Tendrau a Chytundebau

Datganiad Caethwasiaeth Fodern Cyngor Sir Penfro

Mae'r datganiad hwn yn amlinellu'r camau gweithredu y mae'r Cyngor wedi'u cymryd, ac y bydd yn eu cymryd i sicrhau na cheir arferion anfoesegol nac achosion o gaethwasiaeth fodern yn ei fusnes a'i gadwyn gyflenwi ei hun.

Trosolwg

Mae'r Cyngor yn darparu nifer o wasanaethau statudol a gwasanaethau yn ôl disgresiwn, a ddarperir gan gyfuniad o weithlu a gyflogir yn uniongyrchol a sefydliadau o'r trydydd sector a'r sector preifat.

Ym mis Ebrill 2018, ymrwymodd y Cyngor i'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cod yn cwmpasu 12 ymrwymiad, gan gynnwys camdriniaeth mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern a hawliau dynol, cosbrestru, hunangyflogaeth ffug, defnydd annheg o gynlluniau ambarél, a chontractau dim oriau.

Mae'r datganiad hwn yn amlinellu'r camau gweithredu y mae'r Cyngor wedi'u cymryd, ac y bydd yn eu cymryd, i sicrhau na cheir arferion anfoesegol nac achosion o gaethwasiaeth fodern yn ei fusnes a'i gadwyn gyflenwi ei hun.

Caethwasiaeth Fodern

Gall troseddau sy'n ymwneud â chaethwasiaeth fodern gynnwys y canlynol:

  • Camfanteisio ar weithwyr – Gorfodir pobl sy'n dioddef y weithred hon i weithio yn erbyn eu hewyllys, gan weithio oriau hir iawn, yn aml am ychydig bach o dâl, os o gwbl, o dan amodau ofnadwy ac o dan fygythiadau trais llafar neu gorfforol.
  • Caethwasanaeth domestig – Gorfodir pobl sy'n dioddef hyn i gyflawni gwaith tŷ a thasgau domestig mewn cartrefi preifat am ychydig bach o dâl, os o gwbl, cyfyngir ar eu symudiadau, rhoddir amser rhydd cyfyngedig iawn iddynt, os o gwbl, a'r lefel leiaf o breifatrwydd, ac maen nhw'n aml yn cysgu lle maent yn gweithio.
  • Camfanteisio rhywiol – Gorfodir unigolion sy'n dioddef hyn i gyflawni gweithredoedd rhywiol heb gydsyniad neu gyflawni gweithredoedd rhywiol camdriniol yn erbyn eu hewyllys, megis puteindra, partneru a phornograffi. Caiff oedolion eu cymell, dan fygythiad o'u gorfodi yn aml, neu fygythiad rhyw fath arall o gosb.
  • Camfanteisio troseddol – Mae dioddefwyr y weithred hon yn cael eu gorfodi i gyflawni troseddau fel tyfu canabis neu ddwyn o bocedi yn erbyn eu hewyllys, a hynny'n aml o ganlyniad i gael eu rheoli a'u cam-drin.
  • Masnachu pobl - Caiff pobl eu twyllo, eu bygwth neu eu gorfodi i fod yn rhan o sefyllfaoedd sy'n ei gwneud yn bosibl cam-fanteisio arnynt. Yna, mae'r unigolion hyn yn cael eu gwerthu, gan naill ai aros o fewn eu gwlad neu gael eu symud ar draws ffiniau.
  • Caethwasanaeth oherwydd dyledion – Gorfodir pobl sy'n dioddef hyn i ad-dalu dyledion na fydd modd iddynt wneud hynny mewn gwirionedd.

Mae achosion o droseddau caethwasiaeth fodern ar gynnydd. Yng Nghymru, cafodd 251 o achosion dioddefwyr posibl eu hatgyfeirio i'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn 2018 – mae hyn 30% yn fwy nag yn 2017. Mae hyn yn cynrychioli 4% o'r holl atgyfeiriadau i'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn y DU. 

Polisïau 

Mae gan y Cyngor amrywiaeth o bolisïau ar waith ar gyfer mynd i'r afael â materion sy'n codi yn y Cod Ymarfer Moesegol, ac mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Cod ymarfer – Diben y cod ymarfer hwn yw llywio'r awdurdod a gweithwyr yn y gwaith yr ydym yn ei wneud, ynghyd â'r penderfyniadau a'r dewisiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud ar lefel leol a rhanbarthol. Mae'n darparu egwyddorion ymarfer cyffredinol i weithwyr, y maent yn sylfaenol i fywyd cyhoeddus, gan gynnwys uniondeb, didwylledd, gonestrwydd a gwrthrychedd.
  • Polisi chwythu'r chwiban –  Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r weithdrefn y dylech ei dilyn os oes gennych bryderon bod rhywbeth sy'n digwydd yn y gweithle yn rhoi rhywun mewn perygl neu ei fod yn anghyfreithlon neu'n anfoesegol. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i gyflogeion, contractwyr, ymgynghorwyr, swyddogion, a gweithwyr dros dro ac asiantaeth sy'n gweithio i'r Cyngor neu ar ei ran.
  • Cod Ymarfer ar gyfer Recriwtio a Dethol – Mae'r ddogfen hon yn amlinellu fframwaith polisi corfforaethol y Cyngor ar gyfer y broses recriwtio a dethol. Mae'n sicrhau bod pob penodiad a wneir yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, yn enwedig y Ddeddf Cydraddoldeb.
  • Polisi Cwynion Corfforaethol – Mae hwn yn cwmpasu'r gweithdrefnau ar gyfer codi mater gyda'r Cyngor mewn perthynas â'i wasanaethau.
  • Polisi Cyflogaeth Foesegol – Mae'r polisi hwn yn cwmpasu arferion cyflogaeth a chamdriniaeth mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern a hawliau dynol. Rydym yn glynu wrth ddatganiadau polisi ac arweiniad Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Cadwyn Gyflenwi

