Tai Preifat
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: Tenantiaid, Landlordiaid ac Asiantau
Mae’r ffordd rydych chi’n rhentu yn newid i denantiaid a landlordiaid…
Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gyda’r nod o’i gwneud yn symlach ac yn haws i landlordiaid a thenantiaid rentu cartref yng Nghymru.
Mae’r Ddeddf, a ddaw i rym ar 1 Rhagfyr 2022, yn cyflwyno llawer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaethau a bydd yn berthnasol i’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Ymgyfarwyddwch â’r newidiadau drwy ddarllen y ddogfen ‘Cwestiynau Cyffredin’.
Bydd pob tenant presennol yn derbyn ei gontract newydd cyn pen chwe mis ar ôl 1 Rhagfyr 2022, ond bydd telerau ac amodau'r Ddeddf newydd yn berthnasol o 1 Rhagfyr.
Bydd pob tenant newydd o 1 Rhagfyr 2022 yn cael ei roi ar gontract newydd yn awtomatig.
Ar ôl i’ch contract newydd ddod i law, bydd angen i chi ei ddarllen a sicrhau eich bod yn deall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau newydd.
Dolenni defnyddiol
Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi) (yn agor mewn tab newydd)
Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi) (hawdd ei ddeall) (yn agor mewn tab newydd)
Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi) (Ieithoedd amgen) (yn agor mewn tab newydd)
Cwestiynau cyffredin
Beth yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016?
Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 gyda’r nod o’i gwneud yn symlach ac yn haws i landlordiaid a thenantiaid rentu cartref yng Nghymru.
Mae'r Ddeddf yn cyflwyno llawer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaethau a bydd yn berthnasol i'r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.
Pryd fydd y gyfraith newydd yn berthnasol?
Daw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
Beth yw diben y Ddeddf Rhentu Cartrefi?
- Mae’n rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid a landlordiaid.
- Mae’n gwneud contractau'n gliriach.
- Mae’n gwella amodau cartrefi rhent yng Nghymru.
- Mae’n ei gwneud yn haws i denantiaid a landlordiaid rentu cartref yng Nghymru.
Ar bwy mae'n effeithio?
- Pob tenant cymdeithasol a phreifat.
- Pob landlord cymdeithasol a phreifat, gan gynnwys y rhai sy'n rhentu eu heiddo trwy gwmnïau rheoli neu asiantau.
Beth mae'n ei olygu i mi fel tenant?
- Bydd yn gwella eich hawliau ac yn eu gwneud yn gliriach.
- Bydd yn gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi rhent yng Nghymru.
Beth sy’n newid i mi?
- Bydd contractau meddiannaeth yn cymryd lle cytundebau tenantiaeth.
- Cyfeirir at denantiaid fel Deiliaid Contract.
- Cyfeirir at Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) fel Landlordiaid Cymunedol.
- Olyniaeth – mwy o hawliau i drosglwyddo eich cartref.
- Mwy o ddiogelwch – chwe mis o rybudd cyn belled nag ydy’r contract yn cael ei dorri.
- Gellir ychwanegu neu ddileu deiliaid contract heb fod angen terfynu contract.
- Rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel, er enghraifft rhaid i gartrefi gael larymau mwg sy'n gweithio, gwiriadau nwy blynyddol a phrofion trydanol bob pum mlynedd.
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol – agwedd deg a chyson i bawb.
- Atal ‘troi allan dialgar’.
- Bydd landlordiaid yn gallu adfeddiannu eiddo a adawyd heb orchymyn llys.
Ffitrwydd tai i fod yn gartref
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr ar Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau FFHH”) ar ei gwefan yn: Ffitrwydd tai i fod yn gartref: canllawiau i landlordiaid | LLYW.CYMRU (yn agor mewn tab newydd)
Mae Rhentu Doeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw cryno ar ei wefan sy’n nodi cyfrifoldeb landlord i ddarparu anheddau sy’n ddiogel ac yn ffit i bobl fyw ynddynt (FFHH). Mae 29 o ‘faterion neu amgylchiadau’ wedi’u rhestru ac mae’r rhain yn cynnwys lleithder, oerni, carbon monocsid, ac ati.
