Tendrau a Chytundebau
Rheoliadau
Arolwg o Reoliadau
Mae’r Cyngor yn sicrhau gwaith, cyflenwadau a gwasanaethau er mwyn darparu’r gwasanaethau i’r cyhoedd. Cefnogir y gwasanaethau hyn gan arian cyhoeddus oddi wrth y llywodraeth a threthi’r cyngor ac fel darparwr gwasanaethau cyhoeddus, rhaid i’r Cyngor weithredu’n deg pan fydd yn dyfarnu cytundebau. Mae yna ofynion cyfreithiol y mae’n rhaid i’r Cyngor eu dilyn er mwyn sicrhau ein bod yn delio mewn modd agored a thryloyw, heb ddangos tuedd na ffafriaeth pan fyddwn yn penodi ein cyflenwyr.
Cyfarwyddiadau Caffael Cyhoeddus
Mae’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor hysbysebu pob contract dros drothwyon penodol yng ngwasanaethau e-hysbysu newydd Dod o Hyd i Wasanaeth Tendro (Find a Tender Service) (FTS) y DU. Gwerth trefniant prynu ar gyfer dibenion y rheoliadau hyn yw gwerth oes gyfan y contract, nid gwerth blynyddol yn unig, a rhaid iddo gwmpasu pob elfen o’r gofyniad hwnnw (h.y. ni ellir rhannu gofyniad prynu yn rhannau llai er mwyn osgoi bod yn ddarostyngedig i’r rheoliad).
O 1 Ionawr 2021 y trothwyon hyn yw:
- Gwasanaethau: £189,330
- Rheoliadau Cyffwrdd Ysgafu: £663,540
- Gwaith: £4,733,252
Diben hysbysebu yn y FTS yw rhoi’r un cyfle i holl fusnesau’r DU dendro am gontractau. Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor sicrhau nad yw manylebau’n cynnwys unrhyw beth a allai fod yn wahaniaethol e.e. ni allwn bennu Safonau Cymru na gofyn am ymgeiswyr o Gymru yn unig. Rhaid i bob contract fod yn agored i holl ddarparwyr y DU.