Talu am eich gofal a’ch cefnogaeth
Am ba wasanaethau gofal y mae'n rhaid i chi dalu?
Mae’r rhan fwyaf o ofal y GIG am ddim, ond mae llawer o bobl yn gorfod talu am rai pethau. Mae gan bawb sydd wedi ei gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, sy’n cael ei bresgripsiwn gan fferyllydd yng Nghymru, hawl i gael presgripsiwn am ddim.
Efallai y bydd gennych hawl i gael budd-daliadau fel Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i’r Anabl i helpu i dalu costau gofal yn eich cartref (gweler Cymorth a chyngor ariannol).
Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau disgwylir i bobl gyfrannu tuag at gost eu gofal. Mae’r gwasanaethau sydd am ddim yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac asesiadau o’r hyn y mae ar bobl a’u gofalwyr ei angen.
Pwy sy'n gymwys i gael cymorth ariannol?
Mae’r rheolau ar gyfer penderfynu pwy sy’n gymwys i gael cymorth ariannol gan y Gwasanaethau Oedolion yn cael eu pennu gan y Llywodraeth ganolog. Cyfeirir atynt fel CRAG (Arweiniad ar Godi Tâl am Lety Preswyl) a Codi Tâl am Wasanaethau Dibreswyl.
Mae’r rheolau hyn yn cynnwys ‘lwfansau’ (trothwy cyfalaf a ‘threuliau personol’). Mae’r lwfansau hyn yn cael eu hadolygu’n flynyddol a bydd newidiadau’n dod i rym yn Ebrill bob blwyddyn. Nid yw gwerth eich cartref yn cael ei ystyried ar gyfer gofal dibreswyl, ond bydd ail gartref neu eiddo eraill yn cael eu hystyried.
Gallwch benderfynu peidio â derbyn unrhyw gymorth ariannol gan y Cyngor, ac os hynny nid oes angen i chi gael asesiad ariannol. Os yw’r adran Gwasanaethau Oedolion yn talu eich costau gofal, neu rywfaint ohonynt, mae gennych hawl i ddweud o hyd pa ddarparwyr neu wasanaethau gofal rydych am eu cael.
Bydd yr adran Gwasanaethau Oedolion yn eich annog i ddarganfod a threfnu eich gwasanaethau gofal eich hun. Gallwch ddewis derbyn ‘Taliadau Uniongyrchol’, sy’n golygu y byddwch yn cael arian i brynu eich gofal eich hun. Mae hyn yn caniatáu i chi lunio eich pecyn gofal ar gyfer eich anghenion chi.
Age Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Asiantaeth Ffioedd Gofal (yn agor mewn tab newydd)
Cyfraniadau a aseswyd
Beth yw'r cyfraniad a aseswyd?
Ni ddarperir llety preswyl neu lety mewn cartref nyrsio'n rhad ac am ddim. Os ydych yn symud i gartref gofal, bydd yn rhaid i chi dalu tâl wythnosol o'r dyddiad rydych yn symud i'r cartref. Mae'r ‘cyfraniad a aseswyd’ wedi'i seilio ar eich gallu i dalu yn dilyn asesiad ariannol. Os oes gennych adnoddau ariannol sy'n uwch na'r terfyn a osodwyd gan y llywodraeth, byddwch yn talu'r tâl yn llawn ac fe’ch ystyrir yn ddefnyddiwr gwasanaeth sy'n ariannu ei ofal ei hun.
Beth yw'r cyfraniad gan drydydd parti?
Mae cyfraniad gan drydydd parti yn daliad sy'n cael ei dalu i'r cartref preswyl neu'r cartref nyrsio ar eich rhan, fel arfer gan ffrind neu berthynas. Pan fyddwn yn cyfrannu at gost eich gofal, byddwn ond yn talu swm penodol, ond mae sawl cartref gofal yn codi mwy na hyn. Gallwch ddewis cartref gofal sy'n ddrutach os bydd ffrind, aelod o'r teulu neu elusen yn talu'r gwahaniaeth. Gelwir hyn yn 'gyfraniad gan drydydd parti' ac, fel arfer, caiff ei dalu i ni'n uniongyrchol, er mwyn i ni allu talu'r cartref gofal yn ei dro. Fel defnyddiwr y gwasanaeth, nid oes hawl gennych dalu'r cyfraniad gan drydydd parti eich hunan. Bydd lefel y cyfraniad gan drydydd parti yn aml yn cynyddu (yn flynyddol fel arfer) wrth i'r gyfradd a godir gan y cartref gofal gynyddu yn ei dro. Nid oes unrhyw sicrwydd o ystyried y bydd unrhyw gynnydd o'r fath yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng y cyngor a'r trydydd parti. Felly, dylai unrhyw un sy'n ystyried bod yn gyfrifol am daliadau trydydd parti ystyried yr ymrwymiad hwn yn ofalus iawn.
