Talu am eich gofal a’ch cefnogaeth
Beth yw taliadau uniongyrchol?
Mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu cynllunio gyda’r bwriad o roi mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth i chi, er mwyn eich helpu i reoli eich bywyd eich hun yn eich cartref eich hun. Gallent fod yn berthnasol os ydych yn:
- unigolyn anabl 16 a throsodd (gydag anghenion tymor byr neu dymor hir)
- rhieni anabl ar gyfer gwasanaethau plant
- gofalwyr 16 a throsodd (gan gynnwys pobl â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl)
- unigolyn hŷn sydd angen gwasanaethau gofal cymunedol
Cyflwyniad
Mae’r llyfryn hwn yn rhoi gwybod i chi am y cyfrifoldebau sydd gyda chi fel rhywun sy’n defnyddio taliad uniongyrchol ac yn dweud wrthych ble gellwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth. Mae gan y tîm taliadau uniongyrchol amrywiaeth o wybodaeth ar gael i’ch cefnogi wrth reoli’ch taliad uniongyrchol, gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y llyfryn hwn.
Cyflogi a Rheoli’ch Cynorthwyydd Personol (CP)
Os ydych yn cael problemau gyda’ch CP
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a thystlythyrau
Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion
Os yw eich CP yn wael, yn methu dod i weithio neu’n gadael eich cyflogaeth
Cadw derbynebau, cyfriflenni banc a chofnodion cyflogi
Os ydych yn ei chael hi’n anodd cadw cofnodion
Rhoi stop ar eich Taliad Uniongyrchol
Newidiadau yn eich amgylchiadau
Contractio gyda darparwr gofal
Ychwanegu at eich cyfrif Taliad Uniongyrchol
Cymorth i Wneud Penderfyniadau
Cyflogi a Rheoli’ch Cynorthwyydd Personol (CP)
Mae cynorthwyydd personol (CP) yn rhywun yr ydych yn ei gyflogi sy’n gallu’ch helpu i fyw’n annibynnol gartref. Chi sy’n gyfrifol am recriwtio a rheoli’ch CP, a bydd y tîm taliadau uniongyrchol yn rhoi cymorth a chyngor i chi yn ystod y broses yma.
Rhaid i chi fod â disgrifiad swydd a chontract cyflogi wedi’i arwyddo gyda’ch CP. Mae angen y rhain i sicrhau eich bod yn cwrdd â’ch cyfrifoldebau fel cyflogwr. Mae'r tîm taliadau uniongyrchol yn gallu darparu cofrestr o gynorthwywyr personol cymeradwy i’ch helpu i recriwtio os bydd angen. Maen nhw’n gallu eich helpu i gael at ‘fanc’ o gynorthwywyr personol sydd wedi’u hyfforddi ac sydd ar gael sy’n cwrdd â gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i lenwi bylchau pan fydd prinder staff, absenoldeb ac i gefnogi yn ystod y cyfnod recriwtio dros dro.
Os ydych yn cael problemau gyda’ch CP
Os ydych yn cael problemau o ran rheoli’ch CP dylech drafod hyn gyda'r tîm taliadau uniongyrchol.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a thystlythyrau
Dylech gynnig swydd i’r CP ar yr amod eich bod yn derbyn tystlythyrau boddhaol a chofnodion DBS. ’Does dim angen tystlythyrau ar gyfer aelodau’r teulu ond mae cliriad DBS yn hanfodol. Fe’ch cynghorir yn gryf i sicrhau eich bod yn derbyn tystlythyrau’r CP cyn i chi eu penodi. Mae hyn er mwyn diogelu oedolion sy’n agored i niwed a phlant anabl.
Dylech drafod unrhyw faterion sy’n cael eu codi yn archwiliad y DBS gyda’ch rheolwr gofal, i sicrhau bod y CP yn ymgeisydd addas i ddarparu cymorth i chi i gwrdd â’ch anghenion.
