Desg Gymorth Eiddo
Beth yw'r Ddesg Gymorth Eiddo?
Darperir gwasanaeth y Ddesg Gymorth Eiddo i ymateb i ymholiadau’r cyhoedd yn ymwneud ag eiddo, tir neu asedau sy’n eiddo i Gyngor Sir Penfro.
Mae ein tîm yn delio ag ymholiadau sy’n ymwneud â’r canlynol:
- Gosodiadau masnachol a thenantiaethau, gan gynnwys ymweld â'r unedau sydd ar gael
- Gwaredu (gwerthu) eiddo ac asedau Cyngor Sir Penfro
- Ymholiadau perchnogaeth a ffiniau yn ymwneud â thir ac eiddo'r Cyngor
- Fforddfreintiau a hawddfreintiau ar dir y Cyngor
- Rhoi trwyddedau ar gyfer digwyddiadau, canfod metel, ac awdurdodi defnyddio Cerbydau Awyr Di-griw (dronau) a ffilmio ar dir y Cyngor
- Ceisiadau am angorfeydd yn harbwr Dinbych-y-pysgod a harbwr Cwm Gwaun Abergwaun.
- Ceisiadau am randiroedd
- Marchnadoedd Abergwaun, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod
- Ystad y ffermydd sirol
- Archwilio coed ar dir y Cyngor
- Trosglwyddo asedau cymunedol
- Ceisiadau i brynu tir gardd
Cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Eiddo os oes gennych ymholiad.
Sylwer: Nid yw ein tîm yn cadw gwybodaeth am briffyrdd, cynllunio, perchnogaeth trydydd parti na thai. Er mwyn arbed amser wrth wneud eich ymholiad, cysylltwch â'r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol am gymorth pellach.
ID: 9807, adolygwyd 22/03/2023