Talu Hysbysiad Talu Cosb (HDC)
Sut i wrthwynebu
Os byddwch yn anghytuno gyda'r penderfyniad i roi Hysbysiad Tâl Gosb, gallwch ysgrifennu at Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPCC) o fewn 14 diwrnod i ddyddiad cyflwyno'r Hysbysiad Tâl Gosb gan roi rhesymau neu esboniad dros gredu y dylid canslo'r Hysbysiad Tâl Gosb.
Mae'n rhaid cyflwyno heriau'n ysgrifenedig. Yna gallwch ei chyflwyno yn un o'r ffyrdd canlynol:
- Drwy'r post - anfon at PPCC, Blwch SP 273, Y Rhyl, LL18 9EJ
- Drwy ffacs - anfon at 01745 839246
- Drwy neges e-bost - pcn-query@wppp.org.uk
O fewn eich gwrthwynebiad, sicrhewch eich bod yn rhoi rhif deg nod perthnasol yr Hysbysiad Tâl Gosb (e.e. PK51235123) a'ch enw a'ch cyfeiriad fel y gallwn ymateb i chi.
Bydd y dewis i dalu pris gostyngol o 50% yn parhau i fod ar gael nes bod gwrthwynebiad wedi'i ystyried a phenderfyniad wedi'i wneud.
Os na fyddwch yn fodlon ar ganlyniad eich gwrthwynebiad, gellir cyflwyno apêl ffurfiol i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig, sef gwasanaeth dyfarnu apeliadau parcio cenedlaethol. Mae'n rhaid cyflwyno'r apêl bellach hon i'r Tribiwnlys o fewn 14 diwrnod i wrthod yr apêl gyntaf.
Noder: Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cwblhau rhywfaint o waith gweinyddol parcio ar ran Cyngor Sir Penfro. Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Penfro wedi cytuno ar yr holl bolisïau a bydd staff Cyngor Sir Penfro yn gysylltiedig â phob cam yn y broses.