Hyfforddi’ch CP
Os ydych yn cyflogi CP yna dylech ddarparu hyfforddiant priodol ar eu cyfer. Mae enghreifftiau o’r hyfforddiant y gallai eich CP fod â’i angen yn cynnwys:
- rhoi moddion
- codi a chario
- hylendid bwyd
- delio ag argyfyngau
Cysylltwch â'r tîm taliadau uniongyrchol am fwy o wybodaeth ynghylch hyfforddiant.
Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion
Mae'r modiwl hyfforddiant hwn ar gyfer pob oed ac fe'i cyflenwir trwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
- Os ydych yn oedolyn sy'n cyflogi CP, argymhellir eich bod yn trefnu hyfforddiant ar gyfer eich CP.
- Rhaid sicrhau bod unrhyw CP sy'n gweithio gyda phlentyn anabl wedi derbyn yr hyfforddiant hwn o fewn tri mis o ddechrau'r swydd.
Cysylltwch â'ch cynghorydd byw'n annibynnol ynglŷn â chofrestru eich CP ar y modiwl hyfforddiant diogelu hwn.
Asesu Risg
Ble mae’n briodol, fe ddylai’ch rheolwr gofal fod wedi cwblhau asesiad risg ynglŷn â’ch anghenion gofal yn barod, gofynnwch iddyn nhw rannu’r asesiad risg â chi. Pan fyddwch chi’n dod yn gyflogwr rhaid i chi wneud asesiadau risg ar sut y mae’ch anghenion gofal yn cael eu cwrdd. Bydd eich cwmni yswiriant dewisedig ill dau yn eich cynorthwyo gyda hyn a gallant anfon ffurflenni asesu risg gwag a gwybodaeth ategol atoch, i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’ch cyfrifoldebau fel cyflogwr.
Cyflogi aelod o’r teulu
Ni chewch chi gyflogi aelod o’r teulu sy’n byw ar yr un aelwyd â chi fel CP, oni bai bod yna amgylchiadau eithriadol.
Os yw eich CP yn wael, yn methu dod i weithio neu’n gadael eich cyflogaeth
Pan fyddwch yn ystyried cael taliad uniongyrchol fe ddylech fod wedi trafod sut i reoli absenoldeb y CP gyda’ch rheolwr gofal a'r tîm taliadau uniongyrchol, ac wedi cytuno cynllun wrth gefn.
Cadw cofnodion
Fel rhywun sy’n defnyddio’r gwasanaeth taliadau uniongyrchol a chyflogwr rhaid i chi gadw cofnodion cyfredol. Bydd y rhain yn cael eu harchwilio’n rheolaidd. Byddwch mewn perygl o golli’ch taliadau uniongyrchol os caiff problemau eu canfod gyda’r cofnodion yr ydych yn eu cadw.
Cadw’ch ffeil yn gyfredol
Rhaid i chi sicrhau bod eich cofnodion yn gyfredol a’ch bod yn cadw’r canlynol:
- manylion cyflog y gweithwyr (cynorthwywyr personol) e.e. slipiau cyflog, taflenni amser, gwyliau, salwch
- rhestr gwariant
- yr holl daliadau i’r cyfrif taliad uniongyrchol e.e. llyfrau talu i mewn, slipiau BACS
- anfonebau a derbynebau e.e. gofal a brynwyd
- cyfriflenni banc
- treth ac yswiriant e.e. gwybodaeth Yswiriant Gwladol (NI) a Thalu Wrth Ennill (PAYE), yswiriant atebolrwydd cyflogwr
Cadw derbynebau, cyfriflenni banc a chofnodion cyflogi
Rhaid cadw’r cofnodion canlynol am gyfnod o saith mlynedd:
- cyfriflenni banc misol
- derbynebau am wariant a gafwyd
- os ydych yn cyflogi cynorthwyydd personol, cofnodion cyflogi, yn cynnwys:
- manylion staff - enw a chyfeiriad, rhif yswiriant gwladol, dyddiad dechrau cyflogi a’r dyddiad y daeth y cyflogi i ben
- manylion manwl gywir hawl i wyliau
- cofnod o’r oriau a weithiwyd a’r cyflogau a dalwyd h.y. taflenni amser a slipiau cyflog
- manylion taliadau i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- pensiynau
Treuliau
Fel cyflogwr mae’n rhaid i chi gyllidebu ar gyfer yswiriant gwladol, treth, pensiwn, tâl gwyliau a thâl salwch, yn ogystal â chyllidebu ar gyfer argyfyngau. Mae'r tîm taliadau uniongyrchol yn gallu’ch helpu i gyllidebu ar gyfer y canlynol:
- treuliau CP
- taliadau mynediad (ar gyfer cynlluniau gofal gyda chymdeithasoli yn unig) e.e.
