Tir Comin
Tir Comin a Meysydd Pentref
Tir Comin a Meysydd Pentref
Mae tuag 8.4% o Gymru’n dir comin cofrestredig yn dod i ryw 175,000 hectar. Prif nodweddion tir o’r fath yw ei fod yn gyffredinol agored, heb ffensys ac yn ddiarffordd - yn enwedig yn ucheldiroedd Cymru a Lloegr.
Nid oes unrhyw un diffiniad o dir comin a chaiff ei ddiffinio’n wahanol dan amrywiol ddeddfau. Fodd bynnag, yr ystyr cyffredinol yw tir sydd â hawliau tir comin. Hawliau tir comin yw hawliau (fel arfer o natur amaethyddol) sy’n cael eu harfer gan bobl sydd heb unrhyw berchenogaeth yn y pridd.
Mae tir comin yn ffurfio rhyw 5653ha o Sir Benfro neu 3.5% o arwynebedd y tir (gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro). Mae 249 comin, 113 ohonynt yn llai nag un hectar, a’r mwyaf, Mynydd Preseli, yn 2132ha. Mae 17% o diroedd comin Cymru yn Sir Benfro. Mae 42 o Feysydd Pentref gydag arwynebedd o ryw 52ha.
Rheoli Tir Comin
Mae llawer o diroedd comin yn dal yn bwysig i amaethyddiaeth gan wasanaethu budd economaidd cymunedau amaeth. Ar hyn o bryd mae diffyg peirianwaith effeithiol ar gyfer rheoli gweithgarwch amaethyddol, yn arbennig pori, ar diroedd comin. Weithiau gall hyn arwain at orbori difrifol a difrodi’r pridd o ganlyniad.
Meysydd Trefi neu Bentrefi
Fel arfer, meysydd pentref yw darnau o dir mewn bro ddiffiniedig lle gall y trigolion lleol fwynhau chwaraeon a difyrion lleol. Tra bo meysydd pentref yn gallu bod mewn dwylo preifat, mae llawer ohonynt yn eiddo ac yn cael eu cynnal gan gynghorau cymuned.
Daeth Adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i rym yng Nghymru ar 6 Medi 2007. Bellach, gall unrhyw un wneud cais i gofrestru tir fel maes pentref os yw pobl leol yn ei ddefnyddio ar gyfer adloniant ‘fel hawl’ (h.y. heb ganiatâd, grym neu gyfrinachedd) am o leiaf 20 mlynedd.
Tîm Cadwraeth
Ffôn: 01437 764551
E-bost: commonland@pembrokeshire.gov.uk