Tim Asesu Gofal Plant

Proses Adran 47 yn arwain at Asesiad Gofal a Chymorth

Cefndir

Pan fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn gwybodaeth a gallai eich plentyn neu blant fod mewn perygl, caiff Ymchwiliad neu Ymholiad Amddiffyn Plant ei gynnal dan Adran 47 o Ddeddf Plant 1989. Dan y Ddeddf mae dyletswydd ar y Tîm Asesu Gofal Plant i wneud ymholiadau ac asesu’r sefyllfa pan fydd yn cael hysbysiad y gallai plentyn neu blant fod mewn perygl o niwed neu gamdriniaeth sylweddol.

Pan fyddwn yn gwneud yr ymholiadau hyn, byddwn yn dilyn ein Trefnau Amddiffyn Plant lleol, yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n deillio o ganllawiau’r llywodraeth.

Rydym yn sylweddoli y gall hyn fod yn amser ingol a phryderus. I helpu inni ddeall a oes pryderon difrifol neu beidio, bydd angen i ni wneud Asesiad Gofal a Chymorth o’r sefyllfa.

Yr Asesiad Gofal a Chymorth

Rhaid i bob asesiad gynnwys sylwadau’r plentyn yn ogystal â’r teulu. Lle bo modd, byddai cais i bwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant roi caniatâd, oni bai fod barn broffesiynol yn awgrymu y byddai hyn yn rhoi plentyn mewn perygl.

Dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae’n ofynnol mewn cyfraith ar y Tîm Asesu Gofal Plant i wybod beth yw dymuniadau a theimladau’r plentyn ynghylch darparu gwasanaethau. Mae Canllawiau Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant yn datgan y dylid gweld plentyn neu blant ar eu pennau’u hunain ble bynnag y bo modd. Eto, byddai cais i bwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant roi caniatâd oni bai fod barn broffesiynol yn awgrymu y byddai hyn yn rhoi plentyn mewn perygl.

 

I gael rhagor o wybodaeth: 01437 764551

Gweithdrefnau Diogelu Cymru (yn agor mewn tab newydd)

ID: 10962, adolygwyd 03/10/2024

Tim Asesu Gofal Plant

Rydym yn sylweddoli bod magu plant yn dasg bwysig; gall fod yn un anodd ambell waith hefyd. O dro i dro mae ar bawb angen cymorth a chyngor, a gallwch gael y cymorth a’r cyngor hwn gan ymwelwyr iechyd, athrawon, aelodau’r teulu a ffrindiau neu gallwch gysylltu â’r tîm asesu gofal plant.  Ar ben hynny gallwn ni roi cymorth a chefnogaeth ichi os oes gyda chi unrhyw bryderon am les plentyn.

Sut ydym ni'n rhoi cymorth? 

Fe all y tîm asesu gofal plant roi cymorth trwy roi gwybodaeth a chyngor ichi ac, os bydd angen, gall eich cynorthwyo i ofalu am eich plant. 

Bydd y tîm yn gweithio ar y cyd â rhieni, pobl ifanc a gofalyddion er mwyn pwyso a mesur beth yw eu hanghenion unigol. Bydd y tîm yn gweithio gydag asiantaethau statudol, gwirfoddol ac annibynnol eraill hefyd, er mwyn ichi gael y cyngor y gallai fod arnoch ei angen.

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd)  y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 1805, adolygwyd 20/10/2023

Beth yw asesiad?

Cyn y gallwn ni eich helpu chi, mae’n rhaid inni gael gwybod rhagor amdanoch chi a’ch teulu. Bydd hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth, trin a thrafod hyn gyda chi a chytuno ar yr hyn y gallem ei wneud.

Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch inni yn cael ei chadw’n hollol gydgyfrinachol yn yr adran gofal cymdeithasol. Os byddwn ni’n gorfod trafod yr wybodaeth hon â rhywun arall, byddwn yn gofyn am eich caniatâd fel rheol.  Yr unig eithriad i hyn yw os oes pryderon difrifol ynghylch lles eich plentyn.