- Cerdyn Sinema (yn agor mewn tab newydd)
- mae canolfannau hamdden yn gallu cynnig disgownt i gynorthwywyr personol sy’n dod gyda chi
- mae theatrau’n cynnig disgownt a/neu fynediad am ddim i rai digwyddiadau i gynorthwywyr personol.
- dillad / offer iechyd a diogelwch – os oes angen dillad neu offer diogelwch ar eich CP i wneud tasgau personol mae modd eu prynu trwy’r taliad uniongyrchol
- teithio (ar gyfer cynlluniau gofal gyda chymdeithasoli yn unig) – mae modd defnyddio’r taliad uniongyrchol i gyllidebu ar gyfer costau teithio’r CP fel tocynnau trên neu fws (ble nad yw cerdyn bws cydymaith yn berthnasol). Yr un modd, gellwch gyllidebu i dalu cyfradd a gytunwyd yn ôl y filltir
Os ydych yn cyllidebu ar gyfer treuliau rhaid i chi gadw cofnodion (e.e. derbynebau, bonion tocynnau, neu slipiau cyflog eu gweithiwr i ddangos y milltiroedd).
Os ydych yn ei chael hi’n anodd cadw cofnodion
Os ydych yn cael trafferth o ran cadw’ch cofnodion yn gyfredol dylech drafod hyn gyda'r tîm taliadau uniongyrchol am help bob mis neu yn ôl yr angen.
Cyfrifon a Reolir
Os oes angen bod â chyfrif a reolir arnoch am nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, bydd angen i chi gysylltu â’ch rheolwr gofal. Bydd eich rheolwr gofal yn galw heibio i adolygu’ch sefyllfa, ac yn eich cyfeirio at y tîm taliadau uniongyrchol i reoli’ch cyfrif os bydd angen. Os ar unrhyw adeg nad ydych yn gallu rheoli’ch Taliad Uniongyrchol, gellwch benodi Person Addas i weithredu ar eich rhan.
Person Addas
Os aseswyd bod angen gwasanaethau arnoch i gwrdd â’ch anghenion a’ch bod â diffyg gallu neu fod eich gallu’n gyfnewidiol, rhaid i Berson Addas weithredu ar eich rhan i reoli’r Taliad Uniongyrchol. Bydd holl reolau Taliadau Uniongyrchol yn berthnasol i Berson Addas. Bydd angen i’r Person Addas gael DBS (gweler yr adran ynghylch archwiliadau DBS)
Cyllid
Eich cyfrif banc
Rhaid i chi agor cyfrif cyfredol ar wahân mewn banc neu gymdeithas adeiladu i dderbyn y taliadau uniongyrchol cyn bod y Cyngor yn rhyddhau’r arian i chi. Byddwch chi’n gyfrifol am unrhyw dreuliau banc sy’n codi o ganlyniad i’r ffaith eich bod wedi camreoli’r cyfrif taliadau uniongyrchol. Bydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw dreuliau banc sy’n codi o ganlyniad i’w gweithredoedd nhw, e.e. taliad hwyr / taliad a gollwyd.
