ddigonol.
- Rhaid inswleiddio'r tanc dŵr poeth yn effeithiol.
- Rhaid cael system awyru mecanyddol yn y gegin a'r ystafell ymolchi.
- Dylai’r gegin fod mewn cyflwr da.
- Dylai'r ystafell ymolchi a'r toiledau fod mewn cyflwr da.
- Dylai cawod fod ar gael sydd mewn cyflwr da (gallai honno fod yn gawod dros y bath).
- Mae angen cloeon troi bawd ar bob drws allanol.
- Dylai fod larwm carbon monocsid ym mhob ystafell lle mae cyfarpar sy’n rhedeg ar nwy.
- Bydd angen cynnal arolwg asbestos (a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol).
- Mae angen cynnal asesiad risg tân (ac eithrio ar gyfer tŷ hunangynhwysol).
Grantiau
Mae grantiau gwerth hyd at £5,000 ar gael i sicrhau bod yr eiddo’n bodloni’r safon y cytunwyd arni a/neu i gynyddu sgôr yr EPC i C.
Ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am chwe, mis mae grantiau gwerth hyd at £9,999 ar gael ar gyfer lesoedd pum mlynedd, a hyd at £25,000 ar gyfer lesoedd hirach (gweler y tabl isod).
Rhoddir grant gan ystyried pob achos ar sail unigol ac ni ellir ei warantu.
Ni ellir ad-dalu grantiau. Os caiff eiddo ei dynnu o'r cynllun cyn i gyfnod y les ddod i ben, codir ad-daliad diofyn. Dim ond ar waith y nodwyd bod angen ei wneud yn yr eiddo penodedig y mae'n rhaid gwario arian grant.
Grant adnewyddu
£0 - £9,999
- Hyd lleiaf y les : 5 mlynedd
- Ad-dalu’r grant yn ddiofyn: 100% i’w ad-dalu
£10,000 – £14,999
- Hyd lleiaf y les: 10 mlynedd
- Ad-dalu’r grant yn ddiofyn: Ad-daliadau diofyn rhwng blynyddoedd 6-25. Y swm i’w ad-dalu yn gyfran uwch na £10K, gan ostwng £1K y flwyddyn.
£15,000 – £19,999
- Hyd lleiaf y les: 15 mlynedd
- Ad-dalu’r grant yn ddiofyn: Ad-daliadau diofyn rhwng blynyddoedd 6-25. Y swm i’w ad-dalu yn gyfran uwch na £10K, gan ostwng £1K y flwyddyn.
£20,000 - £25,000
- Hyd lleiaf y les: 20 mlynedd
- Ad-dalu’r grant yn ddiofyn: Ad-daliadau diofyn rhwng blynyddoedd 6-25. Y swm i’w ad-dalu yn gyfran uwch na £10K, gan ostwng £1K y flwyddyn.
Bydd arolwg o’r eiddo’n cael ei gynnal ac yn sgil hwnnw bydd yr hyn sydd angen ei wella’n cael ei drafod â chi.
Y gofynion ar gyfer landlordiaid sydd am ymuno â'r cynllun
I lesio eich eiddo o dan y cynllun bydd angen ichi fodloni'r meini prawf canlynol:
Gofyniad
- Darparu Tystysgrifau ar gyfer Diogelwch Nwy, Diogelwch Trydanol a Pherfformiad Ynni (bydd angen y tystysgrifau hyn ar gyfer y cam trosglwyddo).
- Darparu Yswiriant Adeiladau (gan gynnwys Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus).
- Os yw’n berthnasol, rhowch ganiatâd ysgrifenedig h.y. llythyr/e-bost, yn cadarnhau bod eich rhoddwr benthyciadau yn fodlon eich bod chi’n lesio'r eiddo drwy'r Cynllun.
- Bodloni gofynion safonol eiddo sy’n orfodol ac a bennwyd gan Lywodraeth Cymru (mae grant ar gael i sicrhau bod eiddo yn bodloni’r safon y cytunwyd arni.
- Darparu copi o'r Gofrestrfa Tir i gadarnhau perchnogaeth eiddo.
- Bod yn gyfrifol am dalu am unrhyw daliadau gwasanaeth sy'n gysylltiedig â'r eiddo ac am unrhyw waith allanol i'r eiddo.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni
- Byddwn yn ymgymryd â’r gwaith sy’n ymwneud â rheoli eich eiddo o ddydd i ddydd.
- Byddwn yn talu taliadau rhent yn ystod cyfnodau pan na fydd yr eiddo wedi’i feddiannu.
- Byddwn yn archwilio’r eiddo yn rheolaidd, yn monitro gweithgarwch tenantiaid, ac yn ymdrin ag unrhyw broblemau yn brydlon, os bydd rhai yn codi.
- Byddwn yn cynnal a chadw eich eiddo drwy gydol oes y les.
- Byddwn yn cwblhau rhestr cynnwys a chyflwr ar ddiwedd cyfnod y les – ac eithrio’r hyn fyddai’n cael ei ystyried fel traul rhesymol – bydd yr eiddo’n cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr ag yr oedd ar ddechrau cyfnod y les.
- Byddwn yn cyfathrebu â chi’n rheolaidd ynglŷn â’ch eiddo.
- Byddwn yn gyfrifol am unrhyw filiau/cyfleustodau os bydd yr eiddo’n mynd yn wag.
Rhagor o wybodaeth
Cewch ragor o wybodaeth am y cynllun ar ein gwefan:
Cynllun Prydlesu Cymru – Sir Benfro
Neu ar wefan Llywodraeth Cymru
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â ni drwy:
E-bostio: PRleasingscheme@pembrokeshire.gov.uk
Ffonio: 01437 764551 - Julian Arthur