Teithio Llesol yn Sir Benfro

Mapiau o’r rhwydwaith teithio llesol

Ymgynghoriad ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol – Cam 2

Yn dilyn ymgynghoriad statudol 12 wythnos, a ddaeth i ben ym mis Ebrill eleni, mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau roi cyfle i’r cyhoedd gadarnhau bod eu barn wedi cael ei hystyried yn briodol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynrychioli’r cam nesaf hwnnw.

Rydym yn gofyn am eich adborth ar y canlynol:

  • A ydym wedi nodi llwybrau newydd posibl priodol?
  • A ydym wedi nodi'n gywir y llwybrau presennol y gellid eu gwella?
  • A ydym yn gywir yn ein hasesiad o’r llwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau y cytunwyd arnynt (y llwybrau presennol)?

Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y prif drefi a phentrefi yn Sir Benfro, sydd wedi’u dethol gan Lywodraeth Cymru fel lleoliadau dynodedig y sir. Y rhain yw: Abergwaun / Wdig, Penfro, Doc Penfro, Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot (Llanusyllt), Hwlffordd, Neyland, Aberdaugleddau, Johnston, Arberth a Llandudoch.

Sylwch nad yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys materion sy’n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus nac unrhyw faterion priffyrdd nad ydynt yn gysylltiedig â cherdded, teithio ar olwynion neu beicio gan nad yw’r rhain wedi’u cynnwys yn yr adolygiad o’r map rhwydwaith teithio llesol.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori ar-lein drwy ein hofferyn mapio rhyngweithiol, sy’n cael ei letya gan Fap Data Cymru sy’n dod o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru.

Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Egnïol – Cam 2 (yn agor mewn tab newydd)

 

Mae’r map rhyngweithiol yn caniatáu i gyfranogwyr weld ein llwybrau arfaethedig, a elwir yn llwybrau’r dyfodol neu lwybrau presennol sydd wedi’u newid o ganlyniad i’r ymgynghoriad cychwynnol a rhoi sylwadau ynghylch a yw’r llwybrau hyn yn adlewyrchu’r hyn yr hoffech ei weld yn cael ei gyflwyno neu ei wella.

 

Bydd yr ymgynghoriad yn cychwyn ddydd Llun, 3 Awst 2026 ac yn cau ddydd Llun, 28 Medi 2026.

 

Mae copïau papur ar gael ar gais drwy gysylltu â'r tîm yn y cyfeiriad e-bost isod.  Sylwch, oherwydd yr ardal helaeth a gwmpesir, mai dim ond cynlluniau copi caled ar gyfer yr ardal benodol o fewn eich cylch gwaith y gallwn eu darparu. Os bydd unrhyw gyfranogwyr yn dymuno cymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy fformat gwahanol, gofynnwn yn garedig i geisiadau gael eu cyflwyno i'r tîm cyn gynted â phosibl.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at y Tîm Strategaeth Trafnidiaeth

 

 

Trosolwg o’r Ymgynghoriad ar Fapio’r Rhwydwaith Teithio Llesol – Cam 1

Yn dilyn y broses ymgynghori gyhoeddus, a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2026, mae’r holl sylwadau a ddaeth i law wedi’u casglu’n themâu allweddol. Mae’r rhain wedi’u nodi yn y tabl isod, ochr yn ochr ag ymatebion y cyngor er hwylustod cyfeirio.

Mae’r holl bryderon a godwyd wedi’u rhannu â’r timau perthnasol i’w hymchwilio. Oherwydd y lefel sylweddol o adborth a daeth i law yn ystod yr ymgynghoriad hwn, nid yw wedi bod yn bosibl cyflwyno pob sylw unigol. Fodd bynnag, os hoffech gael adborth penodol yn ymwneud ag unrhyw un o’r aneddiadau a restrir isod, cysylltwch â’r tîm drwy e-bost a gellir darparu copi i chi:

  • Abergwaun / Wdig
  • Hwlffordd
  • Johnston / Aberdaugleddau
  • Neyland
  • Penfro
  • Doc Penfro
  • Saundersfoot
  • Dinbych-y-pysgod
  • Llandudoch

Bydd ail gam yr ymgynghoriad yn digwydd yn ddiweddarach eleni i gadarnhau a yw’r holl lwybrau arfaethedig y dyfodol wedi’u nodi. Bydd rhagor o fanylion ar gael ar y dudalen we hon maes o law.