Yn flynyddol, mae'r Cyngor yn gwario oddeutu £178 miliwn ar nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir gan drydydd partïon. Gwneir hyn â thua 4,800 o gyflenwyr. Y diwydiannau sydd â risg uchel o safbwynt troseddau caethwasiaeth fodern yw adeiladu, gweithgynhyrchu, dillad, glanhau, hamdden, lletygarwch ac arlwyo. Cynhelir asesiad diwydrwydd dyladwy fel rhan o ddyfarnu contractau mewn meysydd â risg uchel, a hynny er mwyn lliniaru yn erbyn y risgiau o faterion sy'n ymwneud â chaethwasiaeth fodern.

Mae'r Cyngor yn monitro'i gyflenwyr yn y meysydd hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer Moesegol. Caiff y gwaith hwn ei wneud yn ystod ei drefniadau ar gyfer monitro contractau.

Mae hyn yn cyfeirio at arferion cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth ffug, amodau gwaith, hawliau statudol y cyflogai, contractau dim oriau, a mynediad at undebau llafur. Mae pob un o'r telerau ac amodau'n cyfeirio at gydymffurfedd â'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.

Hyfforddiant i Weithwyr

Mae cwrs hyfforddiant ar-lein wedi'i ddatblygu sy'n cwmpasu caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Mae hwn ar gael i bob aelod o staff ei gwblhau. Rhaid i bob aelod o staff ym maes caffael gwblhau'r cwrs ar gaffael a chyflenwi'n foesegol gan y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi. Mae hwn yn cwmpasu'r materion canlynol: twyll, llwgrwobrwyo a llygredd, camdriniaeth mewn perthynas â hawliau dynol, ac effaith caffael ar yr amgylchedd.

Cynllun Gweithredu Ymrwymiadau'r Cod Ymarfer Cynnydd a Wnaed Hyd yn Hyn

  • Ymrwymodd y Cyngor i'r Cod Ymarfer Moesegol ar 16 Ebrill 2018.
  • Cafodd Arweinydd y Cyngor ei ddynodi fel yr Hyrwyddwr Gwrth-gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol.
  • Mae polisi cyflogaeth foesegol wedi'i lunio.
  • Mae'r polisi chwythu'r chwiban wedi'i adolygu a'i ddiweddaru ac mae bellach yn cynnwys mecanwaith y gall pobl y tu allan i'r sefydliad ei ddefnyddio i godi amheuon o arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol.
  • Mae cwrs hyfforddiant ar-lein ar gaethwasiaeth fodern wedi'i ddatblygu er mwyn i bob aelod o staff ei gwblhau.
  • Cynhelir asesiad risg cynaliadwyedd yn achos pob gweithgarwch caffael sy'n werth mwy na £25,000, ac mae'n mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chyflogaeth foesegol.
  • Mae pob un o'r telerau ac amodau talu'n nodi y dylid gwneud taliadau ymhen 30 niwrnod o dderbyn anfoneb ddilys. Dylid trosglwyddo'r telerau hyn hefyd i unrhyw isgontractwyr.
  • Mae pob elfen o wariant gan drydydd partïon wedi'i hasesu, ac mae'r amodau a thelerau mewn contractau perthnasol lle ceir risg o faterion sy'n ymwneud â chyflogaeth foesegol wedi'u diwygio er mwyn cynnwys cymal ar gaethwasiaeth fodern.
  • Mae pob darn o'r ddogfennaeth monitro contractau wedi'i ddiwygio er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â materion sy'n ymwneud â chyflogaeth foesegol, gan gynnwys hunangyflogaeth ffug, cynlluniau ambarél, contractau dim oriau, a mynediad at undebau llafur, yn ystod y gwaith monitro contractau blynyddol.
  • Mae'r datganiad ar gaethwasiaeth fodern ar gael ar wefan y Cyngor.
  • Mae gwybodaeth berthnasol o'r cod ymarfer ar gael ar wefan y Cyngor er mwyn annog cyflenwyr i ymrwymo i'r cod, a hynny fel rhan o'r cam cychwynnol.
  • Mae adolygiad o ddogfennaeth gaffael wedi'i gynnal er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol ynglŷn ag arferion cyflogaeth yn cael ei hystyried fel rhan o'r broses gaffael ar gyfer pob gweithgarwch caffael sy'n werth mwy na £25,000 y mae'r Gwasanaeth Caffael ynghlwm wrtho.

Cynllun Gweithredu Ymrwymiadau'r Cod Ymarfer Cynnydd sy'n Ofynnol

Mae'r Cyngor wedi ystyried mabwysiadu cyflog byw y Living Wage Foundation, ond daeth i'r casgliad nad yw'n fforddiadwy ar hyn o bryd. Anogwn bob un o'n cyflogwyr i adolygu'r mater hwn ac i wneud ei benderfyniad ei hun yn ei gylch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Canllawiau a Hyfforddiant – Cod Ymarfer Cadwyni Cyflenwi (yn agor mewn tab newydd)

 

 
ID: 7832, adolygwyd 29/11/2023