Rhaid i chi awdurdodi’r banc / gymdeithas adeiladu i ryddhau gwybodaeth i’r Cyngor ynglŷn â chynnwys y cyfrif a’r trafodion yn gysylltiedig â’r cyfrif.
Adolygiadau ariannol
Bydd y tîm taliadau uniongyrchol yn gwneud adolygiad rheolaidd o’r cofnodion yr ydych yn eu cadw.
Gordaliadau ac Ad-dalu
Dim ond i’ch cyfrif taliadau uniongyrchol y gall arian y mae’r Cyngor yn ei dalu i chi gael ei dalu. Os oes gordaliad yn cael ei wneud gan y Cyngor am unrhyw reswm, rhaid talu’r swm yma’n ôl i’r Cyngor. Os na chaiff y taliad ei ddychwelyd i’r Cyngor, fe allem gymryd camau i’w gael yn ôl. Os yw’r taliad uniongyrchol yn stopio am unrhyw reswm, bydd y Cyngor yn hawlio unrhyw arian sy’n weddill yn eich cyfrif banc taliadau uniongyrchol yn ôl wedi i chi dalu unrhyw arian sy’n ddyledus i’ch CP neu ddarparwr dan gontract.
Cyllid wrth gefn
Mae’r Cyngor yn mynnu eich bod yn creu ac yn dal ‘cronfa wrth gefn’ fel rhan o’ch pecyn taliadau uniongyrchol. Yna bydd gyda chi swm o arian ar wahân i gwrdd â thalu am ofal brys yn ogystal â thâl salwch eich CP. Pan fyddwch yn trefnu’ch pecyn taliadau uniongyrchol fe ddylech fod wedi penderfynu’n barod beth fyddwch yn ei wneud mewn argyfwng.
Pan fydd y tîm taliadau uniongyrchol yn archwilio’ch cofnodion byddant yn edrych a oes gyda chi gronfa wrth gefn a faint y mae’n ei gynnwys. Os yw’r gronfa’n fwy na’r hyn sy’n cyfateb i bedair wythnos o’ch taliadau uniongyrchol a 10% ar ben hynny, byddwn yn gofyn i chi dalu’r arian yma’n ôl i’r Cyngor.
Polisi codi tâl
Os ydych dros 18 ac yn derbyn taliadau uniongyrchol byddwch yn dod dan y polisi codi tâl. Mae gan y Cyngor daflen ffeithiau ynglŷn â chodi tâl y mae’ch rheolwr gofal yn gallu ei darparu ar eich cyfer, neu os oes gyda chi unrhyw ymholiadau penodol, cysylltwch â’r tîm taliadau uniongyrchol :
e-bost: directpayments@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn : 01437 776590
Rhoi stop ar eich Taliad Uniongyrchol
Os nad ydych yn dymuno dal ati i gael taliad uniongyrchol, gellwch stopio trwy roi pedair wythnos o rybudd i’r Cyngor. Cyn i chi stopio bydd angen i chi siarad â:
- eich rheolwr gofal ynghylch sut y byddwch yn derbyn cymorth i gwrdd â’ch anghenion gofal dynodedig.
- y tîm taliadau uniongyrchol fel eich bod yn cwrdd â’ch gofynion cyfreithiol fel cyflogwr pan fyddwch yn terfynu contract eich CP.
Bydd y Cyngor yn rhoi pedair wythnos o rybudd i chi yn ysgrifenedig os ydynt yn mynd i stopio’ch taliadau uniongyrchol. Bydd eich rheolwr gofal yn sicrhau bod eich anghenion gofal yn cael eu cwrdd. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd y Cyngor yn rhoi stop ar daliadau uniongyrchol heb roi rhybudd.
