Tim Asesu Gofal Plant
Tim Asesu Gofal Plant
Rydym yn sylweddoli bod magu plant yn dasg bwysig; gall fod yn un anodd ambell waith hefyd. O dro i dro mae ar bawb angen cymorth a chyngor, a gallwch gael y cymorth a’r cyngor hwn gan ymwelwyr iechyd, athrawon, aelodau’r teulu a ffrindiau neu gallwch gysylltu â’r tîm asesu gofal plant. Ar ben hynny gallwn ni roi cymorth a chefnogaeth ichi os oes gyda chi unrhyw bryderon am les plentyn.
Sut ydym ni'n rhoi cymorth?
Fe all y tîm asesu gofal plant roi cymorth trwy roi gwybodaeth a chyngor ichi ac, os bydd angen, gall eich cynorthwyo i ofalu am eich plant.
Bydd y tîm yn gweithio ar y cyd â rhieni, pobl ifanc a gofalyddion er mwyn pwyso a mesur beth yw eu hanghenion unigol. Bydd y tîm yn gweithio gydag asiantaethau statudol, gwirfoddol ac annibynnol eraill hefyd, er mwyn ichi gael y cyngor y gallai fod arnoch ei angen.
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall