Pwy all dderbyn taliadau uniongyrchol?
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian drwy’r cynllun taliadau uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol i brynu eich gofal eich hun yn breifat.
Er mwyn cael taliadau uniongyrchol rhaid i chi fod:
- Wedi eich asesu fel un sy’n gymwys i gael help gan y gwasanaethau cymdeithasol, neu eisoes yn derbyn gofal ganddynt
- Yn barod ac yn abl i reoli’r taliadau uniongyrchol naill ai ar eich pen eich hun neu â chymorth