Canllaw cryno Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi (yn agor mewn tab newydd)
Dyma’r holl ganllawiau o ran rhentu cartrefi: Llyfrgell Adnoddau - Rent Smart Wales (yn agor mewn tab newydd)
Safonau a Gorfodaeth Tai’r Sector Preifat: Ffitrwydd tai i fod yn gartref a’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai
Weithiau mae tenantiaid yn cysylltu â’r cyngor i ofyn am gamau gweithredu yn seiliedig ar a yw eiddo yn cael ei ystyried yn ffit i fod yn gartref.
Mae'n bwysig deall bod y gofynion ffitrwydd tai i fod yn gartref (yn agor mewn tab newydd) a’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (yn agor mewn tab newydd) yn fframweithiau cyfreithiol gwahanol, er eu bod ill dau yn ymwneud ag amodau tai.
Mae cyfrifoldebau gorfodi tai Cyngor Sir Penfro yn cael eu harfer o dan Ddeddf Tai 2004 gan ddefnyddio'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Asesiad seiliedig ar risg a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i nodi ac asesu peryglon posibl a allai effeithio ar iechyd, diogelwch neu lesiant deiliaid (yn agor mewn tab newydd) yw’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
Bydd y cyngor yn asesu cwynion ac yn penderfynu ar unrhyw gamau gorfodi trwy gyfeirio at beryglon y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai a deddfwriaeth gysylltiedig yn unig. Nid ydym yn gwneud penderfyniadau ffurfiol ynghylch a yw eiddo yn ffit i fod yn gartref at ddibenion anghydfodau cytundebol neu hawliadau cyfreithiol posibl rhwng landlordiaid a thenantiaid.
Lle mae tenantiaid yn credu bod eu landlord wedi methu bodloni gofynion ffitrwydd i fod yn gartref, efallai y byddant am geisio cyngor cyfreithiol annibynnol, cyngor gan Gyngor ar Bopeth, Shelter Cymru, neu gynghorydd tai cymwys arall.
Noder y bydd unrhyw gyngor a ddarperir gan dîm Tai'r cyngor yn gyfyngedig i faterion sy'n ymwneud â’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, peryglon tai a phwerau gorfodi statudol y cyngor.
Ymwadiad
Nid yw'r cyngor yn rhoi barn, neu ddarparu asesiadau na phenderfyniadau ynghylch ffitrwydd i fod yn gartref. Bydd unrhyw weithgareddau arolygu, cynghori neu orfodi a wneir gan y cyngor yn seiliedig yn unig ar y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai a deddfwriaeth tai berthnasol.
Ffitrwydd tai i fod yn gartref: canllawiau i landlordiaid (yn agor mewn tab newydd)
A yw'r newidiadau yn mynd i effeithio ar gost fy rhent?
Nac ydynt. Os ydych yn rhentu eich eiddo gan Landlord Cymunedol (er enghraifft, Awdurdod Lleol neu LCC), yna bydd eich rhent yn dal i gynyddu yn unol â'r Polisi Rhent Cymdeithasol, fel y'i gosodwyd gan Lywodraeth Cymru.
A oes unrhyw beth sydd angen i mi ei wneud?
- Bydd contract newydd yn cael ei anfon at bob tenant presennol cyn pen 6 mis ar ôl 1 Rhagfyr 2022. Bydd hwn yn cymryd lle eich Cytundeb Tenantiaeth presennol.
- Bydd pob tenant newydd o 1 Rhagfyr 2022 yn cael ei roi ar gontract newydd yn awtomatig.
- Unwaith y bydd eich contract newydd wedi dod i law, bydd angen i chi ei ddarllen a sicrhau eich bod yn deall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau newydd.
I gael rhagor o wybodaeth: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (yn agor mewn tab newydd)