Teithio Llesol yn Sir Benfro

Teithio Llesol mewn Ysgolion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion drwy ymgyrchoedd, casglu data ac ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gwneud cerdded, teithio ar olwynion a beicio yn ddewis naturiol ar gyfer siwrneiau ysgol lle bo hynny’n bosibl yn gorfforol. Ei nod yw gwella iechyd plant, cynyddu gweithgarwch corfforol dyddiol, a gwella ansawdd aer o amgylch ysgolion, yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru).

Mae canlyniadau wedi dangos y gall plant sy’n cerdded, teithio ar olwynion neu’n beicio i’r ysgol neu’n ôl yn rheolaidd gyflawni rhwng 25-35% o’r gweithgarwch corfforol a argymhellir fesul diwrnod ysgol. Gall teithio llesol i’r ysgol hefyd ddatblygu:

  • Hunanhyder
  • Iechyd corfforol
  • Gwella llesiant meddyliol a chanolbwyntio
  • Annibyniaeth ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch
  • Sgiliau asesu a rheoli risg
  • Datrys problemau
  • Sgiliau cymdeithasol

Ar lefel y gymuned a’r boblogaeth, gall mwy o deithio llesol i’r ysgol leihau nifer y cerbydau ar y ffyrdd trwy newid dulliau teithio, a thrwy hynny leihau lefelau llygredd a lleihau perygl ar y ffyrdd.

Bob blwyddyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwahodd awdurdodau lleol i gynnal Arolwg Dwylo i Fyny Teithio i’r Ysgol ar draws pob ysgol gynradd a gynhelir yng Nghymru. Mae’r arolwg dilys hwn yn cofnodi dull teithio y mae disgyblion yn ei hadrodd eu hunain, gan adeiladu darlun clir o arferion teithio llesol ledled y wlad.

Isod mae’r canlyniadau o 2023 – 2024 yn Sir Benfro. Er bod mwy o ddisgyblion wedi cymryd rhan yn arolwg 2024, mae cymhariaeth o ganrannau yn dangos y newidiadau canlynol o flwyddyn i flwyddyn:

2023

Disgrifiad

Cerdded

Beicio

Tethio ar sgwter

Car

Bws

Cyfanswm nifer y cyfranogwyr

Nifer 315 30 38 471 54 908
Cyfanswm % 34.69% 3.30% 4.19% 51.87% 5.95% amherthnasol

 

 2024

 

Disgrifiad

Cerdded

Beicio

Teithio ar sgwter

Car

Bws

Cyfanswm nifer y cyfranogwyr

Nifer 347 56 63 655 81 1202
Cyfanswm % 28.87% 4.66% 5.24% 54.49% 6.74% amherthnasol

 

 Cymhariaeth

 

Disgrifiad

Cerdded

Beicio

Teithio ar sgwter

Car

Bws

2023 34.69% 3.30% 4.19% 51.87% 5.95%
2024 28.87% 4.66% 5.24% 54.49% 6.74%
Cymhariaeth Gostyngiad o 5.85% 0 2023 Cynnydd o 1.35% increase o 2023 Cynnydd o 1.06% o  2023 Cynnydd o 2.62% o 2023 Cynnydd o 0.79% o 2023

 

 

Casgliad: Mae’n galonogol gweld cynnydd mewn beicio a sgwtera, ond mae’r data hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd clir i atgyfnerthu teithio llesol ymhellach. Mae meysydd ffocws posibl yn cynnwys:

  • Cefnogi ysgolion i greu Cynlluniau Traffig Ysgol
  • Newid ymddygiad
  • Hyfforddiant ac addysg
  • Hyrwyddo diwylliant teithio llesol
  • Gwella seilwaith priffyrdd lle bo modd i annog mwy o deithio llesol yn enwedig mewn ardaloedd trefol

Cyn arolwg 2025, adolygodd Cyngor Sir Penfro’r categorïau trafnidiaeth i gofnodi’n well sut mae disgyblion yn teithio i’r ysgol ac yn ôl mewn gwahanol amodau tywydd, gan ehangu’r ystod o opsiynau sydd ar gael yr un pryd. Bydd y dull hwn yn caniatáu set ddata ehangach a mwy manwl. Bydd yr un fformat yn cael ei ddefnyddio o hyn ymlaen, gan alluogi cymariaethau clir â chanlyniadau 2026 a fydd yn digwydd ym mis Hydref.