 

Thema

Eich pryderon a’ch sylwadau

Ein camau gweithredu

Trefi sy’n cael eu heffeithio

Hygyrchedd a mynediad cynhwysol
  • Mae’r palmentydd yn rhy gul i symud cadeiriau olwyn/pramiau
  • Dim cyrbau isel
  • Diffyg canllawiau a seilwaith hygyrch
  • Cydnabyddir problemau hygyrchedd a byddant yn cael eu harchwilio 
  • Comisiynu ymchwiliadau i ganllawiau
  • Asesu llwybrau’r dyfodol yn erbyn safonau ar gyfer addasrwydd
Abergwaun, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Arberth, Penfro, Saundersfoot, Llandudoch, Dinbych-y-pysgod
Diogelwch ffyrdd a chyflymder traffig
  • Cyflymder traffig gormodol
  • Croesfannau peryglus 
  • Gwelededd gwael wrth gyffyrdd
  • Wedi’i gyfeirio at yr adran draffig
  • Wedi’i anfon at yr Asiantaeth Cefnffyrdd lle bo’n berthnasol
  • Wedi’i gynnwys mewn asesiadau diogelwch yn y dyfodol
Hwlffordd, Pontfadlen, Aberdaugleddau, Arberth, Saundersfoot, Doc Penfro, Llandudoch
Bylchau yn y seilwaith cerdded a beicio
  • Dim llwybrau beicio
  • Diffyg llwybrau troed ar ffyrdd prysur
  • Cysylltedd gwael rhwng cymunedau
  • Ychwanegu llwybrau’r dyfodol at fap y rhwydwaith a’u hasesu yn erbyn safonau ar gyfer addasrwydd 
  • Comisiynu astudiaethau dichonoldeb
  • Wedi’i gynnwys yn y broses flaenoriaethu
Ar draws y sir
Gwaith cynnal a chadw a chyflwr yr arwynebau
  • Arwynebau anwastad
  • Tyllau yn y ffordd
  • Llwybrau sy’n dirywio
  • Wedi’i gyfeirio at dimau cynnal a chadw
  • Archwiliadau yn cael eu cynnal ar y llwybrau presennol ar hyn o bryd 
Ar draws y sir
Llystyfiant a rhwystrau ar y llwybrau
  • Llystyfiant sydd wedi gordyfu
  • Llwybrau wedi’u blocio
  • Cyfyngiadau gwelededd
  • Cyfeiriwyd at yr adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gyfer gwaith cynnal a chadw
  • Archwiliadau yn cael eu cynnal ar y llwybrau presennol ar hyn o bryd
Ar draws y sir
Goleuadau a diogelwch personol
  • Goleuadau gwael
  • Pryderon diogelwch ar ôl tywyllu
  • Llwybrau heb eu goleuo
  • Wedi’i ystyried yng nghynlluniau’r dyfodol
  • Ychwanegwyd at restr archwiliadau llwybrau
Hwlffordd, Arberth, Penfro, Saundersfoot
Parcio ar y palmant a cherbydau’n rhwystro tramwy
  • Ceir yn rhwystro palmentydd
  • Mynedfeydd llwybrau wedi’u rhwystro
  • Cerddwyr yn cael eu gorfodi i’r ffordd
  • Atgyfeiriadau ar gyfer gorfodi’r gyfraith
  • I’w drafod yn ystod archwiliadau
  • Cynghorir rhoi gwybod i’r heddlu
Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro, Saundersfoot
Gwelliannau i groesfannau a chyffyrdd
  • Croesfannau anodd
  • Offer croesi diffygiol
  • Cyffyrdd anniogel
  • I’wcyfeirio at beirianwyr
  • Wedi’u cynnwys mewn pecynnau teithio llesol
  • Yn cael eu hasesu
Hwlffordd, Pontfadlen, Arberth, Doc Penfro
Glendid a materion amgylcheddol
  • Baw cŵn
  • Sbwriel
  • Tipio anghyfreithlon
  • Wedi’i gyfeirio at adrannau’r cyngor
  • Ystyried biniau ychwanegol
  • Gofynnwyd am gymryd camau gorfodi’r gyfraith
Wdig, Aberdaugleddau, Penfro, Saundersfoot
Draenio a llifogydd
  • Dŵr llonydd
  • Llwybrau sy’n dueddol o ddioddef llifogydd
  • Draeniad gwael
  • Atgyfeiriadau cynnal a chadw
  • Adolygiadau draenio
  • Ystyried llifogydd wrth gynllunio llwybrau
Abergwaun, Arberth, Llandudoch, Dinbych-y-pysgod
Trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltedd
  • Angen am wasanaethau bysiau gwell
  • Integreiddio gwael â llwybrau
  • Pryderon ynghylch hygyrchedd gorsafoedd
  • Cysylltu â thimau trafnidiaeth
  • Cofnodi pryderon ynghylch gwasanaethau
  • Hygyrchedd i’w adolygu
Hwlffordd, Aberdaugleddau, Llandudoch
Arwyddion a chanfod y ffordd
  • Dim arwyddion
  • Anodd canfod y ffordd
  •  Angen am farciau llwybr
  • Ymchwilio i adolygu arwyddion
  •  Archwiliadau llwybrau wedi’u rhaglennu
  • Mesurau gwella i’w nodi
Pontfadlen, Doc Penfro, Llandudoch
Datblygu a blaenoriaethu llwybrau yn y dyfodol
  • Ceisiadau am lwybrau newydd
  • Cysylltiadau ysgol mwy diogel
  • Ehangu’r rhwydwaith
  • Ychwanegwyd at y map teithio llesol
  • Wedi’i gynnwys yn y broses flaenoriaethu
  • Cyfleoedd ariannu yn y dyfodol i’w harchwilio
Ar draws y sir
Dichonoldeb cynllunio, tir a llwybrau
  • Pryderon tir preifat
  • Cyfyngiadau llifogydd
  • Gwrthwynebiadau amgylcheddol/rheilffyrdd
  • Adolygiadau dichonoldeb i’w cynnal
  • Rhai llwybrau wedi’u tynnu
  • Archwilio dewisiadau eraill
Aberdaugleddau, Penfro, Dinbych-y-pysgod

 

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnal ymgynghoriad i gasglu adborth ar ofynion teithio llesol yn y sir.

