Rheoli Eiddo ac Asedau

Beth mae'r tîm Rheoli Eiddo ac Asedau yn ei wneud?

Mae'r tîm Rheoli Eiddo ac Asedau yn gyfrifol am bortffolio asedau Cyngor Sir Penfro i alluogi darpariaeth effeithiol o holl wasanaethau'r Cyngor. Mae’r portffolio eiddo yn eang ac yn cynnwys ysgolion, canolfannau ieuenctid, canolfannau teuluoedd, hosteli, canolfannau cymunedol, adeiladau gweinyddol, lleoliadau manwerthu, neuaddau marchnad, lleiniau garej, meysydd parcio, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, safleoedd amwynder dinesig, amlosgfeydd a mynwentydd, harbwrs, cyfleusterau cyhoeddus, rhandiroedd, meysydd chwarae, mannau agored, ffermydd sirol a thir pori, asedau cymunedol a maes awyr.

ID: 9806, adolygwyd 22/03/2023