Newidiadau yn eich amgylchiadau
Os oes anhwylder arnoch ble mae’ch anghenion iechyd a / neu ofal cymdeithasol yn newid efallai y bydd angen mwy neu lai o gymorth arnoch. Os nad yw’r pecyn gofal cyfredol sydd gyda chi yn cyd-fynd bellach â’r hyn sydd ei angen arnoch cysylltwch â’ch rheolwr gofal.
Contractio gyda darparwr gofal
Efallai y byddwch am gontractio â sefydliad neu ddarparwr gofal yn hytrach na chyflogi cynorthwyydd personol i ddiwallu eich anghenion asesedig. Rhaid i’r rhan fwyaf o sefydliadau yr ydych yn eu cyflogi fod yn ddarparwr gofal cofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a bodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Yr eithriadau yw gwasanaethau nad ydynt yn darparu unrhyw wasanaethau gofal personol a gwasanaethau gofal/cymorth hunangyflogedig (a elwir hefyd yn ‘ficrofentrau’). Rhaid i chi fod â chontract wedi’i arwyddo gyda’r darparwr o’ch dewis a fydd yn amlinellu’r tasgau y bydd yn eu gwneud i chi er mwyn diwallu eich anghenion asesedig. Cysylltwch â'r Tîm Taliadau Uniongyrchol am gymorth gyda hyn.
Os byddwch yn dewis contractio gydag asiantaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall costau eu cymorth wrth yr awr.
Ychwanegu at eich cyfrif Taliad Uniongyrchol
Mae’r Cyngor yn talu cyfradd taliad uniongyrchol sefydlog wrth yr awr. Os ydych yn prynu gwasanaeth gan ddarparwr gofal mae’n debygol y byddant yn codi mwy arnoch yr awr am y gwasanaeth hwn na’r swm yr ydych yn ei dderbyn fel taliad uniongyrchol. Bydd rhaid i chi dalu unrhyw wahaniaeth o’ch arian eich hun.
Os aseswyd bod angen deg awr o gymorth arnoch yna bydd disgwyl i chi gontractio am ddeg awr o ofal gan dalu’r gwahaniaeth rhwng y swm yr ydych yn ei dderbyn gan y Cyngor a’r swm sy’n cael ei godi.
Mwy o wybodaeth
Os bydd eich amgylchiadau’n newid a bod angen mwy neu lai o ofal arnoch, eich bod yn cael eich derbyn i ysbyty neu’ch bod yn anfodlon ar eich taliad uniongyrchol a’ch bod ag eisiau’i newid neu’i stopio, rhaid i chi gysylltu â’ch rheolwr gofal neu'r tîm taliadau uniongyrchol.
Mae gan y tîm taliadau uniongyrchol daflenni gwybodaeth i’ch helpu ac maen nhw’n gallu rhoi cymorth i chi hefyd dros y ffôn ac wyneb yn wyneb. Mae’r tîm taliadau uniongyrchol
yma i’ch helpu i ddal i reoli a defnyddio’ch taliad uniongyrchol. Byddant yn cysylltu â chi a’ch rheolwr gofal os oes unrhyw broblemau ynghylch sut ydych yn rheoli’ch taliad uniongyrchol ar hyn o bryd. Gellwch gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r wybodaeth isod:
Tîm Taliadau Uniongyrchol
Neuadd y Sir,
Hwlffordd,
Sir Benfro
SA61 1TP
e-bost: directpayments@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 776590
Cymorth i Wneud Penderfyniadau
Gallwch dderbyn cefnogaeth gan eiriolwr pan fyddwch yn :
- Gwneud cwyn
- Herio penderfyniad a wnaed am wasanaeth yr ydych chi'n ei dderbyn
- Gwneud penderfyniad ynghylch gwasanaeth y gall fod ei angen arnoch.
Taliadau uniongyrchol: mythau a ffeithiau (yn agor mewn tab newydd)