Dyma ganlyniadau 2025 ar gyfer Sir Benfro:

 

Cymudo

Nifer y cyfranogwyr

Cerdd ed

Teithio ar sgwter

Bicio

Sglefrfwrdd

Bws

Car

Trên

Parcio a cherdded

Tacsi

Bws mini

I’r ysgol ar ddiwrnod gwlyb

2081 15% 1% 1% 1% 23% 52% 0% 5% 1% 1%

O’r ysgol ar ddiwrnod gwlyb

1903 17% 2% 2% 0% 19% 53% 1% 5% 1% 0%

I’r ysgol ar ddiwrnod sych

1915 19% 3% 3% 0% 21% 47% 1% 5% 1% 1%

O’r ysgol ar ddiwrnod sych

1944 22% 3% 3% 0% 23% 43% 1% 5% 1% 0%

 

Materion i’w hystyried

Yn aml, mae plant yn defnyddio gwahanol ddulliau cludiant ar gyfer siwrneiau i’r ysgol ac yn ôl oherwydd cyfyngiadau amrywiol yn y bore a’r prynhawn, fel amserlenni gwaith rhieni, gweithgareddau ar ôl yr ysgol, a’r angen am gyfleustra. Yn aml, bydd y daith foreol mewn car er mwyn sicrhau cyrraedd yn brydlon, ond gall y daith brynhawn gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, neu rannu ceir, gan ganiatáu mwy o hyblygrwydd.

Gall plant mewn ardaloedd trefol ei chael hi’n anodd defnyddio dulliau teithio llesol i fynd i’r ysgol ac yn ôl am sawl rheswm:

  • Traffig trwm yn gwneud ffyrdd yn anniogel neu’n fygythiol i groesi neu feicio ar eu hochr 
  • Palmentydd cyfyngedig neu gul sy’n orlawn, yn enwedig yn ystod oriau brig
  • Diffyg seilwaith beicio diogel, fel lonydd beicio neu groesfannau pwrpasol 
  • Pellteroedd teithio hirach rhwng y cartref a’r ysgol mewn rhai dalgylchoedd trefol
  • Pryderon diogelwch, gan gynnwys perygl dieithriaid neu gyffyrdd prysur
  • Ansawdd aer gwael ar hyd priffyrdd, gan annog pobl i beidio â cherdded neu feicio
  • Cyfyngiadau amser i deuluoedd sydd angen siwrneiau cyflymach cyn neu ar ôl gwaith
  • Mannau croesi diogel prin, fel croesfannau sebra neu oleuadau traffig
  • Amlygiad i’r tywydd heb lwybrau cysgodol addas 

Gall y ffactorau hyn wneud teithio llesol yn llai ymarferol, yn llai diogel, neu’n llai deniadol i blant mewn amgylcheddau trefol. Lle bo modd, mae’r awdurdod yn edrych ar ffyrdd o wella’r cyfyngiadau hyn fel y gall cynifer o ddisgyblion â phosibl fwynhau teithio llesol.

Os oes gennych chi neu’r ysgol y mae eich plentyn yn mynychu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwelliannau neu unrhyw lwybrau teithio llesol newydd, anfonwch e-bost 

Dolenni defnyddiol:

Gwefan ymddiriedolaeth Walk, Wheel and Cycle Trust (yn agor mewn tab newydd) 

Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn tab newydd) 

Tim Diogelwch ar y Ffyrdd

Ddeddf Teithio Llesol (yn agor mewn tab newydd)

ID: 15119, adolygwyd 08/05/2026