Talu am ofal a chymorth

Penodeiaeth a Dirprwy - Y Gwahaniaethau

Penodeiaeth

  • Mae gan benodeiaethau bwerau cul iawn, wedi’u cyfyngu i reoli arian gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac i ddelio â’r Adran Gwaith a Phensiynau, gan weithredu ar ran yr unigolyn nad oes ganddo alluedd
  • Cyfyngir penodeiaethau i dderbyn a threfnu gwariant o incwm budd-dal a/neu bensiwn y wladwriaeth er lles yr unigolyn na all reoli ei arian ei hun
  • Rhaid i benodai fod dros 18 mlynedd
  • Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn penodi person neu sefydliad (ee cyngor lleol neu gartref gofal) yn benodai. Mae'r broses yn gymharol gyflym a syml
  • Mae penodai yn atebol i’r Adran Gwaith a Phensiynau ond nid yw’n cael ei oruchwylio na’i fonitro’n rheolaidd
  • Rhaid i benodai ddilyn unrhyw reolau a osodir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Nid oes unrhyw ffioedd ynghlwm wrth ddod yn benodai
  • Ni all penodai hawlio treuliau

Gwybodaeth Bellach: Penodeiaeth

 

Dirprwy

  • Mae dirprwy yn aml yn rhoi pwerau llawer ehangach i wneud penderfyniadau a gweithredu ar ran y person arall heb alluedd ar faterion lles neu faterion ariannol neu ar y ddau, yn dibynnu ar yr hyn a nodir yng ngorchymyn y Llys Gwarchod
  • Mae dirprwyon yn rheoli arian o unrhyw ffynhonnell incwm, yn ogystal â budd-daliadau/pensiwn y wladwriaeth e.e. pensiwn galwedigaethol, incwm o fuddsoddiadau, arian o Ymddiriedolaeth, neu daliadau uniongyrchol/cyllidebau unigol
  • Rhaid i ddirprwy fod dros 18 oed. Mae unigolyn sydd wedi’i ddatgan yn fethdalwr neu sydd wedi cael collfarn droseddol, yn enwedig un sy’n ymwneud â thwyll, yn annhebygol o gael ei benodi’n Ddirprwy
  • Mae'r Llys Gwarchod yn penodi person neu sefydliadau (ee darparwr gofal/cymorth) yn ddirprwy. Mae'r broses yn cymryd sawl mis ac mae'n broses gyfreithiol gymhleth braidd
  • Mae dirprwy yn atebol i’r Llys Gwarchod ac yn cael ei oruchwylio gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a rhaid iddo gyflwyno Adroddiad Blynyddol ar ei benderfyniadau, incwm, a gwariant
  • Rhaid i ddirprwy weithredu o fewn cwmpas y gorchymyn sy’n ei benodi a gweithredu o fewn egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’i Chod Ymarfer
  • Mae ffioedd ar gyfer talu costau gwneud cais i ddod yn ddirprwy ac ar gyfer goruchwyliaeth barhaus. Mae ffioedd yn daladwy o arian yr unigolyn heb alluedd
  • Gall dirprwy hawlio ad-daliad o gostau rhesymol, megis galwadau ffôn, teithio a phostio. Ni ellir talu dirprwy am ei amser, oni bai bod y gorchymyn llys sy’n ei benodi yn nodi y gellir talu tâl e.e. i gyfreithiwr lleol

Gwybodaeth Bellach: Dirprwyon

 

ID: 14290, adolygwyd 23/10/2025