Fe wyddom fod bron pob rhiant am wneud ei orau glas dros eu plant a bydd cwpla’r asesiad yn helpu’r gweithwyr cymdeithasol i weld yn union pa gryfderau sydd gyda chi a’ch teulu, yn ogystal â’ch anawsterau. 

ID: 1807, adolygwyd 20/10/2023

Beth ddylwn i ei wneud os wyf i'n becso am blentyn?

Rydym yn rhoi amddiffyniad a chymorth i blant sydd mewn perygl o gamdriniaeth. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch plant all fod mewn perygl o niwed ffoniwch y Canolfan Gyswyllt 01437 764551. Rhif ffôn y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau 0300 333 2222.

Os ydych yn meddwl bod plentyn mewn perygl dybryd, ffoniwch 999.

Rydym i gyd yn rhannu cyfrifoldeb dros sicrhau bod plant yn cael eu gwarchod rhag niwed. Mae diogelu yn fusnes i bawb. Os oes gennych chi neu eraill bryderon ynghylch diogelwch neu bosibilrwydd perygl i blentyn neu rywun ifanc, eich cyfrifoldeb chi yw gweithredu ar y pryderon hynny.

Os ydych yn amau bod plentyn neu rywun ifanc mewn perygl:

  • peidiwch fyth â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn rhoi gwybod
  • peidiwch fyth ag oedi cyn mynegi eich pryderon ar y rhif uchod
  • peidiwch â phryderu y gallwch fod yn anghywir - mae'n well trafod eich pryderon gyda rhywun sydd â'r profiad i wneud asesiad

Fe all camdriniaeth fod ar lawer ffurf, gan gynnwys y canlynol:

  • Camdriniaeth gorfforol: e.e. taro, ysgwyd, llosgi neu sgaldian, gwenwyno bwriadol, mygu neu niweidio plentyn yn gorfforol mewn unrhyw ffordd arall.
  • Camdriniaeth emosiynol: e.e. dweud wrth blant eu bod yn ddiwerth neu'n ddigariad, eu bychanu, achosi iddynt deimlo'n ofnus, neu ofyn iddynt wneud rhywbeth nad yw'n rhesymol o'u hoed.
  • Camdriniaeth rywiol: e.e. annog neu orfodi plentyn i gyfranogi mewn gweithredoedd rhywiol amhriodol. Gall hyn gynnwys cyffwrdd corfforol neu ddangos deunydd pornograffaidd i blentyn.
  • Esgeulustod: e.e. peidio â darparu digon o fwyd, cynhesrwydd, diogelwch, sylw meddygol, addysg neu symbyliad meddyliol.
  • Camfanteisio ar Blant: e.e. defnyddio plentyn er budd ariannol, boddhad rhywiol, esgor neu fantais bersonol.


I gael rhagor o wybodaeth:

Anfonwch bob ffurflen atgyfeirio diogelu amlasiantaethol (MARFS) i’r e-bost ccatduty@pembrokeshire.gov.uk

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol e-bostiwch Tîm Asesu Gofal Plant - ccat@pembrokeshire.gov.uk

Tîm Gofal Cymdeithasol Allan o Oriau: 0300 333 2222

Yr Heddlu: 101 (999 mewn argyfwng)

NSPCC: 0808 800 5000

ID: 1808, adolygwyd 02/10/2024

Sut gallwch chi gysylltu â ni os ydych yn blentyn?

Gallwch chi ein ffonio eich hun ar unrhyw un o'r rhifau uchod neu dywedwch wrth oedolyn rydych yn ymddiried ynddo i gysylltu â ni ar eich rhan ac fe wnawn ein gorau i'ch helpu.

Tîm Asesu Gofal Plant – 01437 764551  CCAT@pembrokeshire.gov.uk

Tîm Gofal Cymdeithasol y Tu Allan i Oriau: 0300 333 2222

Fel arall, os oes angen i chi siarad â rhywun neu os oes angen rhywfaint o gyngor arnoch, gweler yr adran Rhagor o gyngor a chymorth i gael rhestr o'r gwasanaethau sydd ar gael

ID: 1809, adolygwyd 01/10/2024