Tendrau a Chytundebau

Beth I'w Wneud a Beth i Beidio ai Wneud Wrth Dendro

Mae angen i chi

  • Gofrestru ar wefan Gwerthwch i Gymru (yn agor mewn tab newydd) www.gwerthwchigymru.llyw.cymru a sicrhau bod proffil eich cwmni yn cael ei gadw'n gyfredol a bod y categorïau yr ydych yn cofrestru ar eu cyfer yn adlewyrchiad cywir o’r math o nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig.
  • Mynd i'n gwefan i gael gwybodaeth am ein contractau cyfredol.
  • Darllen y cyfarwyddiadau a'r holl ddogfennau’n ofalus a sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion a nodir.
  • Sicrhau eich bod yn cymryd y cyfle i werthu eich mudiad a'r cynhyrchion a Gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig. Peidiwch â chymryd yn ganiataol ein bod yn
    gwybod y wybodaeth hon.
  • Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, gofynnwch.
  • Os na allwch chi ateb rhyw gwestiwn penodol, ceisiwch roi rheswm pam na allwch ddarparu’r wybodaeth.
  • Gwneud yn siŵr bod eich cyflwyniad tendr yn bodloni'r fanyleb gofynion a bod yr holl gwestiynau a/neu feini prawf wedi’u hateb ac wedi ymateb iddynt yn fanwl.
  • Cynnwys copïau o'r holl dystysgrifau neu bolisïau cyfredol y gofynnir amdanynt a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn atodiad a chroesgyfeirio’n unol â hynny.
  • Sicrhau eich bod yn cwblhau’r atodlen Brisio a sicrhau eich bod yn gallu cynnal y pris a ddyfynnir am y cyfnod angenrheidiol. Efallai y bydd rhai tendrau hefyd yn gofyn am ddadansoddiad manwl o gostau.
  • Sicrhau eich bod yn cyflwyno’ch tendr yn electronig drwy Bravo erbyn y dyddiad cau a nodir. Bydd
    tendrau hwyr yn cael eu gwrthod.

Peidiwch â gwneud y canlynol

  • Cymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod popeth am eich cwmni a'r nwyddau a'r gwasanaethau a ddarperir gennych. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gwmnïau sydd wedi’u cytundebu ar hyn o bryd neu yn y gorffennol gyda'r Awdurdod. Caiff tendrau eu gwerthuso ar eich cyflwyniad ysgrifenedig ac nid ar unrhyw brofiad blaenorol o ddelio â ni.
  • Peidiwch ag anfon cyfrifon cwmni neu adroddiadau oni bai ein bod yn gofyn amdanynt yn benodol. Os fydd angen, bydd y Cyngor yn nodi yn y ddogfen dendro'r math o wybodaeth ariannol sydd angen i chi ei chynnwys.
ID: 568, adolygwyd 29/11/2023