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi a chynnal mapiau o’r rhwydwaith teithio llesol. Mae'r mapiau hyn yn cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflawni a chyllido cynlluniau teithio llesol, gan helpu i greu rhwydwaith mwy integredig, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer teithio ar droed, ar olwyn ac ar feic dros gyfnod o dair i bum mlynedd. Cafodd ein map presennol ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2022 ac mae'n bryd nawr adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau dros y tair blynedd diwethaf.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio:

  • Ymgysylltu â chymunedau lleol a’u cynnwys wrth nodi'r llwybrau teithio llesol pwysicaf y mae angen eu gwella neu eu datblygu.
  • Asesu ymarferoldeb ac effeithiolrwydd llwybrau presennol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu profiad y defnyddiwr ac yn cyd-fynd â datblygiadau cyfredol a datblygiadau yn y dyfodol.
  • Hyrwyddo teithio llesol ac annog trigolion i fabwysiadu dulliau teithio cynaliadwy ar gyfer teithiau bob dydd, gan leihau dibyniaeth ar gerbydau modur preifat.

Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y prif drefi a phentrefi yn Sir Benfro, sydd wedi'u dethol gan Lywodraeth Cymru fel lleoliadau dynodedig y sir. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Abergwaun / Wdig
  • Hwlffordd
  • Johnston
  • Aberdaugleddau
  • Neyland
  • Doc Penfro
  • Penfro
  • Dinbych-y-pysgod
  • Saundersfoot
  • Arberth
  • Llandudoch (mae hyn o fewn ffin anheddiad Aberteifi ond o fewn ardal weinyddol Cyngor Sir Penfro)

 

 Gweld y map o’r rhwydwaith teithio llesol

  • Llwybrau presennol – dyma'r llwybrau sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol (ar droed, ar olwyn ac ar feic) ar hyn o bryd.
  • Llwybrau’r dyfodol – nodwyd y llwybrau hyn yn ystod ymgynghoriadau blaenorol neu roedd angen gwelliannau arnynt i wella cysylltedd cyffredinol y rhwydwaith.

Gallwch weld map o’r sir i gyd drwy’r ddolen hon:Platfform MapDataCymru (yn agor mewn tab newydd)

 

Manylion yr ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad statudol 12 wythnos hwn yn rhedeg o 26 Ionawr 2026 i 20 Ebrill 2026

Gallwch gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori (yn agor mewn tab newydd) ar-lein drwy ein hofferyn mapio rhyngweithiol, sy’n cael ei letya gan Fap Data Cymru sy'n dod o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru.

Cynhelir sesiynau galw heibio yn y lleoliadau canlynol, lle bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau a allai godi. Oherwydd oriau agor y lleoliadau, sylwer nad ydym yn gallu mynychu yn hwyrach na'r amseroedd a bennir.

5 Chwefror

  • Doc Penfro – Llyfrgell Doc Penfro, 10:00 – 13:00
  • Penfro – Cyngor Tref Penfro, 14:30 – 17:30

11 Chwefror

  • Wdig – Caffi Ocean Lab, 10:00 – 13:00
  • Abergwaun – Llyfrgell Abergwaun, 14:00 – 17:00 

24 Chwefror

  • Neyland – Llyfrgell Neyland, 10:00 – 13:00
  • Johnston – Eglwys Bedyddwyr Johnston, 14:00 – 18:00

 26 Chwefror

  • Arberth – Llyfrgell Arberth, 14:00 – 17:00 

4 Mawrth

  • Aberdaugleddau – Llyfrgell Aberdaugleddau, 10:00 – 13:00 

5 Mawrth

  • Dinbych-y-pysgod – Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod, 09:30 – 12:30
  • Saundersfoot – Neuadd Regency, 13:30 – 17:30 

16 Mawrth

  • Hwlffordd – HaverHub, 14:00 – 18:00 

18 Mawrth

  • Llandudoch – Neuadd Goffa Llandudoch, 14:00 – 18:00 

 

Mae copïau papur ar gael ar gais drwy gysylltu â'r tîm yn y cyfeiriad e-bost isod.  Sylwch, oherwydd yr ardal helaeth a gwmpesir, mai dim ond cynlluniau copi caled ar gyfer yr ardal benodol o fewn eich cylch gwaith y gallwn eu darparu. Os bydd unrhyw gyfranogwyr yn dymuno cymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy fformat gwahanol, gofynnwn yn garedig i geisiadau gael eu cyflwyno i'r tîm cyn gynted â phosibl.


Am ragor o wybodaeth am Deithio Egnïol yn Sir Benfro.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at y Tîm Strategaeth Trafnidiaeth.

 

ID: 14397, adolygwyd 12/08/2026