Tai Preifat
Cynllun Prydlesu Cymru – Sir Benfro
Os ydych chi’n berchen ar eiddo yn Sir Benfro, gallwch chi ei rentu trwy gymorth gan Gynllun Prydlesu Cymru.
Mynegwch eich diddordeb
Os ydych chi’n landlord, gallwch chi fynegi eich diddordeb yn y cynllun trwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon:
Beth yw Cynllun Prydlesu Cymru?
Mae Cynllun Prydlesu Cymru yn gynllun prydlesu a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan awdurdodau lleol. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i landlordiaid brydlesu eu heiddo i ni am daliadau rhent a warantwyd am gyfnod o 5 i 20 mlynedd.
Nod y cynllun yw galluogi mwy o bobl i rentu’n breifat yng Nghymru ac iddo fod yn opsiwn mwy fforddiadwy. Bydd y cynllun yn darparu diogelwch i denantiaid ac yn rhoi hyder i landlordiaid.
Bydd y cynllun yn:
- Gwella mynediad at gartrefi yn y sector rhentu preifat
- Darparu diogelwch am dymor hirach o ran llety
- Cynnig fforddiadwyedd
- Darparu cymorth
- Gwella safonau
- Cyfrannu at leihau digartrefedd
Rhagor o wybodaeth am yr amcanion (yn agor mewn tab newydd)
Rwy’n landlord – beth mae hyn yn ei olygu i mi?
- Prydlesu am gyfnodau rhwng 5 ac 20 mlynedd.
- Taliadau rhent a warantwyd am gyfnod y brydles yn unol â’r gyfradd Lwfans Tai Lleol berthnasol.
- Yn ôl yr angen, cynigir hyd at £5000, ar ffurf grant, i adnewyddu eiddo i safon y cytunwyd arni a/neu i gynyddu’r sgôr EPC i lefel C. Mae cyllid grant ychwanegol sy’n werth hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag.
- Mynediad at hyd at £5,000 o gyllid ychwanegol trwy’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (yn agor mewn tab newydd) a’r bwriad yw creu cartrefi carbon niwtral gan ddefnyddio ymagwedd deunyddiau yn gyntaf.
- Atgyweirio unrhyw ddifrod i’r eiddo a achoswyd gan y tenantiaid, ac eithrio traul resymol ac atebolrwydd y landlord am namau strwythurol. Byddai hyn yn rhan o delerau’r brydles.
- Sicrwydd y byddai’r tenantiaid yn derbyn cymorth priodol drwy gydol y brydles.
Rhagor o wybodaeth
Gwybodaeth i landlordiaid (yn agor mewn tab newydd)
Cysylltwch â ni
Os ydych chi’n landlord:
E-bostiwch: PRleasingscheme@pembrokeshire.gov.uk
Ffoniwch 01437 76455 a gofynnwch am Julian Arthur – Swyddog Sector Rhentu Preifat
Os ydych chi mewn perygl o ddod yn ddigartref
E-bostiwch: housingadvice@pembrokeshire.gov.uk
Ffoniwch 01437 764551 a gofynnwch am y Swyddog Digartrefedd ar Ddyletswydd
Am ragor o wybodaeth: Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)