Tendrau a Chytundebau

Sut y Byddwn ni'n Prynu

Mae strwythur caffael Cyngor Sir Penfro wedi ei gymysgu â Gwasanaeth Caffael canolog sy'n gyfrifol am roi cyfeiriad strategol, prynu'n gydlynol a gwasanaeth ymgynghori mewnol, gyda'r rhan fwyaf o'r prynu gweithredol wedi ei ddatganoli i'r gwahanol adrannau. 

Mae'r Gwasanaeth Caffael yn gyfrifol am: 

  • Ddarparu cefnogaeth Caffael ar gyfer Adrannau'r Cyngor 
  • Darparu cyngor ac arweiniad ar gyfer pob mater caffael
  • Sefydlu a datblygu trefniadau a phrosesau prynu
  • Dynodi a lleoli cyfleoedd contract corfforaethol

Gellir ffonio'r Gwasanaeth Caffael ar: ( 01437 ) 775907.

Ysgolion

O dan 'Ariannu Teg' mae pwerau prynu yn cael eu harchwilio gan lywodraethwyr ysgol ac maent yn rheoli eu cyllideb eu hunain.

Mae gan ysgolion ddyletswydd i sicrhau gweithdrefnau cystadleuol teg a thryloyw, a gall fod cytundebau digon mawr i warantu tendro. Mae ysgolion yn ddarostyngedig i Reoliadau Ariannol ar gyfer Ysgolion a lle bo cytundebau unigol yn uwch na’r trothwy perthnasol, rhaid i ysgolion gydymffurfio â Rheoliadau Caffael Cyhoeddus 2015.

Os hoffech gael cyngor ar gyflenwi ysgolion, cysylltwch â: Donna Barker, Swyddog Caffael (Addysg) ar 01437 771814 neu e-bost donna.barker@pembrokeshire.gov.uk

ID: 560, adolygwyd 02/02/2023