Talu am eich gofal a’ch cefnogaeth
Pwy sy'n gymwys i gael cymorth ariannol?
Mae’r rheolau ar gyfer penderfynu pwy sy’n gymwys i gael cymorth ariannol gan y Gwasanaethau Oedolion yn cael eu pennu gan y Llywodraeth ganolog. Cyfeirir atynt fel CRAG (Arweiniad ar Godi Tâl am Lety Preswyl) a Codi Tâl am Wasanaethau Dibreswyl.
Mae’r rheolau hyn yn cynnwys ‘lwfansau’ (trothwy cyfalaf a ‘threuliau personol’). Mae’r lwfansau hyn yn cael eu hadolygu’n flynyddol a bydd newidiadau’n dod i rym yn Ebrill bob blwyddyn. Nid yw gwerth eich cartref yn cael ei ystyried ar gyfer gofal dibreswyl, ond bydd ail gartref neu eiddo eraill yn cael eu hystyried.
Gallwch benderfynu peidio â derbyn unrhyw gymorth ariannol gan y Cyngor, ac os hynny nid oes angen i chi gael asesiad ariannol. Os yw’r adran Gwasanaethau Oedolion yn talu eich costau gofal, neu rywfaint ohonynt, mae gennych hawl i ddweud o hyd pa ddarparwyr neu wasanaethau gofal rydych am eu cael.
Bydd yr adran Gwasanaethau Oedolion yn eich annog i ddarganfod a threfnu eich gwasanaethau gofal eich hun. Gallwch ddewis derbyn ‘Taliadau Uniongyrchol’, sy’n golygu y byddwch yn cael arian i brynu eich gofal eich hun. Mae hyn yn caniatáu i chi lunio eich pecyn gofal ar gyfer eich anghenion chi.
Yn cyhoeddi taflen ffeithiau dan y teitl ‘Paying for Care and support at home in Wales’.
Gall gwasanaeth yr Asiantaeth Ffioedd Gofal roi cymorth a chyngor i chi ynglŷn â thalu ffioedd gofal.