Pam na allaf dalu cyfraniadau gan drydydd parti?
Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth yn datgan nad oes hawl gan breswylwyr mewn cartrefi gofal dalu'r cyfraniadau gan drydydd parti gan ddefnyddio’u hadnoddau eu hunain, ac nid oes unrhyw bŵer gan yr awdurdodau lleol i gasglu unrhyw daliadau ychwanegol gan ddefnyddio adnoddau'r preswylwyr eu hunain ar gyfer taliadau trydydd parti. Fodd bynnag, ceir eithriadau i'r rheol - gweler isod.
Pryd allaf dalu cyfraniadau gan drydydd parti?
Os oes gennych eiddo i’w werthu, gallwch ymrwymo i drefniant taliad gohiriedig gyda'r awdurdod lleol. Yn yr achos hwn, bydd y cyngor yn ystyried darparu cyllid dros dro a allai fod yn fwy na phris y cyngor, oherwydd bydd y cyngor yn adennill y cyllid yn ddiweddarach drwy godi tâl ar yr eiddo. Cofiwch, nid yr arfer arferol yw hwn. Nid ydym yn cytuno’n awtomatig i ganiatáu taliad gan drydydd parti ar gyfer taliad gohiriedig. Bydd angen i chi ofyn am hwn wrth wneud cais am daliad gohiriedig.
Beth yw ein cyfrifoldeb ni yn y trefniant hwn?
Rhaid i ni sicrhau bod y trydydd parti yn gallu talu'r cyfraniadau cyhyd â bod angen. Fodd bynnag, nid oes gennym y pwerau i gynnal asesiad ariannol ar drydydd parti. O achos hyn, gofynnwn i'r trydydd parti ddarllen y daflen hon yn ofalus a llofnodi'r ddogfen amgaeedig fel cofnod ei fod wedi darllen a deall y wybodaeth yn y daflen hon. Dylech nodi, yn arbennig, bod y cyngor yn cadw'r hawl i adennill unrhyw gyfraniadau sy'n weddill ac yn ddyledus gan y trydydd parti. Os nad yw'r cartref gofal yn darparu gofal boddhaol, neu wedi torri amodau a thelerau ein cytundeb gyda hwy, rydym hefyd yn cadw'r hawl i'ch symud chi i lety amgen. Os bydd eich anghenion yn newid yn sylweddol, byddwch yn cael eich ail-asesu gan weithiwr cymdeithasol i weld a yw'ch llety presennol yn parhau i ddiwallu eich anghenion.
Beth sy'n digwydd os nad yw'r trydydd parti yn talu mwyach?
Byddwn yn trafod y sefyllfa gyda'r cartref gofal ar eich rhan er mwyn gweld a ydynt yn fodlon derbyn pris penodedig yr awdurdod lleol am eich llety, y gallai fod yn is na'r swm rydych chi'n ei dalu. Os nad yw'r cartref gofal yn fodlon ail-drafod y pris, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi symud i ystafell lai costus yn yr un cartref, neu i gartref arall sy'n derbyn pris yr awdurdod lleol. Cyn i hynny ddigwydd, bydd gweithiwr cymdeithasol yn cynnal asesiad gofal cymunedol llawn (gan gynnwys asesiad o'ch anghenion emosiynol a seicolegol) er mwyn canfod effaith y symud arnoch. Os bydd yr asesiad gofal cymunedol yn nodi amgylchiadau eithriadol, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn eich cyfeirio chi at ystyriaeth arbennig o arian ychwanegol. Fodd bynnag, os nad yw'r asesiad gofal cymunedol yn nodi unrhyw amgylchiadau eithriadol, byddwn yn archwilio nifer o opsiynau er mwyn darganfod llety amgen sy'n derbyn pris yr awdurdod lleol