Talu am ofal a chymorth
Cynllun Taliadau Gohiriedig
Beth yw'r cynllun taliadau gohiriedig?
Os ydych yn symud i gartref gofal preswyl neu nyrsio, mae'n ofynnol i chi dalu'r cyfraniad ffi gofal ar gyfer y cartref gofal preswyl / nyrsio. Gallwch wneud cais i’r awdurdod lleol i’ch helpu hyd nes y gallwch wneud y canlynol:
- Cael mynediad at / rhyddhau arian sydd ynghlwm yn eich eiddo
- Cyrchu asedau cyfalaf, e.e. arian a ddelir mewn ymddiriedolaethau, cyfranddaliadau ac ati
- Cael mynediad at rai asedau cyfalaf na fyddwch efallai’n gallu cael mynediad iddynt ar hyn o bryd
Efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn berchen ar eiddo neu asedau cyfalaf ond yn dewis peidio â defnyddio'r cyfalaf i dalu cost eich gofal. Mae unrhyw arian y mae’r awdurdod lleol yn ei dalu o dan yr amgylchiadau hyn yn ad-daladwy.
Mae hyn yn golygu y bydd y cyngor yn talu am eich costau gofal preswyl ac, os ydych yn berchen ar eiddo, bydd trefniadau'n cael eu gwneud i ddiogelu'r benthyciad yn erbyn eich eiddo, hyd nes y byddwch wedi'i werthu neu hyd nes y byddwch yn marw.
Ar y pwynt hwn, bydd y benthyciad (terminoleg y Gofrestrfa Tir wrth gyfeirio at arwystlon taliadau gohiriedig neu arwystlon adran 71) yn cael ei ad-dalu i'r cyngor. Bydd hyn i gyd yn cael ei amlinellu mewn cytundeb gyda Chyngor Sir Penfro, y bydd angen i chi neu eich cynrychiolydd ariannol ei lofnodi.
Codir llog ar y gyfradd a osodwyd yn rhestr taliadau’r gwasanaethau cymdeithasol, sydd ar gael ar ein gwefan neu ar gais. Bydd llog yn daladwy o’r dyddiad y llofnodir y cytundeb taliadau gohiriedig.
Pwy sy'n gymwys ar gyfer y cynllun?
I ymuno â’r cynllun, rhaid i chi fodloni’r holl amodau canlynol (DS: nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr):
- Wedi cael eich asesu gan y tîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion fel rhywun sydd angen gofal preswyl neu nyrsio parhaol
- Bod yn gymwys i gael cyllid gan y cyngor
- Bod â buddiant llesiannol mewn ased cyfalaf sy'n cwmpasu'r tâl a aseswyd
- Rhaid mai hwn yw'r arwystl cyntaf yn yr eiddo a aseswyd
- Mae'r eiddo wedi'i gofrestru'n ddigidol gan y Gofrestrfa Tir
Byddai angen i’r rhai sydd heb alluedd fod â’r canlynol ar waith:
- Atwrneiaeth – gyda thwrnai sy’n gallu gweithredu ar eu rhan mewn perthynas â materion ariannol
- Dirprwy – sy'n gallu gweithredu ar eu rhan mewn perthynas â materion ariannol
Sut mae'r cynllun yn gweithio?
Os ydych yn berchen ar eiddo y gellir ei asesu
Os ydych wedi cael eich asesu a byddwch yn cael gofal a chymorth y codir tâl amdanynt, cynigir asesiad ariannol i chi i bennu faint y byddwch yn ei dalu tuag at eich gofal.
Bydd gwerth eiddo cymwys yn cael ei ddiystyru yn y cyfrifiad asesiad ariannol am 12 wythnos gyntaf y lleoliad cartref gofal. Bydd angen i chi wneud cyfraniad wedi'i asesu yn ystod y cyfnod o 12 wythnos.
O'r drydedd wythnos ar ddeg, bydd eich eiddo yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol a gall y swm y mae'n ofynnol i chi ei dalu bob wythnos fod yn uwch na'ch incwm. Byddwch yn cael y cyfle i ohirio cyfran cyfalaf a phremiwm cyfraniad y taliad tan ddyddiad diweddarach.
Gellir defnyddio trefniant taliadau gohiriedig hefyd i dalu ‘cyfraniadau costau ychwanegol’. Mae cyfraniad cost ychwanegol yn daliad a wneir i gartref preswyl neu nyrsio ar eich rhan, fel arfer gan ffrind neu berthynas. Lle rydym yn cyfrannu at gost eich gofal, dim ond hyd at swm penodol y byddwn yn ei dalu, ond mae rhai cartrefi gofal yn codi mwy na hyn.
Os ydych yn berchen ar asedau cyfalaf eraill y gellir eu hasesu (ac eithrio eiddo y gellir ei asesu)
Os oes gennych fuddsoddiadau eraill nad ydych yn gallu cael mynediad iddynt a/neu mae'n well gennych beidio â chael mynediad iddynt, gallwch ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig. Gallech hefyd ddefnyddio'r cynllun i dalu ‘cyfraniadau costau ychwanegol’.
A fydd unrhyw ffioedd ar gyfer y cynllun hwn?
Mae Cyngor Sir Penfro yn codi ffi weinyddol / ffi gyfreithiol untro am sefydlu trefniant taliadau gohiriedig. Mae hyn yn cynnwys y costau cyfreithiol a ffioedd y Gofrestrfa Tir y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu talu wrth sefydlu cytundeb. Gellir talu’r ffi wrth sefydlu’r trefniant neu, os nad oes digon o arian i dalu’r ffi, yna gellir gohirio hyn hefyd.
