Tim Asesu Gofal Plant
Beth ddylwn i ei wneud os wyf i'n becso am blentyn?
Rydym yn rhoi amddiffyniad a chymorth i blant sydd mewn perygl o gamdriniaeth. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch plant all fod mewn perygl o niwed ffoniwch y Canolfan Gyswyllt 01437 764551 / Tîm Dyletswydd Argyfwng y Gwasanaethau Cymdeithasol
Os ydych yn meddwl bod plentyn mewn perygl dybryd, ffoniwch 999.
Rydym i gyd yn rhannu cyfrifoldeb dros sicrhau bod plant yn cael eu gwarchod rhag niwed. Mae diogelu yn fusnes i bawb. Os oes gennych chi neu eraill bryderon ynghylch diogelwch neu bosibilrwydd perygl i blentyn neu rywun ifanc, eich cyfrifoldeb chi yw gweithredu ar y pryderon hynny.
Os ydych yn amau bod plentyn neu rywun ifanc mewn perygl:
- peidiwch fyth â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn rhoi gwybod
- peidiwch fyth ag oedi cyn mynegi eich pryderon ar y rhif uchod
- peidiwch â phryderu y gallwch fod yn anghywir - mae'n well trafod eich pryderon gyda rhywun sydd â'r profiad i wneud asesiad
Fe all camdriniaeth fod ar lawer ffurf, gan gynnwys y canlynol:
- Camdriniaeth gorfforol: e.e. taro, ysgwyd, llosgi neu sgaldian, gwenwyno bwriadol, mygu neu niweidio plentyn yn gorfforol mewn unrhyw ffordd arall.
- Camdriniaeth emosiynol: e.e. dweud wrth blant eu bod yn ddiwerth neu'n ddigariad, eu bychanu, achosi iddynt deimlo'n ofnus, neu ofyn iddynt wneud rhywbeth nad yw'n rhesymol o'u hoed.
- Camdriniaeth rywiol: e.e. annog neu orfodi plentyn i gyfranogi mewn gweithredoedd rhywiol amhriodol. Gall hyn gynnwys cyffwrdd corfforol neu ddangos deunydd pornograffaidd i blentyn.
- Esgeulustod: e.e. peidio â darparu digon o fwyd, cynhesrwydd, diogelwch, sylw meddygol, addysg neu symbyliad meddyliol.
- Camfanteisio ar Blant: e.e. defnyddio plentyn er budd ariannol, boddhad rhywiol, esgor neu fantais bersonol.
I gael rhagor o wybodaeth:
Anfonwch bob ffurflen atgyfeirio diogelu amlasiantaethol (MARFS) i’r e-bost ccatduty@pembrokeshire.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol e-bostiwch Tîm Asesu Gofal Plant - ccat@pembrokeshire.gov.uk
Tîm Dyletswydd Argyfwng y Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr Heddlu: 101 (999 mewn argyfwng)
NSPCC: 0808 800 5000