Os oes rhaid i chi dalu cyfraniad cost ychwanegol, rhaid ad-dalu’r arian:
- Lle mae rhai newidiadau yn eich amgylchiadau ariannol
- Pan fydd yr eiddo wedi'i werthu
- Pan derfynir y cytundeb gan barti, e.e. y cyngor, chi, neu'ch cynrychiolydd
Codir llog hefyd os ydych yn gohirio cyfraniad cost ychwanegol. Bydd llog yn daladwy o’r dyddiad y llofnodir y cytundeb taliadau gohiriedig.
Sut mae gwneud cais am y cynllun taliadau gohiriedig?
Pan fyddwch yn symud i gartref preswyl neu nyrsio yn barhaol yn dilyn asesiad gofal cymdeithasol, bydd angen llenwi ffurflen asesiad ariannol fel rhan o'r broses dderbyn.
Pan fydd y ffurflen hon wedi'i phrosesu, byddwch chi neu'ch cynrychiolydd yn cael cadarnhad o gost y lleoliad preswyl neu nyrsio. 14 diwrnod ar ôl i chi dderbyn y llythyr cadarnhau asesiad ariannol, byddwch yn derbyn ffurflen taliadau gohiriedig a dogfennau cyfreithiol y mae angen eu llenwi a'u hanfon yn ôl atom.
Bydd eich cais yn cael ei ystyried yn unol â meini prawf deddfwriaethol ac, os byddwch yn llwyddiannus, bydd cytundeb taliadau gohiriedig yn cael ei anfon atoch chi neu eich cynrychiolydd.
Cais llwyddiannus
Pan fyddwch yn derbyn eich cytundeb taliadau gohiriedig, fe’ch cynghorir i geisio cyngor cyfreithiol/ariannol annibynnol cyn ei lofnodi.
Dylid dychwelyd y cytundeb gorffenedig i'r cyngor a byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau pryd mae eich cytundeb ar waith.
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich hysbysu – neu bydd eich cynrychiolydd yn cael ei hysbysu – o'r rhesymau dros y penderfyniad yn ysgrifenedig.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau am eich cais, ffoniwch yr Adran Cyllid Gofal Cymdeithasol ar 01437 775600.
Prisio eiddo
Bydd y cyngor yn trefnu prisiad o’ch eiddo a phan fydd hyn wedi’i wneud, byddwn yn anfon llythyr atoch yn nodi telerau’r cytundeb. Bydd y llythyr yn dangos eich taliadau wythnosol asesedig.
Beth os nad wyf am gael taliad gohiriedig?
Eiddo asesadwy
Os ydych wedi cael cynnig cytundeb taliadau gohiriedig ac nad ydych yn dymuno bwrw ymlaen ac na allwch dalu’r ffioedd cartref gofal, bydd adran 71 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn berthnasol.
Bydd y Cyngor yn trefnu i arwystl cyfreithiol gael ei osod yn erbyn yr eiddo, a bydd hyn yn diogelu’r ddyled sy’n ddyledus i’r cyngor hyd nes y bydd yr eiddo’n cael ei werthu. Os yw'r ddyled yn dal heb ei thalu ar ôl eich marwolaeth, bydd taliadau llog yn berthnasol o'r 56ain diwrnod ar ôl eich marwolaeth.
Pethau i'w gwybod
Ni fydd yr arwystl ar yr eiddo yn cael ei ddileu nes bod y ddyled wedi'i thalu.
Mae’r ysgutor yn atebol i dalu dyled y taliadau gohiriedig cronedig ar yr eiddo cyn gweithredu’r ewyllys neu brofiant.
Chwe mis ar ôl dyddiad marwolaeth y defnyddiwr gwasanaeth, os nad yw’r taliad gohiriedig wedi cael ei dalu neu os nad oes gwybodaeth wedi’i darparu i egluro’r oedi hwn, mae gan Gyngor Sir Penfro hawl gyfreithiol i roi gorchymyn gwerthu i orfodi gwerthu’r eiddo i adennill y ddyled.
Os oes arwystl cyntaf ar yr eiddo eisoes:
- Mae angen i'r defnyddiwr gwasanaeth neu ei gynrychiolydd ddarparu lefel y taliadau y cytunwyd arnynt eisoes, e.e. datganiad rhyddhau ecwiti, datganiad yswiriant bywyd, datganiad morgais, ac ati
Os oes cynllun taliadau gohiriedig wedi'i lofnodi:
- Bydd tâl y cytundeb taliadau gohiriedig a’r taliadau llog yn dod i ben ar ôl dyddiad cwblhau gwerthu’r eiddo neu ar ddyddiad y farwolaeth
- Bydd ffioedd cyfreithiol yn berthnasol
- Codir anfoneb y dylid ei thalu'n brydlon
Os nad oes cynllun taliadau gohiriedig wedi'i lofnodi:
- Mae arwystl adran 71 yn cael ei gymhwyso i’r eiddo a bydd y taliadau llog a gyfrifir yn dechrau cronni 56 diwrnod ar ôl dyddiad y farwolaeth, gan ddod i ben pan fydd y ddyled wedi’i thalu
- Bydd ffioedd gweinyddol yn berthnasol
- Os caiff yr eiddo ei werthu tra bod y perchennog yn dal mewn gofal preswyl / cartref nyrsio, bydd anfoneb yn cael ei chodi o’r dyddiad cwblhau a dylid ei thalu’n brydlon
Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth am y cynllun?
Tîm Ariannol, Taliadau Gohiriedig a Dyledion y Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir Penfro, Hwlffordd, SA61 1TP
Ffôn: 01437 775600